Mynd o le i le
Mae Caerdydd yn ddinas hygyrch gyda digon o fannau agored a gwyrdd i’w mwynhau. Mae’n rhwydd iawn mynd o gwmpas y campws a’r ddinas ar droed neu ar feic, heb yr angen i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Gwybod lle i fynd
- Lawrlwythwch ap y myfyrwyr i’ch helpu i fynd o le i le ar y campws. Gallwch storio eich hoff leoedd a chael gwybod pa gyfleusterau eraill sydd gerllaw.
- I gynllunio teithio i'r Brifysgol ac o amgylch y Brifysgol, ewch i My Uni Journey.
- I gynllunio teithiau tu allan i'r Brifysgol, ewch i Traveline Cymru.
Cofrestrwch i logi beic am ddim (nextbike)
Manteisiwch ar aelodaeth nextbike flynyddol am ddim, gyda 30 munud am ddim bob taith.
Mae gorsafoedd llogi a beiciau yn agos at lawer o adeiladau'r Brifysgol ar draws y ddau gampws, ac yn cynnig cyfle perffaith i chi fwynhau beicio yng Nghaerdydd.
I gael aelodaeth am ddim, bydd angen i chi:
- defnyddio eich cyfeiriad ebost Prifysgol Caerdydd '@cardiff.ac.uk'
- dewis Prifysgol Caerdydd o'r gwymplen Partneriaid
- peidiwch â dewis unrhyw beth pan ofynnir i chi ddewis tanysgrifiad.
Mae angen i chi gofrestru cerdyn talu i gael aelodaeth nextbike. Codir £5 wrth gofrestru, ond caiff y taliad ei gredydu i'ch cyfrif nextbike.
Cofrestrwch ar-lein neu drwy'r ap (iOS, Android).
Trafnidiaeth gyhoeddus
Mae gwasanaethau bysiau a threnau ar gael yng nghanol y ddinas, ei maestrefi ac i wahanol leoliadau y tu allan i'r ddinas.
Teithio ar y bws
Mae darparwyr gwasanaeth bws lleol a chenedlaethol yn gwasanaethu'r campysau.
Llwybrau lleol | Teithio Cenedlaethol | Bws gwennol i'r maes awyr |
Bws Caerdydd | National Express | Traws Cymru |
NAT | Megabus | Maes awyr Caerdydd |
Newport Bus (X30 drwy Parc y Mynydd Bychan) | Maes awyr Bryste | |
Stagecoach | ||
Traws Cymru |
Cerdyn teithio
Gall pobl ifanc rhwng 16 a 21 wneud cais am FyNgherdynTeithio i gael gostyngiad o hyd at 30% ar gostau teithio ar fysiau yng Nghymru.
Teithio ar y trên
Mae Caerdydd Canolog yn ganolfan ar gyfer rhwydwaith trên yng Nghaerdydd, yn cysylltu'r ddinas gyda gweddill De a Gorllewin Cymru a prif ddinasoedd Prydeinig.
Mynediad campws | Gorsaf agosaf | Amser cerdded |
Ysgol Peirianneg (Adeiladau Trevithick a'r Frenhines), Tŷ McKenzie, Tŷ Eastgate, Llys Senghennydd, Neuadd Senghennydd, Neuadd Gordon | Heol y Frenhines Caerdydd | Tua 10 munud |
Adeiladau'r Brifysgol ym Mharc Cathays (ac eithrio rhai sy'n agos i orsaf Heol y Frenhines Caerdydd) | Cathays | Tua 15-20 munud |
Adeiladau'r Brifysgol ym Mharc y Mynydd Bychan | Lefel isaf Y Mynydd Bychan a Lefel uchaf Y Mynydd Bychan | Tua 20 munud |
Gallwch gyfuno eich taith trên gyda defnydd am ddim o nextbike. Mae gorsafoedd llogi nextbike wedi'i lleoli yn/agos i'r gorsafoedd trên ac o amgylch nifer o adeiladau'r Brifysgol.
Rhagor o wybodaeth
Cewch ragor o wybodaeth am deithio’n gynaliadwy pan fydd gennych fynediad i'r fewnrwyd.