Ymsefydlu ôl-raddedig
Myfyrwyr newydd - cyn ymsefydlu
Cyn ymsefydlu, cwblhewch y tasgau canlynol:
- Cwblhewch yr ymrestru ar-lein
- Os nad oes un gennych eisoes, casglwch eich Cerdyn Myfyriwr
- Gosodwch y cleient Zoom ar eich cyfrifiadur (mae dolen i lawrlwytho’r cleient ar y gwaelod) er mwyn gwella'r profiad ar-lein.
- (Fel arall, mae modd gosod y cleient gan ddefnyddio Zenworks/Cardiff Apps)
- Cwblhewch unrhyw drefniadau personol e.e. agor cyfrif banc
- Cewch ragor o fanylion ar dudalen Myfyrwyr Newydd - Prifysgol Caerdydd
Teithiau tywys o amgylch Abacws
Rydym hefyd yn bwriadu cynnig cyfle i ymweld ag Abacws (cartref newydd yr ysgol) yn ystod yr wythnos. Cadwch lygad ar eich ebyst gan y Brifysgol i gael rhagor o fanylion am hyn.
Bydd gwybodaeth bellach yn cael ei rhannu yn y sesiwn Groeso.
Wythnos ymsefydlu 27 Medi - 1 Hydref 2021
Ar gyfer myfyrwyr ar y rhaglenni canlynol:
- MSc Cyfrifiadureg Uwch
- MSc Deallusrwydd Artiffisial
- MSc Cyfrifiadura
Cwblhewch y tasgau ymrestru fel yr amlinellwyd uchod. Bydd angen eich cerdyn adnabod arnoch i gasglu eich gliniadur, felly dylech ei gasglu cyn gynted â phosibl.
Dydd Mawrth 28 Medi - Casglu eich gliniadur
Dylech archebu slot i gasglu eich gliniadur o Ystafell Turing yn Adeiladau'r Frenhines ddydd Mawrth 28 Medi. Bydd hyn yn eich galluogi i ddefnyddio eich gliniadur ar gyfer y digwyddiadau ymsefydlu ar-lein sy'n dechrau ddydd Mercher 29ain ac yn parhau drwy'r wythnos.
Cliciwch yma i archebu eich slot casglu
Ni fydd y system unffordd ar waith, ond dylech ddefnyddio'r fynedfa drwy'r maes parcio ar West Grove a’r allanfa ar Heol Casnewydd. Darllenwch y dudalen Iechyd a Diogelwch Coronafeirws ar y fewnrwyd a’r canllawiau ar orchudd wyneb cyn ei gasglu.
Dyddiad | Amser | Gweithgaredd |
---|---|---|
Dydd Mercher 29 Medi | 09:30am | (Dewisol) Cyfarfod Zoom Mae hwn ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno gwneud yn siŵr bod popeth yn iawn o ran eu gosodiadau Zoom cyn y prif gyflwyniadau. Dolen Zoom Cyfrinair: 755017 |
Dydd Mercher 29 Medi | 10:00am | Croeso Yr Athro Stuart Allen, Pennaeth yr Ysgol Dr. Martin Chorley, Cyfarwyddwr Addysgu a Dysgu Dolen Zoom Cyfrinair: 246156 |
Dydd Mercher 29 Medi | 10:30am | Croeso gan arweinydd y rhaglen Bydd y digwyddiadau hyn sy’n benodol i’r rhaglen yn rhoi gwybodaeth i chi am ddigwyddiadau eraill sydd wedi eu cynllunio ar gyfer yr wythnos. MSc Cyfrifiadureg Uwch - Dr Xianfang Sun. Dolen Zoom Cyfrinair: 460192 |
Dydd Mercher 29 Medi | 10:30am | Croeso gan arweinydd y rhaglen Bydd y digwyddiadau hyn sy’n benodol i’r rhaglen yn rhoi gwybodaeth i chi am ddigwyddiadau eraill sydd wedi eu cynllunio ar gyfer yr wythnos. MSc Deallusrwydd Artiffisial - Dr Victor Gutierrez Basulto Dolen Zoom Cyfrinair: 717108 |
Dydd Mercher 29 Medi | 10:30am | Croeso gan arweinydd y rhaglen Bydd y digwyddiadau hyn sy’n benodol i’r rhaglen yn rhoi gwybodaeth i chi am ddigwyddiadau eraill sydd wedi eu cynllunio ar gyfer yr wythnos. Cyfrifiadura MSc - Dr Yuhua Li Dolen Zoom Cyfrinair: 119217 |
Yn ystod yr wythnos
Dyddiadau ac amseroedd dros dro yw'r rhain ar hyn o bryd a byddant yn cael eu cadarnhau yn y sesiwn groeso. Efallai y bydd rhagor o sesiynau yn cael eu hychwanegu a/neu eu newid i fod yn rhai wyneb yn wyneb.
Dyddiad | Amser | Gweithgaredd |
---|---|---|
Dydd Iau 30 Medi | I’w gadarnhau | Modiwlau Dewisol - Sesiwn Holi ac Ateb |
Wythnos ymsefydlu 27 Medi - 1 Hydref 2021
Ar gyfer myfyrwyr ar y rhaglenni canlynol:
- MSc Peirianneg Meddalwedd
- MSc Seiberddiogelwch
- MSc Seiberddiogelwch a Thechnoleg
- MSc Cyfrifiadura a Rheoli TG
Cwblhewch y tasgau ymrestru fel yr amlinellwyd uchod. Bydd angen eich cerdyn adnabod arnoch i gasglu eich gliniadur, felly dylech ei gasglu cyn gynted â phosibl.
Dydd Mercher 29 Medi - Casglu eich gliniadur
Dylech archebu slot i gasglu eich gliniadur o Ystafell Turing yn Adeiladau'r Frenhines ddydd Mawrth 28 Medi. Bydd hyn yn eich galluogi i ddefnyddio eich gliniadur ar gyfer y digwyddiadau ymsefydlu ar-lein sy'n dechrau ddydd Mercher 29ain ac yn parhau drwy'r wythnos.
Cliciwch yma i archebu eich slot casglu
Ni fydd y system unffordd ar waith, ond dylech ddefnyddio'r fynedfa drwy'r maes parcio ar West Grove a’r allanfa ar Heol Casnewydd. Darllenwch y dudalen Iechyd a Diogelwch Coronafeirws ar y fewnrwyd a’r canllawiau ar orchudd wyneb cyn ei gasglu.
Dyddiad | Amser | Gweithgaredd |
---|---|---|
Dydd Iau 30 Medi | 09:30am | (Dewisol) Cyfarfod Zoom Mae hwn ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno gwneud yn siŵr bod popeth yn iawn o ran eu gosodiadau Zoom cyn y prif gyflwyniadau. Dolen Zoom Cyfrinair: 038239 |
Dydd Iau 30 Medi | 10:00am | Croeso Yr Athro Stuart Allen, Pennaeth yr Ysgol Dr. Martin Chorley, Cyfarwyddwr Addysgu a Dysgu Dolen Zoom Cyfrinair: 324847 |
Dydd Iau 30 Medi | 10:30am | Croeso gan arweinydd y rhaglen Bydd y digwyddiadau hyn sy’n benodol i’r rhaglen yn rhoi gwybodaeth i chi am ddigwyddiadau eraill sydd wedi eu cynllunio ar gyfer yr wythnos. MSc Peirianneg Meddalwedd - Dr Ian Cooper Dolen Zoom Cyfrinair: 469907 |
Dydd Iau 30 Medi | 10:30am | Croeso gan arweinydd y rhaglen Bydd y digwyddiadau hyn sy’n benodol i’r rhaglen yn rhoi gwybodaeth i chi am ddigwyddiadau eraill sydd wedi eu cynllunio ar gyfer yr wythnos. MSc Seiberddiogelwch - Dr. Yulia Cherdantseva Dolen Zoom Cyfrinair: 519630 |
Dydd Iau 30 Medi | 10:30am | Croeso gan arweinydd y rhaglen Bydd y digwyddiadau hyn sy’n benodol i’r rhaglen yn rhoi gwybodaeth i chi am ddigwyddiadau eraill sydd wedi eu cynllunio ar gyfer yr wythnos. MSc Cyfrifiadura a Rheoli TG - Dr Catherine Teehan Dolen Zoom Cyfrinair: 370868 |
Dydd Iau 30 Medi | 14:00pm Wyneb yn wyneb | MSc Seiberddiogelwch a Thechnoleg - Dr. Yulia Cherdantseva Ystafell 4.07 yn Adeilad ABACWS (map ar gael yma) |
Yn ystod yr wythnos
Dyddiadau ac amseroedd dros dro yw'r rhain ar hyn o bryd a byddant yn cael eu cadarnhau yn y sesiwn groeso. Efallai y bydd rhagor o sesiynau yn cael eu hychwanegu a/neu eu newid i fod yn rhai wyneb yn wyneb.
Dyddiad | Amser | Rhaglen | Gweithgaredd |
---|---|---|---|
Dydd Gwener 1 Hydref | 11:00am - 13:00pm drwy Zoom | MSc Seiberddiogelwch / MSc Seiberddiogelwch a Thechnoleg | Gweithdy Python Dolen Zoom Cyfrinair: 472912 |