Ewch i’r prif gynnwys

Amddiffyn eich hun a'ch eiddo

Diweddarwyd: 09/08/2023 15:44

Rydyn ni’n becso am eich diogelwch a'ch lles ac rydyn ni eisiau ichi gael profiad cadarnhaol o fod yn fyfyriwr.

Mewn partneriaeth â Safezone, Heddlu De Cymru, Preswylfeydd, Bywyd Myfyrwyr ac Undeb y Myfyrwyr, ein nod yw creu cymuned brifysgol ddiogel, gan ddarparu gwybodaeth, cyngor, cefnogaeth a gwasanaethau.

Mae ein Tîm Diogelwch yn patrolio'r campws ac yn hapus i sgwrsio os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am ddiogelwch.

Byddwch yn ddiogel pan fyddwch allan

Lawrlwythwch ein ap rhad ac am ddim SafeZone sy'n ffordd gyflym a rhwydd o roi gwybod i Wasanaethau Diogelwch neu Heddlu De Cymru pan fydd angen cymorth arnoch chi.

Gallwch ddefnyddio ap Safezone i anfon rhybudd yn seiliedig ar eich lleoliad o’ch ffôn clyfar, os oes angen ymateb brys, cymorth cyntaf neu gymorth diogelwch cyffredinol arnoch. Pan fyddwch chi ar y campws, gall SafeZone hefyd ddangos i chi ble rydych chi ar fap mewn amrywiaeth o fformatau.

Mae SafeZone yn caniatáu i chi gyfathrebu â swyddogion diogelwch drwy negeseuon testun, ac mae hynny'n golygu ei fod yn hwylus i bobl â nam ar eu clyw, eu llafaredd neu eu golwg.

Os ydych chi’n pryderu am eich diogelwch chi neu ddiogelwch eraill

Gallwch roi gwybod i'n Gwasanaethau Diogelwch am unrhyw beth amheus neu unrhyw beth sy'n eich poeni ynghylch eich diogelwch chi neu ddiogelwch pobl eraill ar y campws drwy ffonio +44 (0)29 2087 4444. Os ydych chi oddi ar y campws, dylech gysylltu â Heddlu De Cymru ar 101.

Angen cymorth brys

Os ydych chi’n meddwl eich bod chi, neu rywun arall, mewn perygl, cysylltwch â’r gwasanaethau brys drwy ffonio 999.

Rhagor o wybodaeth a chefnogaeth pan fyddwch yn cyrraedd

Mae'r fewnrwyd yn rhoi rhagor o wybodaeth a chyngor i'ch helpu i'ch cadw'n ddiogel ac i'ch cefnogi, gan gynnwys: -

  • awgrymiadau ar Ddiogelwch Personol ac Atal Troseddau
  • opsiynau ar gyfer cyrraedd adref yn ddiogel: gan gynnwys Bws Diogelwch Caerdydd a chynllun tacsi diogel Dragon Taxis
  • cadw’n ddiogel ar-lein: hanes pori, diogelu ebyst a chyfrineiriau, a sgamiau
  • cael cyngor ar frys: os oes angen cyngor ar frys neu y tu allan i oriau gwaith arnoch chi neu unrhyw un arall, dyma wybodaeth am bwy y dylech gysylltu â nhw.
  • cyngor sy’n eich cefnogi a chyngor diogelwch ar unwaith: os ydych chi wedi profi digwyddiad sydd wedi achosi anaf neu niwed
  • cysylltu â’n Tîm Ymateb i Ddatgeliadau: os yw achos o drais, cam-drin neu ymddygiad digroeso sy'n peri gofid neu'n sarhaus wedi effeithio arnoch chi
  • adnoddau trais a chamdriniaeth: os ydych am gael rhagor o wybodaeth am nodi mathau o ymddygiad afiach, treisgar neu ddifrïol a rhagor o wybodaeth am gydsyniad
  • cymorth Cwnsela a Lles: os bydd angen i chi siarad â rhywun i reoli eich iechyd a’ch lles emosiynol
  • cyfleoedd i ddod yn wyliwr grymusol a gweithgar.