Edrych ar ôl eich hun
Mae pontio i fywyd y Brifysgol yn gallu dod â llawer o gyfleoedd, sy’n gallu bod yn hawdd i rai, ac yn anoddach i eraill.
Profiadau cyffredin
- hiraeth wrth i chi ymgartrefu i ffordd newydd o fyw a bod i ffwrdd o adref
- anawsterau wrth addasu i fywyd myfyrwyr, gan fydd eich arferion yn newid i weddu i’ch amserlen newydd
- gallwch orfwynhau o yfed, bwyta, cymdeithasu, siopa ac ati.
Edrych ar ôl eich hun
- cofiwch gymdeithasu a thyfu rhwydwaith o ffrindiau, drwy sgwrsio â ffrindiau cwrs, darlithwyr a chymdogion, ymuno â chlybiau a chymdeithasau, cymryd rhan mewn digwyddiadau, a chyfleoedd profiad gwaith.
- cadwch mewn cysylltiad gyda theulu a ffrindiau
- yfwch digon o ddŵr, yn enwedig os ydych yn yfed alcohol
- bwytwch yn iach a cheisiwch osgoi ormod o fwyd cyfleus
- dylech gael noswaith dda o gwsg
- ymarfer corff i helpu cyflawni a chynnal iechyd corfforol a meddyliol da.
Os ydych yn byw ym mhreswylfeydd y Brifysgol, efallai byddwch yn gweld hi'n ddefnyddiol i siarad â'r tîm Bywyd Preswylfeydd yn y lle cyntaf.
Cyngor pellach
Os ydych yn cael problemau yn ystod eich amser yn y Brifysgol, beth bynnag yw maint y broblem, mae’r tîm Iechyd a Lles yn y Ganolfan Cefnogi Myfyrwyr yma i’ch helpu chi.
Unwaith i chi gwblhau’r cofrestru ar-lein bydd gennych fynediad at fewnrwyd y myfyrwyr, lle gallwch gael rhagor o wybodaeth a gwasanaethau gan y tîm Iechyd a Lles.
Gwasanaeth Lles a Chwnsela (Cathays)
Gwasanaeth Lles a Chwnsela (Parc y Mynydd Bychan)
Tîm Bywyd Preswylfeydd
Y ffordd hawdd o gynllunio eich diwrnod, cadarnhau lle mae angen i chi fod, a chael help a chymorth.