Ewch i’r prif gynnwys

Cofrestru ar-lein

Gall y wybodaeth hon newid. Byddem yn eich cynghori i adolygu'r tudalennau hyn yn rheolaidd.

Un o'r camau cyntaf i ddod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd yw cofrestru ar-lein 3 wythnos cyn i chi ddechrau.

Byddwch yn derbyn ebost i'ch hatgoffa tua tair wythnos cyn bod eich rhaglen yn dechrau. Bydd yn rhoi gwybod i chi bod y dasg cofrestru ar-lein ar gael i chi. Ni ddylai hyn gymryd mwy na 15 munud i'w gwblhau.

Nodwch mai dim ond am amser penodol y bydd y dasg cofrestru ar gael i chi, ac felly fe’ch cynghorir i gofrestru cyn gynted ag y byddwch yn derbyn yr ebost.

Rhaid i chi gofrestru ar-lein drwy wneud y canlynol:

  • cytuno i fod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd a glynu at ei rheoliadau
  • cytuno i'r datganiad diogelu data
  • cytuno i ymrwymiad cymunedol coronafeirws (COVID-19)
  • gwirio a diweddaru'r wybodaeth yn eich cofnod myfyriwr
  • talu eich ffioedd dysgu neu roi tystiolaeth o nawdd
  • lanlwytho dogfennau adnabod i ddangos Hawl i Astudio yn y DU
  • lanlwytho ffotograff i'w ddefnyddio ar eich cerdyn myfyriwr.

Unwaith y byddwch wedi cofrestru, gallwch gasglu eich cerdyn myfyriwr, cael mynediad at ein holl gyfleusterau (yn ddibynnol ar unrhyw gyfyngiadau yn sgil y coronafeirws COVID-19), derbyn eich taliad benthyciad myfyriwr cyntaf a mynychu digwyddiadau ymsefydlu eich Ysgol.

Sut i gofrestru ar-lein

Cyn dechrau ar y broses gofrestru byddwch angen y canlynol:

  • eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair ym Mhrifysgol Caerdydd
  • eich manylion cyswllt
  • lle bo hynny'n berthnasol, eich manylion talu (cyfrif banc, cerdyn credyd/debyd, manylion nawdd)
  • copi wedi'i sganio o'ch dogfennau adnabod
  • llun electronig ar ffurf pasbort.

Gallwch gofrestru ar-lein drwy SIMS ar-lein.

Bydd angen i chi glicio ar y ddolen ‘SIMS: mewngofnodi ar-lein’ (ar waelod chwith y sgrin) yna defnyddio eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair ym Mhrifysgol Caerdydd.

Yna cliciwch ar y ddolen ‘Dechrau Cofrestru’.

Dylech wirio’r wybodaeth sydd gan y Brifysgol amdanoch, a diweddaru hwn lle bo angen. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw wrth i chi gwblhau pob tudalen, mae hyn yn golygu na fyddwch yn gallu mynd yn ôl a gwneud newidiadau unwaith y byddwch wedi cwblhau pob tudalen felly dylech ddarllen a gwirio’r wybodaeth yn ofalus.

Pan fyddwch wedi cwblhau Ymrestru Rhan 1, bydd modd ichi lanlwytho dogfen adnabod a bydd Ymrestru Rhan 2 ar gael. Ar ôl i chi gwblhau'r dasg i lanlwytho'r ddogfen adnabod bydd y dasg llwytho'r llun yn ymddangos wedyn. Mae'n bwysig eich bod yn llenwi pob adran. Mae’n bwysig cwblhau pob adran.

Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio system ar-lein SIMS

Ar ôl cofrestru ar-lein

Unwaith y byddwch wedi cofrestru byddwch yn derbyn e-bost cadarnhau cofrestru o fewn 24 awr. Nid yw'n angenrheidiol argraffu hwn.

Yn SIMS ar-lein, bydd y botwm 'dechrau cofrestru' yn diflannu a bydd botwm newydd 'cadarnhad o'r rhaglen astudio' yn ymddangos.

Os bydd angen i chi ddewis modiwlau dewisol, bydd dolen yn ymddangos unwaith yr ydych wedi cadarnhau eich rhaglen astudio. Efallai y bydd rhai Ysgolion yn gofyn i chi fynychu digwyddiadau cofrestru/ymsefydlu yn yr Ysgol cyn dewis modiwlau dewisol. Gweler amserlen eich Ysgol am ragor o wybodaeth.

Os bydd eich dewisiadau modiwl dewisol yn anghywir, gallwch eu hail-ddewis gan ddefnyddio'r cyfleuster dewis modiwlau, ac yna bydd angen i’ch Ysgol eu cymeradwyo.

Gallwch weld eich modiwlau ar unrhyw adeg yn SIMS drwy ymweld â’r adran cofnodion academaidd.

Trosglwyddo i raglen wahanol

Gallwch ofyn am drosglwyddo rhwng rhaglenni drwy dasg ar-lein unwaith y byddwch wedi cofrestru ar-lein. Rydym yn cynghori eich bod yn cael cymeradwyaeth academaidd gan eich Ysgol yn gyntaf. Noder efallai y bydd angen ail-asesu eich atebolrwydd ffi.

Dod yn aelod o Undeb y Myfyrwyr

Unwaith i chi orffen cofrestru ar-lein, byddwch yn awtomatig yn aelod llawn o Undeb y Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd sy'n cynnig amrywiaeth o glybiau, cymdeithasau a gwasanaethau.

Fodd bynnag, mae gennych yr hawl i beidio ymaelodi gyda'r Undeb yn unol ag Adran 22 (2) (c) Deddf Addysg 1994. Os nad ydych chi'n dymuno ymuno, bydd angen i chi roi gwybod i'r Cofrestrydd Academaidd yn ysgrifenedig drwy Holi Caerdydd erbyn ail wythnos y tymor cyntaf neu o fewn 14 diwrnod o gwblhau'r cofrestriad ar-lein.

Cymorth gyda chofrestru ar-lein

Mae cofrestru ar-lein yn orfodol, ac rydym yn cynghori eich bod yn ei gwblhau cyn i chi gyrraedd Caerdydd - ond os na allwch gael gafael ar gyfrifiadur neu fynd ar-lein, gallwch gofrestru ar ôl cyrraedd yn y Brifysgol yn un o'n lleoliadau cofrestru lle bydd staff ar law i helpu.

Gallwch wneud hyn wrth bwynt casglu carden adnabod myfyrwyr.

Os ydych yn perthyn i un o'r grwpiau canlynol, gallwch gael rhagor o wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael yn ein hadran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

  • ceiswyr lloches
  • ymadawyr gofal
  • anabledd a dyslecsia
  • myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio
  • cyn-filwyr y lluoedd
  • ailbennu rhywedd
  • lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws(rywedd)+ a rhyngrywiol
  • crefydd a chred
  • myfyrwyr sy'n ofalwyr
  • myfyrwyr sy'n rhieini.

Ymholiadau Cofrestru