Fferylliaeth Glinigol (MSc/PGDip/PGCert)
Mae’r cwrs hwn yn dechrau gydag ysgol benwythnos; bydd manylion y dyddiad a’r lleoliad yn cael ei gadarnhau’n nes at amser y cwrs.
Mae rhaglenni ymsefydlu ysgolion ar gyfer blwyddyn academaidd 2023-24 yn cael eu cynllunio ar hyn o bryd. Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon cyn gynted ag y bydd gennym fwy o wybodaeth ynghylch pryd a ble y bydd eich cyfnod sefydlu yn yr ysgol yn cael ei gynnal.
Ymrestru ar-lein
Cyn i chi ddod i’r ysgol benwythnos, mae’n rhaid i chi ymrestru ar-lein a dewis pa fodiwlau y byddwch chi’n eu cwblhau yn y flwyddyn nesaf:
- Os ydych chi’n cwblhau’r cwrs dros ddwy flynedd, yna mae’n rhaid i chi ddewis modiwlau PHT721, PHT723 a PHT725.
- Os ydych chi’n cwblhau’r cwrs dros dair blynedd yna mae’n rhaid i chi ddewis PHT721 a PHT725 - yna bydd i fyny i chi a’ch ysbyty benderfynu pa fodiwlau pellach y byddwch chi’n eu cwblhau eleni.
Manylion cwrs
Mae gwybodaeth am y cwrs ar gael ar dudalen cyrsiau Fferylliaeth Glinigol (MSc/Dip.Ôl-radd./Tyst.Ôl-radd).
Os oes gennych gwestiwn ynglŷn â chofrestru ar-lein gallwch ffonio'r tîm ar +44 (0)29 2087 6211 neu anfonwch ebost