Ewch i’r prif gynnwys

Archeolegwyr yn darganfod tystiolaeth 'ddigyffelyb ar lefel fyd-eang' o arferion gwledda cynhanesyddol Cymru

11 June 2015

Animal remains
gweddillion anifail - Amgueddfa Cymru

Mae gwaith ymchwil newydd gan archeolegwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi dangos tystiolaeth 'ddigyffelyb ar lefel fyd-eang' o arferion gwledda cynhanesyddol unigryw yn ne Cymru oedd yn ymwneud â phorc yn bennaf

Ar ôl 10 mlynedd o gloddio a gwaith ymchwil, mae dadansoddiad o esgyrn anifeiliaid oedd mewn tomen neu 'domen sbwriel' mewn safle gwledda cynhanesyddol yn Llan-faes, Bro Morgannwg, wedi datgelu defod newydd o wledda torfol oedd yn canolbwyntio'n benodol ar chwarthorion blaen moch.

Mae'r ymchwil - oedd yn brosiect ar y cyd rhwng Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd y Brifysgol ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru - wedi rhoi cipolwg rhyfeddol ar fywydau hynafiaid cynhanesyddol Cymru.

Mae'r ymchwil, a gyhoeddwyd yr wythnos hon yng nghyfnodolyn archaeoleg Antiquity, yn rhoi manylion canlyniadau'r dadansoddiad a astudiodd dros 70,000 o ddarnau o esgyrn - y casgliad mwyaf o esgyrn anifeiliaid cynhanesyddol erioed i gael ei ddarganfod yng Nghymru.

Yn ôl yr ymchwilwyr, anaml iawn y ceir goroesiad o'r fath mewn gwlad lle mae tystiolaeth o hen ffyrdd o fyw yn cael ei cholli fel arfer oherwydd yr asid sydd yn y pridd.

Yr un mor arwyddocaol yw darganfod bod y rhan fwyaf o esgyrn y moch yn dod o un chwarter yn unig o'r anifail - y chwarthor blaen ar y dde - gan awgrymu bod patrwm penodol o wledda.

Mae dadansoddiad biomolecwlaidd o ddannedd ac esgyrn hefyd wedi dangos na chafodd llawer o'r moch eu magu'n lleol ac y gallent fod wedi'u cludo i'r safle o gryn bellter i ffwrdd. Byddai hyn wedi bod yn gamp aruthrol ym Mhrydain cynhanesyddol.

Gan ddefnyddio'r dulliau gwyddonol diweddaraf, helpodd osteoarchaeolegydd y Brifysgol, Dr Madgwick, i ail-greu'r gloddestau seremonïol hyn. Roedd y rhain yn denu pobl a'u hanifeiliaid o'r ardal leol a thu hwnt er mwyn cael eu gweld yn gwledda ar raddfa fawr.

Cynhaliwyd yr ymchwil gan Dr Madgwick, a'r cyd-awdur Dr Jacqui Mulville, darllenydd mewn Bioarchaeoleg, mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru a arweiniodd gwaith cloddio'r ymchwil.

Dywedodd Dr Madgwick: Er mawr syndod, moch oedd bron 80% o weddillion yr anifeiliaid yn Llan-faes, a hynny ar adeg pan roedd defaid a gwartheg yr anifeiliaid mwyaf poblogaidd o ran bwyd, yn hytrach na phorc. Hwyrach mai'r hyn sy'n fwy rhyfeddol yw bod y rhan fwyaf o esgyrn y moch yn dod o un chwarter o'r anifail yn unig - y chwarthor blaen ar y dde. Mae'n bosibl bod pob teulu wedi gorfod rhoi'r un math o gig er mwyn eu cynnwys yn y wledd - gan olygu y byddai pawb yn gorfod lladd mochyn i anrhydeddu'r wledd.

"Mae'r patrwm penodol hwn o wledda ar un chwarter yn unig o un rhywogaeth yn rhywbeth sydd heb ei weld yn un unman ledled y byd. Mae'n arbennig o drawiadol gan iddo barhau dros gyfnod o ganrifoedd yn ystod Oes yr Haearn."

Mae Dr Madgwick yn credu byddai gan yr arferion caeth hyn rôl o safbwynt cydlyniant cymunedol.

Ychwanegodd: "Buasai cymunedau de Cymru a thu hwnt ar ddechrau Oes yr Haearn wedi bod yn rhai bychain ac ar wasgar. Fodd bynnag, byddai'r gloddestau hyn wedi cynrychioli cyfnod o undod pan fyddai pobl wedi dod ynghyd i wledda ar chwarthor blaen mochyn, yn yr un modd â'u cyndeidiau."

Ychwanegodd Adam Gwilt, Prif Guradur Cynhanesyddol Amgueddfa Cymru, ac un o gyd-gyfarwyddwyr yr amgueddfa ar gyfer y prosiect:
"Nid yr hyn oedd yn digwydd bob dydd a boliau llawn yn unig y mae tomenni'n eu datgelu. Maent hefyd yn datgelu sut roedd pobl yn meddwl ac yn byw, yn ogystal ag arferion, gwerthoedd a chredoau'r cyfnod. Roedd gwledda cymunedol yn arfer oedd yn cysylltu rhannau pellennig o Ewrop yr Iwerydd yn ystod diwedd yr Oes Efydd. Roeddent yn cynnig cyfleoedd i fynegi a thrafod cysylltiadau rhwng pobl bwerus, a chynnal a rhwymo cysylltiadau, cynghreiriau a chyfnewidfeydd."

Mae'r ymchwil yn mynd rhagddo ac mae Dr Madgwick wrthi'n ymgymryd â dadansoddiad gwyddonol arall i ddatgelu patrymau gwledda tymhorol, dulliau coginio a'r ffyrdd yr oedd bwyd yn cael ei baratoi.

Share this story