Dysgu digidol

Yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddechrau dysgu, astudio a chydweithredu ar-lein.
Rydym wedi creu canllaw sy'n gyflwyniad i ddysgu ar-lein a digidol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae wedi'i ddylunio i’ch helpu i baratoi’n llawn ar gyfer eich addysgu eleni, ac i gyfeirio at unrhyw bryderon a allai fod gennych am na ffurf fydd ar eich gwersi.
Beth sydd yn y canllaw
Dechrau arni
Dysgwch am yr offer fydd ei angen arnoch, y feddalwedd a’r rhaglenni byddwch yn eu defnyddio, a’r adnoddau y gallwch eu cael i’ch helpu.
Paratoi i Ddysgu
Dysgwch ba ffurf fydd ar eich addysgu, dod i wybod am y dulliau gwahanol o ddysgu ar-lein, a dod yn gyfarwydd â’r adnoddau byddwch yn eu dysgu.
Sgiliau astudio
Dysgwch am yr amrywiaeth eang o gymorth ac adnoddau sydd ar gael i’ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar eich astudiaethau.