Ewch i’r prif gynnwys

2017

Mae grŵp o fyfyrwyr ysgol uwchradd o Gaerdydd a'r cyffiniau wedi bod yn mynd i'r afael â phroblemau gwyddonol go iawn mewn gŵyl gemeg flynyddol a gynhelir ym Mhrifysgol Caerdydd.

Camodd y myfyrwyr i mewn i esgidiau gwyddonwyr fforensig wrth iddynt ddefnyddio eu sgiliau cemeg ddadansoddol i ddod o hyd i'r prif berson dan amheuaeth mewn trosedd ffug. Cymerodd y myfyrwyr ran mewn 'Her Prifysgol' lle bu'n rhaid iddynt ddatblygu 'dangosydd enfys' i brofi asidrwydd ac alcalinedd amrywiaeth o doddiannau.

Cynhaliwyd seremoni wobrwyo ar ddiwedd y dydd, lle cafodd myfyrwyr wobrau a thystysgrifau unigol, ynghyd â gwobrau ar gyfer ysgolion y timau buddugol.

Cymerodd tua 50 o fyfyrwyr o 12 o ysgolion ledled De Cymru ran yn yr Ŵyl.

Mae'r Ŵyl Gemeg, sy'n fwy na 15 mlynedd oed bellach, yn fenter gan Sefydliad Salters – sefydliad dielw â'r nod o helpu i hyrwyddo cemeg a gwyddorau cysylltiedig ymhlith y genhedlaeth iau.

Mae'r ŵyl ym Mhrifysgol Caerdydd yn un o blith 51 o Wyliau a gynhelir mewn Prifysgolion a Cholegau drwy gydol y DU a Gweriniaeth Iwerddon rhwng mis Mawrth a mis Mehefin 2017. Cynhelir yr ŵyl mewn partneriaeth â'r Gymdeithas Gemeg Frenhinol.

Mae'r ŵyl yn un o blith nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu a drefnir gan Ysgol Cemeg Prifysgol Caerdydd, er mwyn hyrwyddo maes cemeg i'r genhedlaeth iau, a'u hannog i ystyried gyrfa sy'n gysylltiedig â phynciau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg).

Dr Simon Pope, o'r Ysgol Cemeg, sy'n trefnu'r Ŵyl ar ran Prifysgol Caerdydd. Dywedodd: “Mae'n wych ein bod wedi cynnal Gŵyl Gemeg Sefydliad Salters yma ym Mhrifysgol Caerdydd unwaith eto...”

Mae Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC) wedi ennill gwobr adeiladau gwyddoniaeth flaenllaw, gan guro cyfleusterau eraill ar y rhestr fer yn UDA, Lloegr, yr Alban ac Iwerddon.

Enillodd CUBRIC gategori Adeilad Ymchwil Gwyddorau Bywyd yng Ngwobrau S-Lab 2017, sy'n cydnabod rhagoriaeth mewn adeiladau, cyfarpar, cyfleusterau a rheolaeth ym maes gwyddoniaeth.

Roedd y cyfleusterau eraill ar y rhestr fer yn y categori'n cynnwys Canolfan Sainsbury Wellcome Coleg Prifysgol Llundain, a phencadlys newydd Sefydliad Allen yn Seattle.

Hon yw'r drydedd gwobr i CUBRIC yn yr wythnosau diwethaf, ar ôl iddi ennill Prosiect y Flwyddyn a theitl Dylunio drwy Arloesi yng Ngwobrau RICS 2017, Cymru ym mis Ebrill.

At hynny, roedd CUBRIC yn yr ail safle yng nghategori Adeiladau sy'n Ysbrydoli yng Ngwobrau Prifysgol The Guardian 2017.

CUBRIC foyer

Mae'r ganolfan ar flaen y gad ym meysydd fel seicoleg, seiciatreg a niwrowyddoniaeth a chafodd ei hadeiladu ar ran Prifysgol Caerdydd gan CAPITA, IBI Group a BAM Construction Ltd.

Dywedodd Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Karen Holford: “Mae ennill gwobr sylweddol fel hon yn fraint fawr i Ganolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd...”

“Mae'r gwaith yn bwysig ar lefel fyd-eang, gan fod ymchwilwyr geisio cael dealltwriaeth well o'r hyn sy'n achosi cyflyrau niwrolegol a seiciatrig fel dementia a sglerosis ymledol. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn arwain at ddatblygu gwell driniaethau.”

The Queen arrives at CUBRIC

Mae CUBRIC yn cynnwys cyfleusterau sganio MRI pwerus, cyfarpar ysgogi'r ymennydd, labordai cwsg, swyddfeydd modern, a mannau ymgynnull.

Cafodd y cyfleuster £44m ei agor yn swyddogol gan y Frenhines yn 2016.

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn gofyn i'r cyhoedd eu helpu i ddarganfod a yw mannau gwyrdd y ddinas yn dechrau dod yn lloches ar gyfer gwenyn.

Yn dilyn prosiect arobryn Gwenyn Fferyllol y Brifysgol, sy'n defnyddio gwenyn i nodi cyffuriau sy'n deillio o blanhigion ac y gellir eu defnyddio i drin pathogenau mewn ysbytai sy'n gwrthsefyll gwrthfiotigau, bydd pobl Caerdydd yn cymryd rhan mewn arolwg ar-lein i gofnodi planhigion o gwmpas y ddinas sy'n denu gwenyn fel rhan o brosiect 'Spot a Bee', sydd newydd gael ei lansio.

Meddai'r Athro Les Baillie o Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd: “Mae angen cymorth pobl Caerdydd arnom i ddarganfod a yw parciau a gerddi cefn ein dinas yn cynnig cartref delfrydol i'n cyfeillion sy'n hedfan...”

Mae gwenyn yn hanfodol i barhad y blaned, ond mae eu niferoedd yn gostwng yn sylweddol. Yn ystod y 60 mlynedd ddiwethaf mae llawer o'u cynefin wedi cael ei golli, gan gynnwys 90% o'r caeau blodau gwyllt yn y DU.

Gallai ffermio dwys (un cnwd yn unig), plaladdwyr, newid hinsawdd, a phlâu fel Varroa fod wedi cyfrannu at ddirywiad sylweddol yn nifer y gwenyn yn ein tirweddau gwledig. Yn wahanol i'r cefn gwlad, mae ein trefi, parciau a gerddi cefn maestrefol yn cynnwys amrywiaeth eang o blanhigion a blodau o ledled y byd, a gallent fod yn lloches i wenyn.

Ychwanegodd yr Athro Price: “Rydym wedi ymrwymo i wneud Caerdydd yn ddinas sy'n addas i wenyn. Yn ogystal â'n prosiect Spot a Bee, rydym wedi bod yn annog pobl i blannu amrywiaeth o flodau gwyllt, boed hynny yn eu gerddi cefn neu mewn mannau mwy anarferol fel toeau adeiladau concrit mewn trefi, gan sicrhau nad yw niferoedd gwenyn yn edwino ymhellach ac fel ein bod yn creu amgylchedd trefol dymunol i fyw ynddo. Hefyd, drwy blannu blodau gwyllt penodol y mae eu neithdar i’w gael mewn mêl gwrthfacteria, rydym yn gobeithio dod o hyd i atebion i un o heriau mawr y byd – ymwrthedd i gyffuriau.”

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd wedi casglu dros 2000 o luniau o'r Aifft a Phalestina o'r Rhyfel Byd Cyntaf. Nid yw'r lluniau wedi'u gweld o'r blaen.

Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan Cronfa Dreftadaeth y Loteri, ac mae'r Athro Paul Nicholson a Dr Steve Mills o'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd wedi treulio'r ddwy flynedd ddiwethaf yn ceisio coffáu'r delweddau hyn o ryfel a chofnodi henebion o'r ardaloedd hyn. Dyma gofnod o'r rhyfel sy'n aml wedi'i esgeuluso.

Bu aelodau o'r cyhoedd yn rhannu lluniau, cardiau post ac atgofion o'r Rhyfel Byd Cyntaf gyda'r ymchwilwyr wrth iddynt deithio o amgylch Cymru a Lloegr.

Dywedodd yr Athro Nicholson: “Mae'r lluniau wedi'u casglu o ganlyniad i haelioni'r cyhoedd mewn cyfres o sioeau teithiol yng Nghymru a Lloegr ac felly maent yn cynrychioli adnodd sydd heb ei gyhoeddi na'i weld o'r blaen...”

Mae'r lluniau, sy'n cynnwys ffotograffau a dynnwyd gan filwyr a menywod, wedi'u digideiddio a'u llwytho ar wefan benodol y prosiect. Mae cyfle gan y cyhoedd i weld yr hyn a welodd eu hynafiaid, ynghyd â golwg newydd ar safleoedd archeolegol, cyfarpar milwrol a dinasoedd fel yr oeddynt yn ystod y rhyfel.

Wrth i'r prosiect dynnu tuag at ei therfyn, cynhelir darlith gyhoeddus a chynhadledd yn rhad ac am ddim i ddarganfod mwy am y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn benodol ei effaith ar y Dwyrain Canol. Cynhelir Views from an Antique Land ar 19 Mai (darlith) ac 20 Mai (cynhadledd) 2017. Mae'r tocynnau yn rhad ac am ddim a bydd hyn yn cynnwys cinio ar y dydd Sadwrn.  I gadw eich lle ewch yma.

Bydd modd gweld y lluniau yma.

Mae'r Athro Jamie Rossjohn, o'r Ysgol Meddygaeth, wedi cael ei ethol yn Gymrawd Academi'r Gwyddorau Meddygol – cymrodoriaeth sy'n cynnwys ymchwilwyr biofeddygol ac iechyd gorau'r DU.

Bydd Jamie yn ymuno â 45 o ymchwilwyr eraill yn y DU sy'n arwain y byd a gafodd eu hethol eleni. Mae pob un wedi'i ethol am ei gyfraniad at ymchwil biofeddygol ac iechyd, ac am droi'r ymchwil honno yn fanteision i'r gymdeithas.

Monash University Caulfield Campus

Mae Jamie yn Bennaeth Rhaglen Heintiau ac Imiwnedd yn Sefydliad Darganfod Biofeddygaeth ym Mhrifysgol Monash ac yn Athro Imiwnoleg Strwythurol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar ddeall sut mae'r system imiwnedd yn gweithio, ac yn monitro pob cam wrth iddi ein hamddiffyn rhag firysau, ynghyd â sefyllfaoedd lle mae'r system imiwnedd yn dechrau ymosod ar ein corff ein hun, fel yn achos awtoimiwnedd.

Un o uchafbwyntiau gyrfa Jamie oedd 2012, pan lwyddodd i ddarganfod sut gall celloedd-T yn y system imiwnedd ymateb i fetabolion fitamin B, a allai arwain at ddatblygu gwell frechlynnau a thriniaethau ar gyfer clefydau fel clefyd llid y coluddyn, wlserau peptig a thwbercwlosis.

Mae Jamie hefyd yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Cymrawd Llawryfog Awstralia ARC (2017-2012), ac yn flaenorol yn Gymrawd Awstralia NHMRC (2011-2016) a Chymrawd Ffederasiwn ARC (2007-2011). At ei gilydd, mae wedi cyhoeddi mwy na 300 o bapurau ac wedi mentora nifer o ymchwilwyr sy'n ceisio cael graddau uwch a chymrodoriaethau sy'n gystadleuol yn genedlaethol

Mae Prifysgol Caerdydd wedi symud i fyny naw o leoedd i safle 36 yn y 100 o Brifysgolion Mwyaf Arloesol yn Ewrop.

Mae'r Brifysgol wedi llwyddo i aros yn yr 8fed safle yn y DU, yn ôl ail restr flynyddol Reuters.

Mae rhestr Reuters yn nodi'r sefydliadau addysg sy'n gwneud y mwyaf i hybu gwyddoniaeth, dyfeisio technolegau newydd, a helpu i ysgogi'r economi fyd-eang.

Mae'r gynghrair yn seiliedig ar ddata gan gynnwys papurau academaidd, ceisiadau patent, dyfyniadau diwydiannol a chydweithio diwydiannol.

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Mae Arloesedd yn elfen ganolog o'n strategaeth, fel y mae ein buddsoddiad £300m yn ein Campws Arloesedd yn dangos. Rydym yn parhau i ddatblygu partneriaethau â byd diwydiant, cynhyrchu cwmnïau deillio, meithrin menter yn y byd academaidd, a chefnogi busnesau bach myfyrwyr."

Mae data diweddar gan Arolwg Rhyngweithio Addysg Uwch-Busnes a'r Gymuned (HE-BCI) yn cadarnhau canfyddiadau Reuters.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi sicrhau cynnydd o £13.3m yn ei chyllid ar gyfer ymchwil gydweithredol – y cynnydd mwyaf yn y DU.

Erbyn hyn, Caerdydd yw'r 2il yng Ngrŵp Russell o ran incwm eiddo deallusol – sef 98% o'r incwm eiddo deallusol ymhlith sefydliadau addysg uwch Cymru.

Mae Rhestr Reuters o'r 100 o Brifysgolion Mwyaf Arloesol yn cynnwys prifysgolion a cholegau technegol yn bennaf.

KU Leuven, prifysgol Iseldireg o ardal Ffladrys yng ngwlad Belg, yw prifysgol fwyaf arloesol Ewrop. Mae cysylltiad agos iawn rhwng y Brifysgol honno a Phrifysgol Caerdydd. Mae'r ddau sefydliad yn cydweithio i gynyddu incwm ymchwil, yn cydweithio ar waith ymchwil, ac yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr a staff astudio ac addysgu dramor.

Coleg Imperial Llundain yw'r ail yn y tabl. Ar y cyfan, mae tua 17 o sefydliadau'r DU ar y rhestr, gan gynnwys Rhydychen a Chaergrawnt.

Mae bron £38m yn cael ei fuddsoddi mewn technolegau Ffowndri ar gyfer Lled-ddargludyddion Cyfansawdd. Buddsoddir yr arian gan y deg cyngor sy'n rhan o Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Mae Prifysgol Caerdydd yn croesawu penderfyniad yr awdurdodau lleol i gefnogi datblygiad clwstwr o Led-ddargludyddion Cyfansawdd yn ne-ddwyrain Cymru.

Dyma'r buddsoddiad cyntaf ers i'r Fargen Ddinesig gwerth £1.2 biliwn, gael ei gymeradwyo'n ffurfiol gan y deg awdurdod lleol ym mis Mawrth.

Bydd yr arian yn helpu i greu cyfleuster modern o'r radd flaenaf ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd ar gyfer datblygu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd a'u defnyddio wrth wneud gwaith gweithgynhyrchu mawr. Bydd hyn yn creu'r clwstwr cyntaf o Led-ddargludyddion Cyfansawdd yn ne-ddwyrain Cymru.

Bydd y Ffowndri'n eiddo i'r deg cyngor, ond byddant yn prydlesu mannau i gwmnïau gweithgynhyrchu, datblygu a defnyddio Lled-ddargludyddion Cyfansawdd. Mae'r trafodaethau ynghylch lleoliad y safle yn parhau. Mae disgwyl i'r prosiect ddenu hyd at £365m o fuddsoddiad gan y sector preifat dros y pum mlynedd nesaf.

"Canolbwynt o'r radd flaenaf"

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Mae Lled-ddargludyddion Cyfansawdd wrth wraidd ein bywydau bob dydd, a gellir eu gweld mewn pethau rydym yn eu defnyddio bob dydd o ffonau, llechi, cyfathrebu dros loeren a thechnolegau laser."

"Mae'n cynnig cyfle euraidd i sefydlu'r clwstwr cyntaf o Led-ddargludyddion Cyfansawdd yn Ewrop a chreu canolbwynt o'r radd flaenaf i ddatblygu a masnacheiddio technolegau'r genhedlaeth nesaf."

Nod Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yw sefydlu'r rhanbarth fel arweinydd Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn Ewrop. Yn 2016 cyhoeddodd Innovate UK – asiantaeth arloesedd Llywodraeth y DU – fuddsoddiad gwerth £50m i sefydlu Catapwlt Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Caerdydd ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, Cymru. Mae'n adeiladu ar arbenigedd sy'n bodoli eisoes a buddsoddiad gan Brifysgol Caerdydd, IQE PLC, a Llywodraeth Cymru.

Cadwyn gyflenwi De Cymru

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, a Chadeirydd Cabinet Rhanbarthol y Fargen Ddinesig: "Nod yr ymrwymiadau hyn yw creu eco-system Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn ne Cymru, er mwyn manteisio ar amlygrwydd cynyddol technolegau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd. I wneud hyn, mae angen datblygu ac integreiddio Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn ne Cymru, a nodi'r manteision economaidd a chymdeithasol a ddaw o hyn."

Dywedodd y Cynghorydd Peter Fox, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy (y Cyngor sy'n arwain y prosiect), a'r Canghellor Anthony Hunt, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, sy'n cyd-arwain portffolio busnes ac arloesedd Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd: "Mae clystyrau o Led-ddargludyddion Cyfansawdd ar draws Ewrop, o gwmpas Eindhoven, Dresden, Leuven a Grenoble. Fodd bynnag mae'r rhain yn seiliedig ar dechnolegau silicon, felly mae hwn yn gyfle unigryw i Gymru sefydlu'r clwstwr cyntaf o Led-ddargludyddion Cyfansawdd yn y byd."

Dywedodd Dr Drew Nelson, Prif Weithredwr IQE plc: "Gwych o beth yw gweld arweinwyr cynghorau sydd â'r weledigaeth i fuddsoddi fel hyn."

Dywedodd Kevin Crofton, Cadeirydd Catapwlt Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Caerdydd: "Pleser o'r mwyaf yw bod yn gysylltiedig â menter mor fentrus. Anaml iawn y mae'r cyfle'n codi i fod yn rhan o rywbeth sy'n cael ei adnabod yn rhyngwladol; ac rydym yn teimlo bod y prosiect hwn yn gwneud hyn."

Gyda lwc, bydd y gwaith adeiladu yn dechrau yn gynnar yn haf 2017.

Find out more about the Institute for Compound Semiconductors.

Intern o Brifysgol Caerdydd yw'r cyntaf yng Nghymru i ddod o hyd i waith drwy raglen rhyngwladol o bwys. Mae'r rhaglen yn cynnig swyddi a chyfleoedd dysgu i bobl ifanc sydd ag anableddau.

Mae Andrew yn 23 ac yn dod o Gaerdydd, ac roedd yn un o'r 12 myfyriwr o Goleg Caerdydd a'r Fro (CAVC) sydd â chyflyrau fel cyflwr sbectrwm awtistig ac anableddau dysgu a gafodd gyfle i wneud interniaeth yn y Brifysgol.

Project SEARCH Interns

Fel rhan o Brosiect SEARCH, fe gwblhaodd dri interniaeth dros gyfnod o 10 wythnos yr un mewn siopau coffi yn y Brifysgol. Menter a ddechreuodd yn UDA ugain mlynedd yn ôl yw SEARCH.

Bellach mae Andrew wedi dod o hyd i swydd amser llawn yn Simply Fresh, yr archfarchnad ar Gampws Coleg Caerdydd a'r Fro yng nghanol y ddinas ar Heol Dumballs, Caerdydd.

Sgiliau Byw'n Annibynnol

Mae CF10, cangen masnachol a manwerthu'r Coleg yn cyflogi myfyrwyr yn aml gyda llawer ohonynt yn dod o Adran Sgiliau Byw'n Annibynnol y Coleg. Dyma'r Adran ar gyfer pobl sydd ag anghenion dysgu a chefnogaeth ychwanegol.

Dywedodd Andrew:“Roeddwn i'n hoffi gweithio yn y Brifysgol – roeddwn i'n gweithio yn y siopau coffi a mwynheais weithio gyda'r cyhoedd. Roedd o gymorth wrth sicrhau'r swydd hon yn Simply Fresh, er ei bod yn wahanol.

“Rwy'n hapus mod i wedi cael y swydd hon. Fe wnes i gyfnod o brofiad gwaith yma ar ôl gorffen y cwrs Sgiliau Gweithio Lefel 3, a mwynheais hynny. Mae'n hwyl gweithio yma.”

Project Search intern with tutor

Dywedodd Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Karen Holford: “Mae'n newyddion gwych mai Andrew yw'r intern cyntaf o Brosiect SEARCH, Prifysgol Caerdydd i ddod o hyd i waith. Llongyfarchiadau Andrew.

“Bu'n gweithio mewn sawl siop goffi yma yn y Brifysgol, felly mae'n wych ei fod wedi cael cynnig swydd lle gall wneud defnydd da o'r profiadau gwerthfawr hynny...”

Mae Prifysgol Caerdydd ymhlith un o dair prifysgol yn unig yn y DU sy'n cymryd rhan yn Prosiect SEARCH, gyda chefnogaeth gan Goleg Caerdydd a'r Fro ac Asiantaeth Cefnogi Cyflogaeth ELITE. Ariennir y cynllun yng Nghymru gan brosiect Ymgysylltu Er Mwyn Newid ehangach sy'n gweithio gyda chyflogwyr i helpu pobl ifanc ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth i ddatblygu sgiliau cyflogaeth drwy leoliadau gwaith a chael cefnogaeth i gael gwaith cyflogedig.

Cafodd Anabledd Dysgu Cymru £10m gan y Gronfa Loteri Fawr - i arwain consortiwm o sefydliadau i Ymgysylltu Er Mwyn Newid. Cafodd grant Ar y Blaen 2 ei ddatblygu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru er mwyn bodloni blaenoriaethau ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc.

Mae'r Athro Yves Barde, o Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd, wedi cael ei ethol yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol.

Cymrodoriaeth yw'r Gymdeithas Frenhinol sy'n cynnwys rhai o wyddonwyr mwyaf blaenllaw'r byd, a hi yw'r academi wyddonol hynaf sy'n bodoli. Cyhoeddwyd 50 Cymrodorion newydd 10 ac Aelodau Tramor newydd heddiw.

Yr Athro Barde fydd y trydydd Gymrawd yn y Gymdeithas Frenhinol yn Ysgol Biowyddorau y Brifysgol, gan ymuno â'r Athro Alun Davies a'r Athro Ole Petersen.

“Gyfraniad rhagorol”

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Rydw i wrth fy modd fod yr Athro Barde wedi cael y gydnabyddiaeth hon...”

Yr Athro Barde yw un o niwrofiolegwyr mwyaf blaenllaw'r byd, ac ymunodd ag Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd yn 2013 o'r Biozentrum ym Mhrifysgol Basel, i ddechrau rôl fel deiliad Cadair Ymchwil Sêr Cymru yn Niwrofioleg.

Ymchwilwyr gwyddoniaeth o'r radd flaenaf

Nod ymgyrch Sêr Cymru yw gwella rhagoriaeth ymchwil drwy ddenu ymchwilwyr gwyddoniaeth o'r radd flaenaf a'u timau i Gymru i gynyddu'r gyfran o gyllid y mae Cymru'n ei chael gan Gynghorau Ymchwil y DU a'r Undeb Ewropeaidd.

Y digwyddiad pwysicaf yng ngyrfa ymchwil yr Athro Barde oedd darganfod a chlonio protein sy'n hanfodol ar gyfer nifer o brosesau, gan gynnwys y cof dynol. Mae angen y protein hollbwysig hwn yn yr ymennydd, a elwir y ffactor niwrodroffig sy'n deillio o'r ymennydd (BDNF), i ddatblygu a chynnal system nerfol iach. Mae ei waith hefyd wedi arwain at ddarganfod teulu o broteinau cysylltiedig - niwrodroffinau.

Dywedodd yr Athro Barde: “Rydw i wrth fy modd i gael fy enwi'n Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol, un o'r cymdeithasau dysgedig mwyaf anrhydeddus yn y byd...”

Mae'r Athro Barde wedi cael ei gydnabod gan nifer o sefydliadau: mae'n Aelod o EMBO, cafodd y Wobr IPSEN a gwobr Charles A Dana ym 1994, a Gwobr Niwrowyddoniaeth anrhydeddus Perl UNC yn 2004. Mae'n Aelod Gwyddonol Allanol Sefydliad Niwrofioleg Max Planck yn Martinsried, ac yn gyn-gyfarwyddwr arno. Gadawodd Sefydliad Niwrofioleg Max Planck yn sgil cynnig i ddod yn Gyfarwyddwr Sefydliad Friedrich Miescher yn Basel, cyn dod yn Athro Niwrofioleg yn Biozentrum yn Basel – sefydliad ymchwil blaenllaw yn y Swistir.

Gwahoddir busnesau bach â syniadau gwych i gymryd rhan mewn Digwyddiad Arloesedd Chwaraeon (SPIN) i gyd-fynd â Gêm Derfynol UEFA Champions League yng Nghaerdydd y mis nesaf.

Mae Prifysgol Caerdydd mewn partneriaeth â Sefydliad HYPE i gynnal arddangosfa a chystadleuaeth cyn y digwyddiad ar 3 Mehefin.

Bydd Sefydliad HYPE, platfform byd-eang sy'n cysylltu ac yn buddsoddi mewn arloesedd chwaraeon, yn cydweithio â'r Brifysgol a phanel o feirniaid arbenigol i enwi'r busnes chwaraeon newydd mwyaf arloesol, fydd yn gyfle i gael sylw yn y wasg a chael effaith ar fyd chwaraeon.

Cynhelir y digwyddiad ar 2 Mehefin – diwrnod cyn Gêm Derfynol UEFA Champions League – yng Nghanolfan Addysgu Ôl-raddedigion Ysgol Busnes Caerdydd, dim ond milltir i ffwrdd o Stadiwm Genedlaethol Cymru.

Dim ond dau ddiwrnod sydd gan fusnesau bach i gofrestru i gymryd rhan. Bydd y cyfnod cofrestru ar gyfer y digwyddiad yn gorffen am 23:59 o'r gloch ar 9 Mai 2017.

Bydd y digwyddiad yn dod â myfyrwyr, busnesau a chwmnïau chwaraeon at ei gilydd ar gyfer gŵyl arloesedd chwaraeon dros ddau ddiwrnod.

Fel rhan o ddigwyddiad HYPE SPIN, bydd 10 o gwmnïau'n cyflwyno eu syniadau chwaraeon i ffigurau blaenllaw o frandiau chwaraeon a thechnoleg adnabyddus, buddsoddwyr, ac academyddion. Bydd y beirniaid yn cynnwys Laura McAllister CBE, Athro Polisïau Cyhoeddus yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd; Bernd Wahler, cyn-Brif Swyddog Marchnata yn Adidas a Llywydd VfB Stuttgart; Ignacio Mestre, Prif Swyddog Gweithredol Sefydliad FC Barcelona; Guy Laurent Epstein, Cyfarwyddwr Marchnata UEFA; a Sébastien Audoux, Pennaeth Cynnwys Chwaraeon Digidol yn Canal+.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Sefydliad HYPE, Amir Raveh: "Mae Sefydliad HYPE yn gyffrous iawn am y gystadleuaeth Arloesedd mewn Chwaraeon y byddwn yn ei chynnal ochr yn ochr â UEFA Champions League, fydd yn cynnig cyfle unigryw i fusnesau bach gael sylw yn y cyfryngau."

Dywedodd yr Athro Hywel Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesedd ac Ymgysylltu Prifysgol Caerdydd: "Ni yw Cartref Arloesedd. Rydym yn hen law ar droi syniadau myfyrwyr yn fusnesau ffyniannus, ac mae gennym gynfyfyrwyr ymhlith rhai o arwyr chwaraeon gwledydd Prydain."

"Mae data diweddar yn dangos bod y Brifysgol wedi sicrhau cynnydd o £13.3m yn ei chyllid ar gyfer ymchwil gydweithredol - y cynnydd mwyaf yn y DU. Erbyn hyn, Caerdydd yn yr ail safle o blith prifysgolion ymchwil ddwys y DU yng Ngrŵp Russell o ran incwm eiddo deallusol – rydym yn cynhyrchu'r mwyafrif helaeth o'r incwm eiddo deallusol ymhlith sefydliadau addysg uwch Cymru."