Goblygiadau gadael y Brifysgol
Ceir cyfnod o bythefnos o ddechrau eich cwrs lle na fyddwn yn codi tâl ffioedd dysgu. Mae hyn yn berthnasol i'n holl fyfyrwyr.
Y sawl a ariennir gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr
Yn dilyn y cyfnod gras o bythefnos, byddwn yn codi'r ffioedd canlynol:
- Tymor 1 (o 19 Hydref 2020 i 18 Rhagfyr 2020) - 25%
- Tymor 2 (o 23 Ionawr 2021 i 26 Mawrth 2021) - 50%
- Tymor 3 (o 17 Ebrill 2020 i 18 Mehefin 2021) - 100%
Y rhai na chaiff eu hariannu gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr
Yn dilyn y cyfnod gras o bythefnos, byddwn yn codi tâl ac eithrio'r blaendal na ellir ei ad-dalu, ar sail pro rata ar y nifer o wythnosau o bresenoldeb ar ddechrau'r flwyddyn academaidd:
- 32 wythnos ar gyfer myfyrwyr israddedig
- 50 wythnos ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig.
Byddwch yn derbyn ad-daliad priodol fel bo'r angen.
Mae yna adegau pan fydd cyrsiau penodol yn dilyn rheolau gwahanol o ran ad-dalu ffioedd. Byddwn yn eich hysbysu am yr eithriadau hyn a lle mae gweithdrefnau ad-dalu ffioedd yn wahanol i'r hyn ag amlinellir uchod, cyn i chi ddechrau'r cwrs.
Cysylltwch â ni
Rydym yn eich cynghori i siarad gydag aelod staff yn y Swyddfa Gyllid i drafod goblygiadau tynnu yn ôl ar eich ffioedd dysgu. Efallai byddwch yn dymuno trafod agweddau eraill o adael eich cwrs, megis goblygiadau ariannol, gydag aelod o'r Tîm Cyngor ac Arian.
Ymholiadau ffioedd dysgu
Tîm Cyngor a Chyllid Myfyrwyr
Press option 5 when calling.
Cyngor a Chyllid Myfyrwyr(Parc y Mynydd Bychan)
Press option 4 when calling.