Ewch i’r prif gynnwys

Ein hymrwymiad cymunedol

Diweddarwyd: 30/09/2022 15:21

Yn ystod y pandemig COVID-19, buom i gyd yn gweithio i gefnogi ein gilydd, i ymddwyn yn briodol ac yn ystyriol, ac i ymyrryd pan welsom eraill yn methu â chynnal ymddygiad a safonau’r brifysgol.

Er bod cyfyngiadau Llywodraeth Cymru wedi lleddfu, mae ein cyfrifoldeb unigol a chyfunol i drin ein gilydd â pharch, cwrteisi ac ystyriaeth bob amser yn parhau.

Gyda’n gilydd, rydym wedi ymrwymo i gynnig amgylchedd croesawgar, cynhwysol a diogel i’n myfyrwyr a’n staff. Byddwn yn mynd i'r afael ag ymddygiad gwahaniaethol negyddol gan gynnwys y rhai sy'n seiliedig ar stereoteipiau ac agweddau rhagfarnllyd.

Gan adeiladu ar y seiliau hyn, gofynnwn i bawb yn y brifysgol fabwysiadu’r Ymrwymiad a ganlyn.

  • Byddaf yn ymddwyn yn unol â pholisïau ymddygiad perthnasol y brifysgol a polisi Urddas yn y Gweithle ac wrth Astudio. Byddaf yn canolbwyntio ar gynwysoldeb a chefnogi pawb o'm cwmpas. Lle bo’n briodol a lle rwy’n teimlo’n ddiogel ac yn gallu gwneud hynny, byddaf yn galw allan ac yn herio’n gadarnhaol pan fyddaf yn gweld eraill yn ymddwyn yn amhriodol ac yn groes i ganllawiau COVID-19. Byddaf yn codi’r pryderon hynny’n uniongyrchol gyda’r bobl hynny mewn modd agored, adeiladol a chwrtais. Lle teimlaf na allaf herio’n ddiogel, byddaf yn codi pryderon gyda thimau arbenigol yn y Brifysgol fel yr amlinellir yn yr Ymrwymiad hwn.
  • Byddaf yn cadw llygad am y rhai rwy'n gweithio ac yn dysgu gyda nhw. Rwy’n deall pwysigrwydd darparu cymorth, i helpu pobl lle bo’n bosibl wrth ymdrin ag effaith COVID-19 ar eu bywydau, a chefnogi eraill i’w helpu i barhau i ymgysylltu â’u gwaith neu eu hastudiaethau academaidd. Byddaf yn sicrhau fy mod yn deall pa gymorth sydd ar gael gan y brifysgol, a sut y gallaf gael gafael arno i mi fy hun ac i eraill.
  • Rwy’n deall y gall canllawiau Llywodraeth Cymru, ac wedi hynny fesurau diogelwch COVID-19 y Brifysgol, newid a byddaf yn cymryd cyfrifoldeb personol i wneud yn siŵr fy mod yn ymwybodol, yn dilyn ac yn cefnogi’r rhain.
  • Rwy’n derbyn y rôl sydd gennyf o ran sicrhau bod yr ardaloedd lle rwy’n byw, yn gweithio ac yn astudio ynddynt mor ddiogel ag y gallant fod hyd eithaf fy ngallu a’m gwybodaeth
  • Os caf fy herio am fy ymddygiad byddaf yn cymryd y ceisiadau hyn o ddifrif ac yn ymateb mewn modd agored, cadarnhaol a pharchus, yn unol â'r Ymrwymiad hwn a'r polisi Urddas yn y Gweithle ac wrth Astudio.
  • Rwy'n deall y gallai'r gweithdrefnau cwyno, disgyblu a chwyno priodol ar gyfer staff a myfyrwyr fod yn berthnasol pe bai'r Ymrwymiad hwn yn cael ei dorri'n fwriadol.

Ein hymagwedd yn y lle cyntaf yw gofyn i’n cymuned staff a myfyrwyr hunan-reoleiddio mewn modd parchus, gan ddwyn ein gilydd i gyfrif i sicrhau ein bod i gyd yn dilyn y gofynion, gan gadw’r Brifysgol yn lle diogel a chynhwysol i bawb.

Mae'r Ymrwymiad yn ei gwneud hi'n glir y dylid codi pryderon mewn modd agored, cadarnhaol a pharchus. Dylai’r egwyddorion hyn fod wrth wraidd pob rhyngweithiad.

Gofynnir i gymuned gyfan y Brifysgol gofleidio’r Ymrwymiad hwn ar adeg eithriadol. Nid yw’n gyfrifoldeb ychwanegol neu ffurfiol ar ein staff yn unig.

Cadarnhau ymwybyddiaeth a dealltwriaeth yr unigolyn o'r sefyllfa ddylai fod y cam cyntaf. Mae'n bosibl y gall pobl fod wedi anghofio neu'n syml heb ystyried y gofynion, neu nad oedd yn glir eu bod wedi eu torri mewn rhyw ffordd, neu nad oeddent yn glir eu bod wedi eu torri mewn rhyw ffordd.

Ar ôl cael y ddealltwriaeth honno a chaniatáu i’r blaid fynegi ei dehongliad o ddigwyddiadau, dylech egluro bodolaeth y canllawiau, gan gyfeirio at yr Ymrwymiad Cymunedol, a’r risgiau y mae peidio â chynnal ein cyfrifoldebau yn eu rhoi i bawb.

Yn y rhan fwyaf o achosion, rhagwelir y bydd yr ymyriad hwn yn ddigonol. Lle nad yw'r dull hwn yn gweithio, a'ch bod yn teimlo'n hyderus bod angen, efallai y byddwch am godi hyn ymhellach.

Uwchgyfeirio eich pryder

Pryderon am ymddygiad staff

Dylid codi'r pryder cychwynnol gyda'ch Ysgol gartref trwy swyddfa'r Ysgol neu'ch tiwtor personol. Os nad yw hyn yn mynd i'r afael â'r pryderon a godwyd, gallwch ddefnyddio'r Weithdrefn Gwyno i Fyfyrwyr.

Pryderon am ymddygiad myfyrwyr

Os hoffech rhoi gwybod i'r brifysgol am achos o gamymddygiad gan myfyriwr yn ymwneud â rheoliadau'r coronafeirws (COVID-19), gallwch ebostio communitycovid19concerns@caerdydd.ac.uk / +44 (0)29 2251 1222.

Nid ydym yn derbyn cwynion diewn, a byddwn yn trin pob cwyn yn ddifrifol, gyda phroses glir ar waith er mwyn datrys a monitro'r problemau sy'n cael eu nodi.

Dylech gynnwys dyddiad, amser a lleoliad y digwyddiad, pwy oedd yn cymryd rhan (enw'r myfyriwr os ydych chi'n gwybod), ac unrhyw dystion oedd yno ar y pryd. Bydd angen i chi hefyd nodi eich enw, cyfeiriad ebost a rhif ffôn er mwyn i ni gysylltu â chi.

Cymorth brys

Os bydd y sefyllfa'n un brys, neu rydych yn teimlo eich bod mewn perygl o gael eich cam-drin yn gorfforol neu ar lafar, gallwch gael cymorth gan Dîm Diogelwch y Brifysgol (ar y campws) +44 (0)29 2087 4444 neu'r Heddlu (oddi ar y campws).