Ewch i’r prif gynnwys

Ffioedd dysgu

Popeth y byddwch angen ei wybod am dalu eich ffioedd dysgu fel rhan o gofrestru ar-lein.

Er mwyn cwblhau'r cofrestru ar-lein, nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd yn llawn. Os ydych yn talu eich ffioedd yn uniongyrchol ac nid ydych yn derbyn arian gan naill ai Cyllid Myfyrwyr neu Noddwr arall, yna gallwch dalu mewn tri rhandaliad. Gallwch osod y rhandaliadau fel rhan o’ch cofrestru ar-lein.

I gael rhagor o wybodaeth, mewngofnowch i system cofrestru ar-lein SIMS (pan fyddwn yn dweud wrthych i wneud) a byddwch yn cael cyfarwyddiadau ar sut i dalu.

Mae'r ffioedd dysgu yn daladwy ar gyfer pob blwyddyn o'ch cwrs (yn cynnwys y rhai sy'n cael eu hail adrodd). I gael amcangyfrif bras o gyfanswm y gost, felly, dylech luosi’r ffioedd â nifer y blynyddoedd o astudio. Nodwch, y gall ffioedd gynyddu o flwyddyn i flwyddyn.

Benthyciadau a grantiau

Os ydych chi'n cael benthyciad Cyllid Myfyrwyr a/neu grant Ffioedd Dysgu i dalu eich ffioedd dysgu, byddwch yn derbyn hysbysiad o lythyr hawliau gan eich awdurdod cyllid myfyrwyr. Sicrhewch fod eich manylion cwrs ar eich llythyr yn gywir.

Os oes yn gamgymeriad, ac nad ydych wedi cwblhau cofrestru, yna efallai gallwch newid eich cais drwy gyfrif ar-lein gyda'ch corff cyllido myfyrwyr. Os na, cysylltwch â'ch corff cyllido am gyngor.

Fel arall, os oes yna gamgymeriad ond rydych wedi cwblhau cofrestru, bydd angen i'r Brifysgol gadarnhau unrhyw newidiadau gyda'ch corff cyllido. Bydd angen i chi gysylltu â'r Tîm Cyngor ac Arian i ofyn am hyn.

Ffioedd dysgu anghywir

Os nad yw eich ffioedd dysgu yn arddangos yn gywir, cwblhewch y cofrestru ar-lein, ond peidiwch â gwneud taliad ffioedd. Cysylltwch â ni yn syth.

Ffioedd Dysgu

Dulliau talu

Cyn gwneud taliad, darllenwch y wybodaeth Eich Cyllid am fanylion am gyfleoedd cyllido posib.

Sylwch os nad yw eich cwrs yn dechrau fis Medi/Hydref, ni fyddwch yn gallu talu'n defnyddio'r dull hwn.

Bydd debyd uniongyrchol yn cael ei gynnig i'r holl fyfyrwyr fel dull talu fel rhan o'r broses cofrestru ar-lein, lle bydd angen i chi gwblhau Gorchymyn Debyd Uniongyrchol. Bydd y gorchymyn yn parhau'n weithredol ar gyfer hyd yr holl gwrs.

Gallwch dalu drwy ddebyd uniongyrchol mewn tri rhandaliad, (cyhyd â bod y cyfanswm sy'n ddyledus yn uwch na £300). Bydd rhain yn cael eu talu ar 14 Tachwedd 2018, 28 Ionawr 2019 a 26 Ebrill 2019.

Gwnewch yn siŵr:

  • bod y manylion banc o gyfrif banc/cymdeithas adeiladu dilys sy'n caniatáu debyd uniongyrchol
  • eich bod wedi gosod y debydau uniongyrchol o leiaf mis cyn y dyddiad casgliad cyntaf
  • eich bod yn rhoi saith diwrnod o rybudd os ydych chi'n dileu'ch gorchymyn debyd uniongyrchol
  • bod gennych ddigon o arian yn eich cyfrif i dalu'r taliad gorchymyn debyd uniongyrchol pan mae'n cael ei gyflwyno.

Os ydych yn cofrestru yn y Brifysgol i astudio modiwl, nid yw'r dewis o dalu mewn tri rhandaliad yn berthnasol.

Myfyrwyr Blwyddyn Galendr (ôl-raddedigion)

Gallwch dalu'n llawn ar ddechrau'ch blwyddyn academaidd neu mewn tri rhandaliad- gyda thraean o’r ffi ddyledus ar ddechrau'ch blwyddyn academaidd, traean arall ar ôl 90 diwrnod a'r traean olaf ar ôl 180 diwrnod.

Os ydych eisiau talu drwy Ddebyd Uniongyrchol, ond heb agor cyfrif banc eto, dylech gwblhau'r cofrestru ar-lein.

Byddwch wedyn yn gallu mynd i SIMS ar-lein i sefydlu debyd uniongyrchol. Byddwch yn cael eich ystyried fel 'Wedi cofrestru - gyda materion ariannol yn weddill' tan fod y debyd uniongyrchol wedi'i sefydlu. Mae hyn rhoi mynediad i gyfleusterau'r Brifysgol fel y llyfrgell a chyfrifiaduron am gyfnod o 30 diwrnod. Yn ystod y cyfnod hwn, dylech wneud trefniadau angenrheidiol i gwblhau eich cofrestru.

Myfyrwyr rhyngwladol

Os oes angen agor cyfrif banc y DU, bydd angen dogfennaeth swyddogol gan y Brifysgol i wneud.

Gallwch ddefnyddio cardiau credyd neu ddebyd cyffredin (ag eithrio American Express) i dalu'n llawn neu mewn 3 rhandaliad. Gallwch gyflwyno manylion eich cerdyn fel rhan o'ch cofrestriad ar-lein. Unwaith i chi wneud y taliad cyntaf, gallwch talu'r rhandaliadau eraill drwy'r dudalen SIMS Ar-lein.

Os ydych yn talu mewn 3 rhandaliad, bydd y dyddiadau talu ar:

  • rhandaliad cyntaf - 27 Medi 2019 - fel rhan, neu cyn cofrestru ar-lein
  • ail rhandaliad - 27 Ionawr 2020
  • trydydd rhandaliad - 27 Ebrill 2020

Trosglwyddiad ar-lein

Ewch i'n gwefan StudentPay i dalu drwy drosglwyddiad banc:

  • Talu ffioedd ar-lein gan ddefnyddio arian cyfred o'ch dewis
  • Dim comisiwn - does dim ffioedd banc ychwanegol ar gyfer 37 o wahanol fathau o arian cyfred
  • Hawdd ac yn ddiogel i'w ddefnyddio drwy Western Union Business Solutions
  • Dull hwylus i dalu yn eich banc lleol. Unwaith rydych wedi mewngofnodi i StudentPay, byddwch yn derbyn cyfarwyddiadau wedi'u hargraffu ar gyfer sut iw neud trosglwyddiad yn eich banc lleol.

Nodwch er mwyn cadarnhau eich trosglwyddiad arian i Brifysgol Caerdydd, bydd angen i chi gwblhau'r trosglwyddiad drwy fancio ar y We neu gyflwyno'r manylion banc i'ch banc lleol o fewn 72 awr.

Bydd ebost o gadarnhad yn cael ei anfon o Western Union Business Solutions unwaith mae'r taliad wedi ei dderbyn.

Mewn rhai achosion mae'n rhaid i chi wneud eich trosglwyddiad mewn naill ai Euros neu Doleri'r U.D. os nad yw'ch dewis arian lleol ar gael. Efallai y codir tâl rhyngwladol am hyn a gallai fod yna ffi uwch ar gyfer y trosglwyddiad hwn.

Trosglwyddiad banc uniongyrchol

Gallwch dalu drwy drosglwyddiad banc uniongyrchol i gyfrif banc y Brifysgol naill ai yn llawn neu drwy dri rhandaliad. Er mwyn i ni allu adnabod yn hawdd pwy yr ydych yn dymuno eu talu, gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi:

  • eich enw llawn
  • eich rhif myfyriwr (neu ymgeisydd)

Nid yw'r broses yn rhan o gofrestriad ar-lein ac mae'n rhaid i ni dderbyn taliadau o leiaf 7 diwrnod gwaith cyn i chi gofrestru ar-lein.

Dylech dalu'ch trosglwyddiad i:

Lloyds Bank, 1 Heol y Frenhines, Caerdydd, CF10 2AF
Cyfrif: Ffioedd Dysgu Prifysgol Caerdydd
Rhif y Cyfrif: 17852568
Côd Didoli: 30-67-64
BIC: LOYDGB21707
Rhif IBAN: GB53 LOYD 3067 6417 8525 68

Cofiwch gael derbynneb/tystiolaeth os ydych wedi talu drwy drosglwyddiad banc uniongyrchol. Bydd hyn yn ei gwneud hi'n haws i ni ddod o hyd i'ch taliad os fydd problem yn codi.

Os ydych yn talu mewn 3 rhandaliad, y dyddiadau talu fydd:

  • rhandaliad cyntaf - 27 Medi 2019 -  fel rhan o, neu cyn gwneud cofrestru ar-lein
  • ail rhandaliad - 27 Ionawr 2020
  • trydydd rhandaliad - 27 Ebrill 2020

Am ragor o wybodaeth neu i wirio os mae'ch taliad wedi ei dderbyn i'n cyfrif, cysylltwch â'r Swyddfa Gyllid.

Os ydych wedi derbyn nawdd i dalu'ch ffioedd dysgu (nid yw hyn yn cynnwys aelodau teuluol neu ffrindiau sydd yn talu ar eich rhan) dylech:

  • gael llythyr wrth eich noddwr yn cadarnhau eu bod yn cymryd cyfrifoldeb am eich taliadau ffioedd
  • anfon y llythyr i fees@caerdydd.ac.uk i'r Adran Gyllid yn syth ar ôl ei dderbyn a dim hwyrach na saith diwrnod gwaith cyn i chi gofrestru ar-lein.
  • Os na wnewch chi hyn, ni fydd modd i chi gwblhau eich cofrestriad ar-lein. Rhaid i chi ddarparu llythyr nawdd swyddogol ar gyfer pob blwyddyn astudiaeth.
  • Nid yw hyn yn berthnasol i fyfyrwyr sy'n derbyn arian drwy'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr gan fod Prifysgol Caerdydd yn derbyn y wybodaeth yma'n electronig.

Yn unol â Rheolau Ariannol Prifysgol Caerdydd, os nad yw eich noddwr yn talu eich ffioedd dysgu, chi fydd yn gyfrifol am y taliad llawn. Byddwch yn ymwybodol y bydd hyn yn effeithio ar eich gallu i dderbyn dyfarniad wrth y Brifysgol. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich noddwr yn ymwybodol bod yn rhaid talu'r ffioedd dysgu o fewn 30 diwrnod o dderbyn yr anfoneb. Os nad yw'r taliad wedi ei dderbyn erbyn y dyddiad hwn, chi sy'n gyfrifol am dalu'r ffioedd dysgu'n llawn.

Os yw'r myfyriwr yn derbyn nawdd rhannol am ffioedd dysgu, oni bai fod y noddwr yn gorchymyn fel arall, dylid tynnu’r rhan wedi’i noddi o’r ffi a’r myfyriwr fydd yn gyfrifol am y gweddill sy'n daladwy mewn 3 rhandaliad. Ni all nawdd rhannol gael ei ddefnyddio i oedi talu'r rhandaliad cyntaf.

Bydd eich dyddiadau rhandaliadau a symiau yn cael eu dangos ar eich cyfrif ar SIMS ar-lein.

Os ydych yn fyfyriwr sy'n derbyn nawdd, bydd angen i chi gwblhau'r broses cofrestru ar-lein.

Rydym yn ddarparwr Benthyciadau Proffesiynol a Datblygiad Gyrfaol cofrestredig, rhif cofrestru 8655.

Benthyciad banc masnachol yw Benthyciad Datblygiad Proffesiynol a Gyrfaol (PCDL) y gallwch ei ddefnyddio i helpu talu am addysg sy'n gysylltiedig â'r gwaith. Am wybodaeth bellach am gymorth ariannol i helpu eich haddysgu, ewch i'r wefan gov.uk neu cysylltwch â'r Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol ar 0800 100 900. Os ydych wedi gwneud cais, mae yna adran fydd angen ei chwblhau gan y Swyddfa Gyllid.

Cysylltwch â'r Swyddfa Gyllid am wybodaeth bellach. Disgwylir i fyfyrwyr sy'n derbyn PCDL i dalu eu rhan o'r ffioedd yn unol â'r dulliau talu uchod.

Mae'r wybodaeth isod yn Saesneg yn unig.

International students can pay their fees using Cardiff University’s payments platform powered by Western Union Business Solutions. This allows you, your parents and sponsors to pay GBP student fees in the currency of your choice and provides you with a simple and secure way to initiate a payment.

Find out more about this payment option.

Mae'r wybodaeth isod yn Saesneg yn unig.

Students coming to Cardiff from the United States may choose to take out loans for all or part of their tuition fees. Full details of how to go about applying for funding can be found on the USA webpage.

Mae'r wybodaeth isod yn Saesneg yn unig.

The Finance Office is able to arrange letters to assist with the transfer of funds. However, due to the high volume of demand at this time of year, you must allow at least three working days for the letter to be produced. Letters being sent overseas will then be sent standard class mail so you would be advised to request any documents you need as early as possible.

To request foreign exchange letters or Canadian tax certificates, please email fees@cardiff.ac.uk.

Taliad prydlon

Cyfrifoldeb yr holl fyfyrwyr yw sicrhau bod y ffioedd dysgu'n cael eu talu mewn pryd neu bod ariannu digonol (h.y. grantiau a benthyciadau) yn ei le. Dylech wedi sicrhau'r ddarpariaeth cyn neu erbyn eich cofrestriad ar-lein.

Os nad ydych yn talu'ch ffioedd dysgu erbyn y dyddiad cau bydd Rheoliadau'r Senedd yn cael eu gorfodi a gall eich cofrestriad gael ei ganslo.

Cysylltu

Cysylltwch â'r Swyddfa Gyllid am gymorth ynglŷn â thalu'r Ffioedd Dysgu.

Ffioedd Dysgu

Swyddfa Gyllid
Adran Incwm
Llawr 8, Heol Casnewydd
Caerdydd
CF24 0DE

Gall y Tîm Cyngor ac Arian eich helpu gydag unrhyw gwestiynau cyffredinol a cheisiadau ariannu manwl:

Tîm Cyngor ac Arian

Cyngor ac Arian (Parc y Mynydd Bychan)