Ewch i’r prif gynnwys

Cymry yn yr Ariannin

6 Gorffennaf 2015

Patagonia Flag

Cynhelir digwyddiad pwysig heddiw i ddathlu 150 mlynedd ers sefydlu'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia

Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, sy'n cynnal y digwyddiad hwn ar 6 a 7 Gorffennaf 2015, a bydd y gynhadledd ryngwladol yn canolbwyntio ar hanes a sefyllfa gyfoes y Wladfa.

Bydd y digwyddiad deuddydd yn cynnwys papurau a thrafodaethau ar amrywiaeth eang o bynciau yn ymwneud â'r Cymry ym Mhatagonia, gan gynnwys agweddau ieithyddol, llenyddol, addysgol, daearyddol a chymdeithasol.

Un o'r pethau nodedig am y gynhadledd hon yw bod tua hanner y siaradwyr wedi eu geni a'u magu yn yr Ariannin. Dyma gyfle gwych felly i gael golwg ar y Wladfa - ddoe, heddiw ac yfory - trwy lygaid pobl o Gymru ac o Batagonia.

Bydd sesiynau'r gynhadledd yn cynnwys 'Holl daith yr anialwch i gyd': profiad y Gwladfãwyr cynharaf', 'Gamechangers: the women who made Y Wladfa possible', a 'Representations of the Welsh Settlement and its cultural heritage in Chubut's educational and historical literature'.

Canolfan Uwchefrydiau Cymry America (sydd yn rhan o Ysgol y Gymraeg) sydd wedi trefnu'r gynhadledd mewn cydweithrediad â Chymdeithas Cymru-Ariannin, Adran Diwylliant y 18fed a'r 19eg Ganrif ac Adran Ethnoleg ac Astudiaethau Gwerin Cymdeithas Cyn-Fyfyrwyr Prifysgol Cymru, a chyda chymorth hael Prifysgolion Santander.

Dywed yr Athro E. Wyn James, o Ganolfan Uwchefrydiau Cymry America: "Roedd sefydlu'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia yn antur arwrol ac iddi arwyddocâd cenedlaethol a rhyngwladol. Mae ei hanes a'i datblygiad yn codi pob math o gwestiynau diddorol a pherthnasol ynghylch hunaniaeth ac ymfudo. Dyma'r tro cyntaf i gynifer o arbenigwyr o Gymru ac Ariannin ddod ynghyd i drafod y Wladfa. Mae pob argoel y bydd y gynhadledd hon yn garreg filltir o bwys yn hanes astudio'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia."

Mae'n briodol iawn mai Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd sydd yn trefnu'r gynhadledd bwysig hon, oherwydd y mae gan yr Ysgol gysylltiadau cryf â'r Wladfa ers blynyddoedd lawer. Cynigir modiwl ar 'Hunaniaeth a Diwylliant y Wladfa' i fyfyrwyr israddedig yr Ysgol ac mae ysgoloriaethau ar gael yn flynyddol i rai ohonynt fynd i'r Wladfa am gyfnod o brofiad gwaith.

Mae aelodau o staff yr Ysgol yn darlithio ac yn cyhoeddi'n gyson ar wahanol agweddau ar iaith a diwylliant y Wladfa, ac mae ei Chanolfan Dysgu Cymraeg i Oedolion yn bartner allweddol yng Nghynllun yr Iaith Gymraeg yn Chubut.

Nid oes unrhyw dâl am fynychu'r gynhadledd, ond gofynnir i bawb gofrestru ymlaen llaw. Mae rhaglen lawn y gynhadledd ar gael yma.

Rhannu’r stori hon