Carthion a gwastraff anifeiliaid yn cael effaith ddifrifol ar arfordir y DU
13 Chwefror 2018
Mae dadansoddiad o ddolydd morwellt bregus gan Brifysgol Caerdydd a gwyddonwyr Prifysgol Abertawe wedi dangos bod llygredd cyson o garthffosiaeth a gwastraff da byw yn effeithio ar eu goroesiad.
Planhigion blodeuol sydd wedi'u haddasu i fyw yn y môr yw dolydd morwellt, ac fe roddwyd sylw iddynt yn ddiweddar ym mhennod 'Green Seas' o Blue Planet II y BBC. Maent wedi eu galw'n "caneris y môr", gan eu bod mor sensitif i amgylchedd sy'n newid. Fel y caneri yn y pwll glo, mae modd defnyddio eu cyflwr fel dangosydd o gyflwr ein hardaloedd arfordirol.
Mae lefelau cyson o lygredd uchel yn peryglu cadernid hirdymor y dolydd morwellt. Mae gwaith blaenorol wedi rhoi tystiolaeth bod llygredd maeth yn nodwedd gyson ledled Ynysoedd Prydain, ond y canfyddiadau newydd hyn sy’n rhoi’r arwydd mwyaf eglur hyd yma o'r ffynhonnell.
Dadansoddwyd meinweoedd dail i weld faint o nitrogen ac isotop sefydlog o nitrogen o'r enw 15N oedd ynddynt. Mae llawer mwy o 15N mewn gwastraff carthffosiaeth a da byw o gymharu â ffynonellau eraill. Felly, mae'r canlyniadau hyn yn cynnig dealltwriaeth unigryw o ble mae'r nitrogen mewn morwellt yn dod.
Roedd deg o'r 11 safle yn yr astudiaeth hon mewn ardaloedd morol sydd wedi’u gwarchod gan yr UE. Fodd bynnag, er eu bod yn cael eu diogelu o dan Gyfarwyddeb Cynefinoedd yr UE a bod rhai dolydd yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig dynodedig, roedd y rhan fwyaf o'r dolydd morwellt o dan sylw yn yr astudiaeth mewn cyflwr gwael, gyda lefelau nitrogen 75% yn uwch na’r cyfartaledd byd-eang.
Yn nyfrffordd Afon Tafwys y daethpwyd o hyd i’r dolydd morwellt gyda'r lefelau uchaf o nitrogen o garthion. Fodd bynnag, daeth i’r amlwg bod llawer iawn o faetholion o garthffosiaeth mewn dolydd morwellt ym Mae Studland, Dorset, ardal hynod boblogaidd i nofwyr a phobl mewn cychod.
Er bod lefelau uchel o faetholion carthffosiaeth wedi eu canfod, nid oedd yr un o'r lleoliadau hyn wedi’u dynodi fel rhai anaddas i nofwyr.
Dywedodd Benjamin Jones, un o gyfarwyddwr y Prosiect Morwellt ac ymchwilydd yn Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy Prifysgol Caerdydd: "Dyma'r tro cyntaf i ymchwil ddatgelu tarddiad llygredd sy'n effeithio ar iechyd dolydd morwellt ym Mhrydain. Er bod yr ardaloedd hyn o'r arfordir wedi’u gwarchod gan gyfraith yr UE, a bod llawer ohonynt yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, mae carthffosiaeth gan bobl a da byw heb ei drin yn mynd i mewn i'r môr o hyd..."
"Ar draws y byd, rydym yn colli morwellt ar gyfradd o 7% y flwyddyn a bydd poblogaethau arfordirol sy'n ehangu yn debygol o weld y cyfraddau dirywio’n cynyddu. Mae cael dealltwriaeth o'r bygythiadau lleol penodol i’r morwellt yn hanfodol os ydym am eu hamddiffyn. "
Ychwanegodd Dr Leanne Cullen-Unsworth o Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy Prifysgol Caerdydd: "Mae'r astudiaeth yn tynnu sylw at y ffaith bod dŵr gwastraff ffo yn fygythiad sylweddol i'n cynefinoedd arfordirol.
"Mae’r maetholion cynyddol mewn dyfroedd morol arfordirol yn Ynysoedd Prydain yn destun pryder, a gallai beri goblygiadau ar draws y system. Efallai bod rhai dolydd morwellt eisoes wedi’u heffeithio’n ormodol, ac mae amodau amgylcheddol anffafriol yn effeithio’n sylweddol ar y gobeithion o’u hadfer."
Dywedodd Dr Richard Unsworth o Brifysgol Abertawe: "Mae cyflwyno newidiadau sylweddol i’r seilwaith yn hollbwysig er mwyn lleihau effaith dŵr gwastraff ar ddolydd morwellt. Mae angen cynlluniau rheoli dŵr gwastraff strategol arnom sy'n effeithiol yn y tymor hir."
Ariannwyd yr astudiaeth gan Gronfa Gydnerth Ecosystem Llywodraeth Cymru, SEACAMS ac Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau, a thrwy Brifysgol Abertawe y cafodd yr arian ei weinyddu.
Cyhoeddir papur mynediad agored - Tracking nitrogen source using δ15N reveals human and agricultural drivers of seagrass degradation across the British Isles - yng nghylchgrawn Frontiers in Plant Science.