Ewch i’r prif gynnwys

Gwyddonwyr yn cynhyrchu'r dystiolaeth gryfaf hyd yma o achosion sgitsoffrenia

4 Mehefin 2015

Brain images MRI scan

Ymchwilwyr yn darganfod bod mwtadiadau peryglus yn amharu ar gydbwysedd cemegol union yn yr ymennydd, sy'n gyfrifol am sut mae'r ymennydd yn gweithio ac yn datblygu

Mae tîm rhyngwladol o wyddonwyr o dan arweiniad ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd wedi canfod y dystiolaeth gryfaf hyd yma o'r hyn sy'n achosi sgitsoffrenia - cyflwr sy'n effeithio ar tua 1% o boblogaeth y byd.

Mae eu gwaith, a gyhoeddwyd heddiw yng nghyfnodolyn Neuron, yn cyflwyno tystiolaeth gref am sut mae amharu ar gydbwysedd cemegol union yn yr ymennydd yn rhan amlwg o'r anhwylder.

Yn yr astudiaeth fwyaf erioed o'i math, gwelodd y tîm fod mwtadiadau sy'n gysylltiedig â chyflyrau yn amharu ar gyfres benodol o enynnau sy'n cyfrannu at signalau cynhyrfol ac ataliol, a bod gan y cydbwysedd rhyngddynt rôl hollbwysig yn y modd y mae'r ymennydd yn datblygu ac yn gweithio.

Mae'r llwyddiant hwn yn adeiladu ar ddwy astudiaeth nodedig a arweinwyd gan aelodau o dîm Prifysgol Caerdydd, a gyhoeddwyd y llynedd yng nghyfnodolyn Nature.

"O'r diwedd, rydym yn dechrau deall beth sy'n mynd o'i le mewn achosion o sgitsoffrenia," meddai'r prif awdur, Dr Andrew Pocklington o Ganolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig ym Mhrifysgol Caerdydd.

"Mae ein hastudiaeth yn gam mawr tuag at ddeall y fioleg sy'n sail i sgitsoffrenia. Mae'n gyflwr hynod gymhleth ac mae ei darddiad wedi bod yn ddirgelwch i raddau helaeth i wyddonwyr tan yn ddiweddar iawn.

"Gyda lwc, mae gennym ddarn eithaf sylweddol o'r jig-so erbyn hyn fydd yn ein helpu i ddatblygu model cydlynol o'r clefyd, yn ogystal â diystyru rhai o'r posibiliadau eraill.

"Mae angen model dibynadwy o'r clefyd ar frys i lywio ymdrechion yn y dyfodol wrth ddatblygu triniaethau newydd, sydd heb wella ryw lawer ers y 1970au."

Dywedodd yr Athro Hugh Perry, sy'n cadeirio Bwrdd Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl y Cyngor Ymchwil Feddygol: "Mae'r gwaith hwn yn adeiladu ar ein dealltwriaeth o achosion genetig sgitsoffrenia - gan ddangos sut y gall cyfuniad o namau genetig amharu ar gydbwysedd cemegol yr ymennydd.

"Mae gwyddonwyr yn y DU, fel rhan o gonsortiwm rhyngwladol, yn datgelu achosion genetig amrywiaeth o broblemau iechyd meddwl, fel sgitsoffrenia.

"Yn y dyfodol, gallai'r gwaith hwn arwain at ffyrdd newydd o ragfynegi risg unigolyn o ddatblygu sgitsoffrenia. Gall hefyd fod yn sail ar gyfer triniaethau newydd a dargedir sy'n seiliedig ar gyfansoddiad genetig yr unigolyn."

Mae ymennydd iach yn gallu gweithio'n iawn o ganlyniad i gydbwysedd union rhwng signalau cemegol sy'n cyffroi ac yn atal gweithgarwch celloedd y nerfau. Mae ymchwilwyr sydd wedi astudio anhwylderau seiciatrig yn flaenorol wedi amau bod amharu ar y cydbwysedd hwn yn cyfrannu at sgitsoffrenia.

Daeth y dystiolaeth gyntaf fod mwtadiadau sgitsoffrenia yn ymyrryd â signalau cynhyrfol i'r amlwg yn 2011 gan yr un tîm, yng Nghanolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae'r papur hwn yn cadarnhau'r canfyddiadau blaenorol yn ogystal â darparu tystiolaeth genetig gref am y tro cyntaf bod amharu ar signalau ataliol yn cyfrannu at yr anhwylder.

I ddod i'w casgliadau, edrychodd y gwyddonwyr ar ddata genetig 11,355 o gleifion â sgitsoffrenia o gymharu â grŵp o 16,416 oedd heb y cyflwr.

Chwilion nhw am fwtadiadau a elwir yn amrywiolion rhofau copi (CNVs) lle mae nifer helaeth o DNA yn cael ei ddileu neu ei ddyblygu. 

Drwy gymharu'r amrywolion oedd gan bobl â sgitsoffrenia â'r rheini oedd heb y cyflwr, roedd y tîm yn gallu dangos bod y mwtadiadau mewn unigolion oedd â'r anhwylder yn tueddu i amharu ar enynnau sy'n gysylltiedig ag agweddau penodol o sut mae'r ymennydd yn gweithio.

Tybir hefyd bod effeithiau'r amrywolion sy'n achosi'r clefyd yn gysylltiedig ag anhwylderau niwroddatblygol eraill fel anabledd deallusol, Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistiaeth ac ADHD.

Bydd sgitsoffrenia yn effeithio ar tua 635,000 o bobl yn y DU ar ryw adeg yn eu bywydau.
Amcangyfrifir bod sgitsoffrenia a seicosis yn costio tua £11.8 biliwn y flwyddyn i'r gymdeithas.

Gall symptomau sgitsoffrenia fod yn hynod aflonyddgar, a chael effaith enfawr ar allu unigolyn i gyflawni tasgau bob dydd, fel mynd i'r gwaith, cynnal perthynas a gofalu am eu hunain neu eraill.

Cafodd y gwaith ymchwil a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil Feddygol a Seithfed Rhaglen Fframwaith y Gymuned Ewropeaidd.

Cafodd y gwaith a gynhaliwyd gan aelodau eraill y tîm yn The Broad Institute of MIT a Harvard ei ariannu gan rodd ddyngarol i Ganolfan Stanley ar gyfer Ymchwil Seiciatrig.