Ewch i’r prif gynnwys

Gwasanaethau Cymorth Arbenigol

Diweddarwyd: 09/08/2023 15:30

Os argymhellir i chi gael gwasanaeth cefnogaeth arbenigol fel addasiad rhesymol gan y Gwasanaeth Anabledd Myfyrwyr neu'n dilyn eich asesiad anghenion DSA, gallwn ddarparu'r gwasanaeth i chi drwy ein gwasanaethau mewnol.

Gweithiwr cymorth

Mae gennym dîm o weithwyr cymorth sy'n gallu gweithio gyda chi i'ch cynorthwyo gydag ystod o weithgareddau'n gysylltiedig ag astudiaethau, fel:

  • cymryd nodiadau mewn darlithoedd
  • eich cyfeirio neu eich helpu i symud o amgylch y campws
  • cymorth gyda dosbarthiadau labordy neu ymarferol
  • gwasanaeth llyfrgell.

Tiwtora sgiliau astudio

Mae gennym dîm o diwtoriaid sgiliau astudio arbenigol sy’n gallu cynnig cefnogaeth sgiliau astudio i chi. Mae'r gefnogaeth mae ein tiwtoriaid n cynnig yn canolbwyntio ar gynnig y sgiliau sy'n gysylltiedig ag astudio canlynol:

  • sgiliau trefnu a rheoli amser
  • technegau gwneud nodiadau a chofio
  • sgiliau ymchwil
  • ysgrifennu academaidd
  • sillafu a gramadeg
  • strategaethau adolygu
  • sgiliau cyflwyno
  • dysgu annibynnol.

Gwasanaeth mentora iechyd meddwl

Mae ein mentoriaid yn gweithio gyda chi i reoli eich gofynion sy'n gysylltiedig â'ch astudiaethau a allai gael eu heffeithio gan effaith eich cyflwr iechyd meddwl. Mae'r cymorth sy'n cael ei gynnig gan ein mentorau yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau astudio sy'n cwmpasu'r canlynol:

  • oedi
  • perffeithiaeth
  • cymhelliant
  • canolbwyntio
  • dysgu annibynnol
  • ymdopi â newid.

Gwasanaethau arbenigol eraill

Os nad ydych yn gymwys ar gyfer DSA ond bod angen gwasanaethau arbenigol eraill arnoch megis Iaith Arwyddion Prydain (BSL), byddwn yn eich cefnogi gyda'r cyllid a mynediad at y gwasanaethau hyn.

Efallai fydd eich Cynghorydd Anabledd argymhell gwasanaethau nad ydynt wedi'u hariannu gan DSA. Os fydd hyn yn digwydd, bydd y Brifysgol yn gyfrifol am y costau.

Os yw'ch cynghorydd wedi argymhell gwasanaethau gyda darparwyr allanol, fydd angen i chi gysylltu â nhw yn uniongyrchol. Os gewch chi unrhyw broblemau wrth gysylltu â'r darparwyr hyn neu drefnu'r ddarpariaeth, rhowch wybod i ni er mwyn i ni gael rhoi cymorth i chi gael cysylltu.

Cysylltwch â ni

Gwasanaeth Anabledd Myfyrwyr