Ymchwil Glinigol (MSc/PgDip)
Os yw eich cais am y cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd llythyr ffurfiol a ffurflen dderbyn yn cael eu hanfon atoch chi.
Mae rhaglenni ymsefydlu ysgolion ar gyfer blwyddyn academaidd 2023-24 yn cael eu cynllunio ar hyn o bryd. Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon cyn gynted ag y bydd gennym fwy o wybodaeth ynghylch pryd a ble y bydd eich cyfnod sefydlu yn yr ysgol yn cael ei gynnal.
Mae’n rhaid i chi lenwi a dychwelyd y ffurflen cyn gynted â phosibl.
Ymrestru ar-lein
Byddwch yn derbyn llythyr a/neu ebost gyda’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair tua tair wythnos cyn i’r cwrs ddechrau. Bydd hyn yn cynnwys manylion am sut i ddefnyddio’r system ymrestru ar-lein.
Dylech sicrhau eich bod yn lawrlwytho’r ffurflenni perthnasol a nodwyd. Nes y bydd y ffurflenni hyn yn cael eu cwblhau a’u dychwelyd, ni all eich cerdyn ID/NUS, eich cyfrinair Blackboard na’ch cyfrinair Athens gael eu trefnu. Byddwch angen y rhain i’w defnyddio ar y modiwl cyntaf.
Byddwch yn derbyn manylion lleoliad a rhaglen y sesiwn modiwl cyntaf ymlaen llaw.
Manylion cwrs
Mae gwybodaeth am y cwrs ar gael o dudalen cwrs Ymchwil Glinigol (MSc/PgDip).
Os oes gennych gwestiwn ynglŷn â chofrestru ar-lein gallwch ffonio'r tîm ar +44 (0)29 2087 6211 neu anfonwch ebost