Cyllid gan Cyllid Myfyrwyr
Diweddarwyd: 10/08/2023 10:12
Os na fyddwch am ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl cymhwyso, gallwch wneud cwrs gofal iechyd o hyd yng Nghymru a wneud cais i Gyllid Myfyrwyr am gyllid. Mae angen i chi optio allan i weithio yng Nghymru ar ôl cymhwyso i fod yn gymwys i gael cyllid gan Gyllid Myfyrwyr.
Mae gwybodaeth am y cyllid y gallwch wneud cais amdano a’r cyllid rydych yn gymwys i’w gael, gan gynnwys cyfarwyddiadau ar sut i optio allan, ar gael ar ein tudalennau gwe cyllid myfyrwyr.
Newid eich meddwl
Mae gennych hyd at ddeg wythnos ar ôl dechrau eich cwrs i newid eich meddwl ar ôl ymrwymo i weithio yng Nghymru ar ôl cymhwyso a chael cyllid gan y GIG.
I optio allan, bydd angen i chi wneud y canlynol:
- canslo eich cais am fwrsari gan y GIG yng Nghymru. Gallwch wneud hyn drwy ebostio Gwasanaeth Dyfarniadau Myfyrwyr y GIG ar abm.sas@wales.nhs.uk i egluro eich bod am optio allan a chanslo eich cais. Bydd angen i chi roi eich rhif cyfeirnod SAS neu eich dyddiad geni
- Cofrestru’n fyfyriwr newydd eto ar wefan Gwasanaeth Dyfarniadau Myfyrwyr y GIG drwy ddefnyddio enw defnyddiwr a chyfeiriad ebost newydd. Y tro hwn, nodwch eich bod yn optio allan. Dylech gael ebost sy'n cadarnhau eich bod wedi optio allan
- Anfon yr ebost i Gyllid Myfyrwyr. Gallwch lanlwytho'r ebost optio allan i'ch cyfrif Cyllid Myfyrwyr drwy'r opsiwn ‘lanlwytho tystiolaeth ddigidol’ newydd neu ei anfon drwy ebost. Byddai'n ddefnyddiol gwneud y ddau i wneud yn siŵr bod Cyllid Myfyrwyr yn cael cadarnhad eich bod wedi optio allan:
- bydd angen i fyfyrwyr o Gymru anfon y cadarnhad hwn at Bursary_opt_out_SFW@slc.co.uk
- bydd angen i fyfyrwyr o Loegr anfon y cadarnhad hwn at Bursary_opt_out_SFE@slc.co.uk
- os ydych yn dod o Ogledd Iwerddon neu'r Alban, bydd Cyllid Myfyrwyr Gogledd Iwerddon neu Asiantaeth Dyfarniadau Myfyrwyr yr Alban yn rhoi’r cyfeiriad ebost i chi.
Os ydych yn gwneud cais i Gyllid Myfyrwyr Cymru
Cwblhewch y 3 ffurflen canlynol:
- PFF2 – Ffurflen Asesiad o amgylchiadau ariannol 2023 i 2024
- Ffurflen NMT i MT (23/24) (gwneud cais am gyllid myfyriwr yn seiliedig ar eich ffurflen incwm cartref)
- Ffurflen gais am Fenthyciad Ffi Dysgu (23/24).
Os ydych yn fyfyriwr sengl annibynnol, does dim angen cwblhau y ffurflen PFF2.
Gallwch lanlwytho'r ffurflenni a'r dystiolaeth wedi'u cwblhau trwy'r opsiwn llwytho i fyny digidol newydd ar eich cyfrif SFW. Fel arall, gallwch anfon popeth drwy'r post i'r cyfeiriad ar y ffurflenni.
Cadwch lygad ar eich cyfrif Cyllid Myfyrwyr Cymru ar-lein yn aml neu ffoniwch Cyllid Myfyrwyr Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad eich cais.
Os ydych yn gwneud cais i Gyllid Myfyrwyr Lloegr
Cwblhewch y 3 ffurflen canlynol:
- PFF2 – Ffurflen Asesiad o amgylchiadau ariannol 2023 i 2024
- Gwneud cais am gyllid myfyriwr yn seiliedig ar ffurflen incwm eich cartref 2023/24
- Ffurflen gais am Fenthyciad Ffioedd Dysgu - ffoniwch Student Finance England i ofyn am y ffurflen hon.
Os ydych yn fyfyriwr sengl annibynnol, does dim angen cwblhau y ffurflen PFF2.
Gallwch uwch lwytho eich ffurflenni gorffenedig drwy'r opsiwn uwch lwytho digidol newydd ar eich cyfrif Cyllid Myfyrwyr Lloegr. Fel arall, gallwch anfon popeth drwy'r post ar y cyfeiriad ar y ffurflenni.
Cadwch lygad ar eich cyfrif Cyllid Myfyrwyr Lloegr ar-lein yn aml neu ffoniwch Cyllid Myfyrwyr Lloegr i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad eich cais.
Cyngor ychwanegol
Os bydd angen rhagor o gyngor arnoch a gwybodaeth am fod yn gymwys i gael cyllid, cysylltwch â: Cyllid a chyngor i fyfyrwyr.