Ewch i’r prif gynnwys

Ffactorau diwylliannol a seicolegol yn dal yr ysfa gystadleuol yn ôl mewn rhanbarthau gogleddol

11 Rhagfyr 2017

Economics

Mae diwylliant cymdeithasol sylfaenol a nodweddion seicolegol unigolion yn rhanbarthau a dinasoedd Prydain ymhlith y ffactorau sy’n dylanwadu ar ba mor gystadleuol yr ydynt yn economaidd yn gyffredinol.

Dyma un o’r canfyddiadau mewn adroddiad newydd sy'n cyhoeddi canlyniadau arolwg eang o ymddygiad unigolion ar draws rhanbarthau a dinasoedd Prydain a pherfformiad economaidd yr ardaloedd hyn.

Mae’r adroddiad, a luniwyd gan yr Athro Robert Huggins o Brifysgol Caerdydd a Dr Piers Thompson o Ysgol Busnes Nottingham, yn amlygu rhaniad amlwg rhwng y de a’r gogledd o ran gwerthoedd diwylliannol fel cydweithio a chydweithredu.

Cymru, yr Alban, gogledd-ddwyrain a gogledd-orllewin Lloegr yw’r rhanbarthau lle mae diwylliant o gydweithio ar ei amlycaf. Er bod ymddygiad a allai gael ei ystyried yn dderbyniol ac yn hydrin yn fwy cyffredin yn y rhanbarthau hyn yn ôl pob tebyg, mae'r rhanbarthau hyn yn wynebu diffygion sylweddol o ran pa mor gystadleuol yr ydynt.
Mae'r adroddiad yn dadlau bod nodweddion ymddygiadol o'r fath yn cael effaith negyddol ar berfformiad economaidd yn y rhanbarthau a’r dinasoedd sydd ar ei hôl hi yng ngogledd Prydain.

Yn gyffredinol, mae rhagor o unigolion sy'n fwy agored i syniadau newydd a newidiadau i’w canfod yn y rhannau mwyaf datblygedig ac sy’n gwneud orau yn economaidd ym Mhrydain, yn enwedig yn ne-ddwyrain Lloegr. Mae'r adroddiad yn awgrymu bod cael pobl sydd â’r bersonoliaeth 'gywir' mewn rhanbarth neu ddinas yn ffactor sy’n gallu cael cryn ddylanwad ar ei pherfformiad economaidd hirdymor. Mae rhanbarthau sydd â nifer uwch na’r arfer o bobl sydd â lefel uchel o ymrwymiad unigol, yn enwedig tuag at waith ac amcanion addysgol, yn tueddu i fod yn fwy cystadleuol. Unwaith eto, mae mwy o’r bobl hyn yn rhannau deheuol y wlad.

Mae’r ardaloedd sydd â chyfraddau uchel o amrywiaeth diwylliannol ac unigolion allblyg yn fwy tebygol o berfformio’n well yn economaidd. O gymharu ag ardaloedd eraill, mae gan Lundain a’r rhanbarthau cyfagos gyfran llawer uwch o bobl sy’n meddu ar y nodweddion seicolegol a’r phriodoleddau diwylliannol hyn. I’r gwrthwyneb, mae cyfraddau cystadleuol cymharol isel yn rhanbarthau gogledd Prydain sy’n fwy cymdeithasol gynhwysol.

Meddai’r Athro Huggins o Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd: "Mae ymddygiad cosmopolitan yn tueddu i feithrin mwy o gryfder economaidd, ac mae’n awgrymu’r posibilrwydd bod rhai rhanbarthau ac ardaloedd, sy’n aml yn y gogledd a rhannau mwy ymylol o Brydain, yn arddangos ymddygiad 'anghywir' o ran ysgogi datblygiad economaidd. Nid y dinasoedd a’r rhanbarthau hynny sydd â chyfran uchel o bobl sy'n portreadu ymddygiad derbyniol a chynhwysol sydd yn y sefyllfa orau i gynhyrchu'r cyfraddau datblygu economaidd uchaf. Gallai proffil diwylliannol a seicolegol o’r fath gynnig manteision cadarnhaol sylweddol o ran datblygiad cymdeithasol a lles, ond nid ydynt bob amser y cynhwysion 'cywir' ar gyfer ysgogi datblygiad economaidd yn ôl pob golwg.”

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn defnyddio meddwl beirniadol a gwybodaeth ymarferol i ddatrys problemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol er mwyn mynd i'r afael â’r heriau mawr y mae cymdeithasau dynol a lleoedd yn eu hwynebu heddiw.