Myfyrwyr Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol (PTY)
Diweddarwyd: 11/09/2023 15:03
Gobeithiwn eich bod yn gyffrous am ddechrau eich blwyddyn lleoliad.
Nid yw'n ofynnol i fyfyrwyr sydd i fod i ymgymryd â blwyddyn hyfforddiant proffesiynol yn 2023/24 fynychu cofrestru.
Cadarnhau eich rhaglen a modiwl
Cadarnhewch eich rhaglen a modiwl BI9999 ar SIMS erbyn diwedd mis Medi ar ôl i chi dderbyn hysbysiad bod cofrestru ar-lein ar agor.
Os nad ydych ar raglen PTY
Os nad ydych ar fersiwn eich rhaglen gradd gyda PTY ar hyn o bryd ond eich bod wedi dod o hyd i leoliad ers cyn cofrestru, cysylltwch â ni yn biosi-pty@caerdydd.ac.uk a byddwn yn gallu eich helpu i drosglwyddo i'r rhaglen gywir:
Os ydych am newid i gwrs tair blynedd
Os na fyddwch yn ymgymryd â blwyddyn hyfforddi broffesiynol mwyach ac yn dymuno newid o gwrs pedair blynedd i gwrs tair blynedd, cyfeiriwch at dudalen Blwyddyn 3 i gael manylion ymsefydlu.