Ewch i’r prif gynnwys

Gweithredu diwydiannol – Llythyr agored gan yr Is-Ganghellor at fyfyrwyr

19 Chwefror 2018

Main building

Annwyl fyfyrwyr,

Bydd llawer ohonoch yn ymwybodol y bydd rhai o aelodau Undeb y Prifysgolion a Cholegau (UCU) yn gweithredu’n ddiwydiannol cyn bo hir.

Mae staff yn streicio ynghylch y newidiadau arfaethedig i Gynllun Pensiwn y Prifysgolion (USS).

Mae'r streic yn berthnasol i brifysgolion eraill yn y DU, ac nid Prifysgol Caerdydd yn unig.

Bydd y Brifysgol ar agor fel arfer.  Ni fydd yr holl staff ar streic, a dylech dybio y bydd eich darlithoedd, seminarau a gweithgareddau dysgu ac addysgu eraill yn mynd rhagddynt yn ôl yr amserlen, oni bai eich bod yn gwybod fel arall.

Yn ogystal, bydd modd i chi ddefnyddio gwasanaethau’r Brifysgol drwy gydol cyfnod y streic.

Hoffwn ymddiheuro i chi ymlaen llaw os bydd hyn yn tarfu arnoch mewn unrhyw ffordd. Gallaf eich sicrhau ein bod yn gweithio'n galed i wneud yn siŵr y bydd y streic yn cael cyn lleied o effaith â phosibl ar ein myfyrwyr.

Mae rhywfaint o gefndir y mater i’w gweld isod yn ogystal â gwybodaeth am sut byddwn yn eich cefnogi drwy gydol cyfnod y gweithredu diwydiannol.

Yn ogystal, y pwnc hwn a gafodd y prif sylw yn fy negeseuon ebost i’r holl staff ym mis Tachwedd a mis Ionawr. Mae’r rhain ar gael i'w darllen ar flog Bwrdd Gweithredol y Brifysgol sydd ar wefan y Brifysgol.

Darllenwch fy ebost at yr holl staff ym mis Tachwedd

Darllenwch fy ebost at yr holl staff ym mis Ionawr

Pam mae staff y Brifysgol yn streicio?

Mae UCU (gan gynnwys staff academaidd a'r gwasanaethau proffesiynol) wedi cadarnhau cynlluniau i fynd ar streic oherwydd newidiadau arfaethedig i gynllun pensiwn cenedlaethol o'r enw Cynllun Pensiwn y Prifysgolion (USS).

Dros y misoedd diwethaf bu llawer iawn o drafod ynghylch USS a'i brisiad diweddaraf. Datgelodd y ddau brisiad diwethaf o’r Cynllun (yn 2011 a 2014) ddiffyg arian sy'n cyrraedd biliynau. Mae’n broblem sy’n wynebu’r rhan fwyaf o gynlluniau buddion penodol y DU.

Mae cynnig i addasu’r cynllun pensiwn wedi’i gynnig er mwyn mynd i’r afael â’r diffyg. Ym mis Mawrth, ymgynghorir â holl aelodau’r Cynllun ynglŷn â’r cynnig hwn.

Mae'r cynnig yn golygu symud oddi wrth y cynllun cyfredol o'r enw buddion diffiniedig i un o'r enw cyfraniadau diffiniedig. O dan y cynnig, byddai prifysgolion yn parhau i dalu 18% o gyflog pob aelod i mewn i’r cynllun. Ni fydd y newidiadau yn effeithio ar unrhyw fuddion pensiwn a gronnwyd hyd at fis Ebrill 2019.

Mae pryder aelodau’r Cynllun yn gwbl ddealladwy. Does neb am fod yn ein sefyllfa bresennol; mae'n anodd i'r cyflogwr a'r gweithiwr fel ei gilydd.

Fodd bynnag, rydym yn wynebu amgylchiadau allanol anodd. Rydym yn awyddus i gynnig cynllun pensiwn cryf i’n holl staff, ond mae angen i ni sicrhau cynaliadwyedd ariannol y Brifysgol. Rydym yn elusen sydd â rhwymedigaeth i wneud yn siŵr bod arian yn cael ei wario ar ein prif ddiben, addysgu ac ymchwil, ac mae costau staff yn amlwg yn elfen allweddol o hyn.

Rydym wedi ymrwymo i dalu 18% o gyflogau fel yr ydym yn ei wneud ar hyn o bryd o dan y Cynllun. Fodd bynnag, ni allwn fforddio cyfrannu at yr 11% ychwanegol o gyflogau a fyddai’n angenrheidiol drwy'r cynllun presennol (buddion diffiniedig) yn y dyfodol. Ni fyddai hyn yn gynaliadwy yn y tymor hir, a dyna pam mae'r Brifysgol o blaid symud i gynllun arall (cyfraniadau diffiniedig) ar gyfer staff.

Mae angen i ni ddod o hyd i ateb sy'n fforddiadwy i gyflogwyr ac aelodau fel ei gilydd. Nid ydym am weld aelodau’n gorfod cymryd toriad o bron i 4% yn eu cyflog (oherwydd byddai eu cyfraniadau'n codi). Ni allwn ychwaith oddef rhoi’r Brifysgol mewn sefyllfa ariannol anghynaladwy a allai arwain at anfodlonrwydd ymysg myfyrwyr, a gostyngiad cyffredinol mewn perfformiad. Byddai'n rhaid i brifysgolion dderbyn cynnydd o dros 7% yng nghostau cyflogau, sydd dros £10m yn ein hachos ni.

Pryd bydd y gweithredu diwydiannol yn digwydd?

Dyma ddyddiadau’r streic:

Dydd Iau 22 a dydd Gwener 23 Chwefror (dau ddiwrnod)

Dydd Llun 26, dydd Mawrth 27 a dydd Mercher 28 Chwefror (tri diwrnod)

Dydd Llun 5, dydd Mawrth 6, dydd Mercher 7 a dydd Iau 8 Mawrth (pedwar diwrnod)

Dydd Llun 12, dydd Mawrth 13, dydd Mercher 14, dydd Iau 15 a dydd Gwener 16 Mawrth (pum niwrnod).

Mae gan aelodau hawl i fynd ar streic i amddiffyn eu sefyllfa bresennol, ac mae’r Brifysgol yn parchu'r hawl honno. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwn yn canolbwyntio ar wneud yn siŵr na fydd hyn yn tarfu’n ormodol ar waith y Brifysgol ac y caiff gyn lleied o effaith â phosibl ar fyfyrwyr.

Sut bydd y Brifysgol yn cefnogi myfyrwyr yn ystod y cyfnod o weithredu diwydiannol?

Bydd y Brifysgol yn parhau i fod ar agor yn ystod cyfnod y gweithredu diwydiannol a bydd modd i chi ddefnyddio gwasanaethau gan gynnwys llyfrgelloedd, campfeydd a gwasanaethau cefnogi myfyrwyr, o hyd. Fodd bynnag, gallai fod rhywfaint o darfu, a gallai hyn yn effeithio ar rai darlithoedd a gwasanaethau.

Ein nod yw rhoi cymaint o rybudd i chi â phosibl os bydd eich darlithoedd a'ch seminarau'n cael eu heffeithio. Fe gewch eich hysbysu drwy sawl cyfrwng a allai gynnwys negeseuon testun, ebost, Dysgu Canolog a'r fewnrwyd, felly gwnewch yn siŵr bod eich manylion cyswllt cywir yn SIMs. Gallwch wirio eich manylion yma.

Nid oes rhaid i staff hysbysu'r Brifysgol am eu bwriad i streicio, sy'n golygu efallai na fyddwn bob amser yn gallu eich rhybuddio ymlaen llaw am ddarlithoedd sy'n cael eu canslo neu wasanaethau sy'n cael eu heffeithio. Fodd bynnag, byddwn yn rhannu gwybodaeth fanwl pan fydd modd i ni wneud hynny.

Ein blaenoriaeth a'n hymrwymiad yw gwneud yn siŵr bod pob myfyriwr yn gallu cyflawni'r deilliannau dysgu sy'n gysylltiedig â'ch rhaglen a modiwlau astudio. Gallai hyn gynnwys aildrefnu darlithoedd, darlithoedd gan gydweithiwr academaidd arall, neu ddarlithoedd newydd neu flaenorol sydd wedi eu recordio. Byddwn hefyd yn aildrefnu'r holl ddyddiadau cyflwyno sydd ar un o ddiwrnodau'r streic, lle bo hynny’n bosibl.

Gallwn eich sicrhau ein bod yn gweithio'n galed i leihau unrhyw effaith andwyol y gallai gweithredu diwydiannol ei chael arnoch chi a’ch astudiaethau.

Os oes gennych broblemau penodol ar lefel eich Ysgol gallwch gysylltu â Swyddfa'r Ysgol fydd yn gallu eich cynghori neu eich cyfeirio at adrannau perthnasol o'r Brifysgol.

Byddwch yn cael eich hysbysu drwy nifer o sianeli a allai gynnwys testun, ebost, Dysgu Canolog a'r fewnrwyd.

Yn gywir,

Yr Athro Colin Riordan

Is-Ganghellor

Rhannu’r stori hon