Ewch i’r prif gynnwys

Will Hutton i annerch cynhadledd gwyddorau cymdeithasol fwyaf blaenllaw Cymru

30 Mehefin 2015

Will Hutton

Cynhelir cynhadledd gwyddorau cymdeithasol fwyaf Cymru yn Stadiwm y Mileniwm Caerdydd yr wythnos hon

Mae cynhadledd flynyddol Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD), a gynhelir am y chweched tro eleni, yn dod ag ymarferwyr, llunwyr polisïau a gwyddonwyr cymdeithasol ynghyd i drafod themâu fel iechyd; gofal cymdeithasol; lles; addysg; diwylliant a gwerthoedd; yr amgylchedd; marchnadoedd llafur; datganoli; a chymdeithas sifil.

Eleni, bydd yr economegydd gwleidyddol a chyn-brif olygydd papur newydd The Observer, Will Hutton, yn traddodi un o'r prif areithiau yn y digwyddiad.

Bydd ymchwilwyr academaidd ac anacademaidd yn rhannu eu hymchwil yn y gynhadledd sydd bellach wedi ennill ei phlwyf fel digwyddiad pwysig yng nghalendr y gwyddorau cymdeithasol.  Ni all unrhyw un sy'n ymwneud â materion cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol yn y Gymru gyfoes fethu'r gynhadledd hon lle bydd dros 120 o bapurau, posteri a sesiynau panel yn cael eu cyflwyno eleni.

Mae'r pynciau o dan sylw eleni'n cynnwys: y bwlch rhwng cyflogau dynion a menywod; dyfodol y Gymraeg yng Nghymru; gofal lliniarol i bobl â dementia; profiadau pobl ifanc yn y farchnad lafur; a'r defnydd o e-sigaréts ymhlith pobl ifanc.

Yn ogystal â Will Hutton, bydd Ann Keane, cyn-Brif Arolygydd EM Estyn, a Karl Wilding, Cyfarwyddwr Polisi Cyhoeddus yng Nghyngor Cenedlaethol y Mudiadau Gwirfoddol (NCVO), yn traddodi areithiau hefyd.

Mynegodd Cyfarwyddwr WISERD, yr Athro Ian Rees Jones, ei foddhad ar y siaradwyr yng nghynhadledd eleni: "Rydym wedi tyfu'n raddol dros y blynyddoedd, a'r gynhadledd eleni, ein chweched hyd yma, yw'r gyntaf i gael ei chynnal dros dri diwrnod. Mae'n wych gweld dros 120 o bapurau, posteri a sesiynau panel ar y rhaglen, ac edrychaf ymlaen at glywed gan ein prif siaradwyr a chymryd rhan mewn amrywiaeth gyffrous o drafodaethau.

Mae cynadleddau WISERD yn gyfle i gydweithwyr sy'n gweithio ym meysydd economaidd, polisi, cyhoeddus a'r trydydd sector i ddod ynghyd i drafod yr ymchwil ddiweddaraf. Maent hefyd yn gyfle i ni i ddysgu am yr ystod eang o ymchwil PhD cyffrous a gynhelir ledled Cymru."

Yr Athro Colin Riordan, Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, fydd yn agor cynhadledd flynyddol WISERD, a dyma beth oedd ganddo i'w ddweud amdani: "Mae cynhadledd WISERD yn gyfle gwych i ymgysylltu â'r ymchwil ddiweddaraf a gynhelir ym maes gwyddorau cymdeithasol. Mae'r gynhadledd yn ffordd ardderchog o hybu rhwydweithio ac ysgogi trafodaeth ar draws nifer fawr o sectorau, ac mae Prifysgol Caerdydd yn falch o fod yn gysylltiedig â WISERD - sy'n parhau i ysbrydoli ac ysgogi cydweithredu ac ymgysylltiad ym maes ymchwil."

Cynhelir Cynhadledd Flynyddol WISERD 2015 rhwng dydd Mawrth, 30 Mehefin a dydd Iau, 2 Gorffennaf yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd.

Rhannu’r stori hon