Ymsefydlu israddedig
Gwybodaeth ymsefydlu i fyfyrwyr Blwyddyn 1 Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd 2021.
Llongyfarchiadau ar gael cynnig lle ym Mhrifysgol Caerdydd! Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich croesawu chi!
Yn Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd (EARTH), rydym wrth ein bodd yn eich croesawu i'r campws ar gyfer dechrau blwyddyn academaidd 2021/22. Rydych chi wedi gwneud mor dda i gyrraedd y pwynt yma ac rydym yn edrych ymlaen at ddod i'ch adnabod a gweithio ochr yn ochr â chi yn ystod eich amser yma.
I’ch helpu i fwrw gwreiddiau i mewn i fywyd fel myfyriwr, rydym yn cynllunio gweithgareddau ymsefydlu lle cewch y cyfle i ddod i adnabod staff a myfyrwyr eraill yn yr Ysgol. Byddwch yn casglu eich cit ddydd Gwener 1 Hydref a chynhelir cyfres o ddigwyddiadau ymsefydlu yn ystod yr wythnos yn dechrau 4 Hydref 2021.
Bydd angen i bob myfyriwr blwyddyn 1 newydd gasglu'r pecyn ar gyfer eu hastudiaethau:
Ddydd Gwener 1 Hydref yn y Prif Adeilad, Plas y Parc, CF10 3AT, ystafell 0.02
Llawr gwaelod, i'r chwith y tu mewn i brif fynedfa Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr. Mae'r brif fynedfa ger y prif faes parcio, sydd gyferbyn â Chanolfan Bywyd y Myfyrwyr.
I reoli niferoedd, dewch ar yr adegau canlynol, pan fydd Jen a Katie yn edrych ymlaen at gwrdd â chi (Katie Dobbie, Technegydd Addysgu ar gyfer rhaglenni Daeareg a Geowyddorau, Jen Pinnion - Technegydd Addysgu ar gyfer rhaglenni Daearyddiaeth):
10:00 | Myfyrwyr ar raglenni Daeareg |
10:20 | Myfyrwyr ar raglenni Daeareg Fforio |
10:40 | Myfyrwyr ar raglenni Geowyddor yr Amgylchedd |
11:00 | Myfyrwyr ar raglenni Daearyddiaeth Amgylcheddol |
11:20 | Myfyrwyr ar raglenni Daearyddiaeth Forol |
11:40 | Myfyrwyr ar raglenni Daearyddiaeth Ffisegol |
12:00 | Myfyrwyr Gwyddorau Cynaliadwyedd Amgylcheddol |
4 Hydref 2021 - 8 Hydref 2021
Gweithgareddau ymsefydlu ysgolion
Rydyn ni'n dechrau wythnos yn hwyrach na'r rhan fwyaf o ysgolion gan ein bod ni’n cynnal gwaith maes preswyl Blwyddyn 2 tua'r adeg honno, sy'n golygu bod llawer o'n staff allan yn y maes, a dydyn ni ddim eisiau eich methu chi!
Mae ymsefydlu yn gyfuniad o sesiynau wyneb yn wyneb, ar-lein ac anghydamserol yn ogystal â sesiynau cydamserol ar-lein.
Sesiwn anghydamserol - byddwch chi’n dysgu pan fydd yn gyfleus i chi. Sesiwn ar-lein fydd hon y gallwch chi ei gwneud pan fydd yn gyfleus i chi.
Sesiwn gydamserol - sesiwn fyw ar-lein. Ewch i'r sesiwn hon ar yr amser a nodir.
Yn y cyfamser, gobeithiwn y gwnewch chi fwynhau Wythnos y Glas a thaflu eich hun i mewn i bopeth sydd gan Undeb y Myfyrwyr i'w gynnig. Allwn ni ddim aros i chi ymuno â ni!
Dydd Llun 4 Hydref
Croeso a chyflwyniadau
Bydd eich gweithgaredd cyntaf yn y Prif Adeilad ar Blas y Parc. Bydd Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Ian Hall a'r Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu, Dr Jenny Pike, yn eich croesawu.
Amser | Lleoliad | Ar gyfer pa raglen | Math o sesiwn |
---|---|---|---|
09:00-10:15 | Y Ddarlithfa Cemeg fawr, ystafell 1.123 | Daearyddiaeth Amgylcheddol a Ffisegol | Wyneb yn wyneb |
10:45-12.15 | Y Ddarlithfa Cemeg fawr, ystafell 1.123 | Daeareg, Daeareg Fforio, Geowyddorau Amgylcheddol, Daearyddiaeth Forol a Gwyddorau Cynaliadwyedd Amgylcheddol | Wyneb yn wyneb |
Eich gradd
Rhagor am eich gradd o ddewis.
Amser | Lleoliad | Ar gyfer pa raglen | Math o sesiwn |
---|---|---|---|
10:45-11.30 | Ystafell 0.13, Prif Adeilad | Environmental Geography | Wyneb yn wyneb |
12:00-12:45 | Ystafell 0.13, Prif Adeilad | Physical Geography | Wyneb yn wyneb |
14:00-14:45 | Ystafell 2.14, Prif Adeilad | Geology | Wyneb yn wyneb |
14:00-14:45 | Ystafell 0.65, Prif Adeilad | Exploration Geology | Wyneb yn wyneb |
14:00-14:45 | Ystafell 2.38, Prif Adeilad | Gwyddor Cynaliadwyedd Amgylcheddol | Wyneb yn wyneb |
15:15-16:00 | Ystafell 2.03, Prif Adeilad | Daearyddiaeth Forol | Wyneb yn wyneb |
15:15-16:00 | Ystafell 2.14, Prif Adeilad | Geowyddor yr Amgylchedd | Wyneb yn wyneb |
Sesiwn Ymsefydlu TG
Amser | Lleoliad | Ar gyfer pa raglen | Math o sesiwn |
---|---|---|---|
10:45-11.30 | Ystafell 1.60, Prif Adeilad | Daearyddiaeth Ffisegol | Wyneb yn wyneb |
12:00-12:45 | Ystafell 1.60, Prif Adeilad | Daearyddiaeth Amgylcheddol | Wyneb yn wyneb |
14:00-14:45 | Ystafell 1.60, Prif Adeilad | Daearyddiaeth Forol a Geowyddor yr Amgylchedd | Wyneb yn wyneb |
15:15-16:00 | Ystafell 1.60, Prif Adeilad | Daeareg, Daeareg Fforio a Gwyddorau Cynaliadwyedd Amgylcheddol | Wyneb yn wyneb |
Amser | Sesiwn | Session type |
---|---|---|
16:30-16:45 | Fideos cwrdd â’r tîm | Anghydamserol |
Dydd Mawrth 5 Hydref
Cefnogaeth ar gyfer dysgu
Amser | Sesiwn | Math o sesiwn |
---|---|---|
09:00-09:30 | Sesiwn Ymsefydlu’r Llyfrgell | Anghydamserol |
09:30-10:00 | Sesiwn Holi ac Ateb Ymsefydlu’r Llyfrgell | Cydamserol |
10:15-10:45 | Asesiad ac adborth | Anghydamserol |
10:45-11:15 | Asesiadau ac adborth - sesiwn holi ac ateb | Cydamserol |
11:30-12:45 | Cyflwyniad i Diwtorialau | Cydamserol |
12:45-13.30 | Cinio | |
13:30-14:00 | Llais y myfyrwyr | Cydamserol |
14:00-14:30 | Cyflwyniad i Fentora | Cydamserol |
14:30-14:45 | Fideo mentora | Anghydamserol |
14:45-15:00 | Sesiwn fentora | Cydamserol |
15:15-16:45 | Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynwysoldeb | Cydamserol |
Dydd Mercher 6 Hydref
Cyfleusterau
Amser | Sesiwn | Math o sesiwn |
---|---|---|
09:00-09:30 | Dysgu Digidol yn yr Ysgol | Anghydamserol |
09:45-10:15 | Iechyd a Diogelwch | Anghydamserol |
10:15-10:45 | Iechyd a Diogelwch - sesiwn holi ac ateb | Cydamserol |
11:00-11:30 | Taith o gwmpas yr adeilad | Anghydamserol |
11:45-12:15 | Gwaith maes yn yr Ysgol | Cydamserol |
12:15-13:30 | Cinio | |
13:30-16:45 | Clybiau a phrynhawn chwaraeon |
Dydd Iau 7 Hydref
Gwaith maes
Amser | Sesiwn | Math o sesiwn |
---|---|---|
09:00-12.15 | Gwaith maes Arfordir Treftadaeth Morgannwg - Grŵp A, B, C a D | Wyneb yn wyneb |
12:15-13:30 | Cinio | |
13:30-16:45 | Gwaith maes Arfordir Treftadaeth Morgannwg - Grŵp A, B, C a D | Wyneb yn wyneb |
Dydd Gwener 8 Hydref
Field work
Amser | Sesiwn | Math o sesiwn |
---|---|---|
09:00-12.15 | Gwaith maes Arfordir Treftadaeth Morgannwg - Grŵp E, F, G a H | Wyneb yn wyneb |
12:15-13:30 | Cinio | |
13:30-16:45 | Gwaith maes Arfordir Treftadaeth Morgannwg - Grŵp E, F, G a H | Wyneb yn wyneb |