Ewch i’r prif gynnwys

Cofrestru gyda meddyg

Diweddarwyd: 10/08/2023 11:06

Bydd cofrestru gyda meddyg teulu a chael mynediad at weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill yng Nghaerdydd yn golygu bod gofal ar gael yn rhwydd ar eich cyfer os bydd ei angen arnoch.

Os ydych chi'n treulio mwy o wythnosau o'r flwyddyn yn eich cyfeiriad prifysgol nag yn unman arall, mae angen i chi gofrestru gyda Meddyg Teulu yng Nghaerdydd cyn gynted â phosibl er mwyn i chi allu derbyn gofal arferol a brys os oes ei angen arnoch.

Mae hyn yn arbennig o bwysig os oes gyda chi gyflwr iechyd parhaus, yn enwedig un sydd angen meddyginiaeth fel asthma, diabetes, epilepsi neu broblemau iechyd meddwl.

Os ydych wedi cofrestru gyda Meddyg Teulu yng Nghymru mae gennych hawl i bresgripsiynau am ddim gan fferyllydd yng Nghymru.

Sut i gofrestru gyda Meddyg Teulu

Mae’n hawdd cofrestru gyda Meddyg Teulu yng Nghaerdydd a’r Fro: yn syml, nodwch bractis sy’n agos at eich cyfeiriad Prifysgol a chysylltwch â’r feddygfa i weld a ydynt yn derbyn cleifion newydd.

I gofrestru gyda Meddyg Teulu, bydd angen:

  • eich tref a gwlad enedigol
  • eich cyfeiriad yn ystod y tymor
  • cyfeiriad eich practis meddyg teulu a gofrestrwyd yn flaenorol (os yw’n berthnasol)
  • hanes meddygol diweddar mewn perthynas ag alergeddau, meddyginiaeth, ystadegau hanfodol, dewisiadau ffordd o fyw neu unrhyw ddiagnosis neu driniaeth bresennol

Efallai y byddwch hefyd am gofrestru gyda Meddyg Teulu sy'n siarad Cymraeg, neu Feddyg Teulu sy'n siarad iaith arall. Dysgwch fwy am bractisau sy'n gallu cynnig y cyfleuster hwn.

Byddwch hefyd gofrestru gyda meddyg teulu gan ddefnyddio CampusDoctor.

Mynediad at weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill

GIG 111 Cymru

Mae gwasanaeth 111 GIG Cymru ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, a gallwch ei ddefnyddio ar gyfer gwybodaeth a chyngor iechyd ac i gael mynediad at ofal sylfaenol brys. Mae’r gwasanaeth yn gyfuniad o Galw Iechyd Cymru a’r gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau ac mae ar gael ar-lein a thrwy ffonio 111.

Yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, GIG 111 Cymru hefyd yw'r llwybr y byddech chi'n ei ddilyn pe bai angen i chi fynd i'r Uned Frys (a adwaenir yn aml fel A&E), yr Uned Mân Anafiadau neu i gael mynediad at ofal y tu allan i oriau.

Os oes gennych chi argyfwng difrifol neu sy'n bygwth bywyd, dylech ffonio 999.

Gweld fferyllydd

Mae eich fferyllfa leol yn cynnig cyngor cyfrinachol am ddim a thriniaeth ar gyfer ystod o anhwylderau cyffredin. Os oes gennych fân salwch fel peswch, annwyd, dolur rhydd neu gur pen neu os oes angen cyngor arnoch ar feddyginiaethau gallwch siarad â'ch fferyllydd cymunedol.

Yng Nghaerdydd a'r Fro, mae fferyllwyr cymunedol hefyd yn cynnig gwasanaethau atal cenhedlu. Mae saith fferyllydd cymunedol hefyd yn gallu rhagnodi dulliau atal cenhedlu geneuol rheolaidd a chynnig cyngor iechyd rhywiol, heb fod angen gweld eich meddyg teulu.

Gweld deintydd

Os oes gennych ddannoedd, dolur neu ddeintgig yn gwaedu, cilddant ôl trafferthus, sensitifrwydd dannedd neu fathau eraill o boen yn yr wyneb, dylech drefnu apwyntiad gyda deintydd.

Os oes gennych chi argyfwng deintyddol neu os ydych chi'n dioddef poen deintyddol y tu allan i oriau, ffoniwch ein Llinell Gymorth Ddeintyddol Frys ar +44 (0)300 10 20 247.

Gweld optometrydd

Os oes gennych chi broblemau iechyd gyda’ch llygaid gan gynnwys anaf, poen, chwydd, nam ar y golwg neu aflonyddwch, dylech drefnu apwyntiad gydag optometrydd. Dewch o hyd i'ch optometrydd lleol.

Rhoi organau yng Nghymru

Ar Ragfyr 1, 2015 newidiodd y gyfraith ynglŷn â chyfrannu organau yng Nghymru. Bydd hyn yn gymwys i bawb sydd yn byw yng Nghymru am fwy na 12 mis, gan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol. Efallai y byddan nhw’n gofyn a ydych yn dymuno cael eich eithrio o gofrestriad diofyn y GIG i gyfrannu organau. Gallwch gyflwyno eich dewis ar-lein.