Myfyrwyr yr effeithir arnynt gan y coronafeirws (COVID-19) sy’n cyrraedd y campws yn hwyr
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Rydym yn deall na fyddwch efallai yn gallu dod i’r campws am gyfnod byr neu hirach o amser oherwydd materion sy’n ymwneud â’r coronafeirws (COVID-19).
Rydym wedi datblygu polisi astudio o bell i wneud yn siŵr eich bod yn gallu parhau â'ch astudiaethau ar-lein os na allwch fod ar y campws.
Yn flaenorol, roedd yr opsiwn i astudio o bell ar gael tan 31 Ionawr 2021 (yn gynt i rai rhaglenni). Rydym wedi ymestyn hyn bellach, felly gallwch wneud cais i astudio o bell am gyfnod hirach nawr. Bydd hyd yr estyniad yn dibynnu ar ddyddiad dechrau eich rhaglen:
Dyddid dechrau'r rhaglen | Ymestyn astudio o bell tan |
---|---|
Cyn 28 Medi 2020 | 18 Gorffennaf 2021 |
28 Medi 2020 | 20 Mehefin 2021 |
Yn ystod Hydref/Tachwedd 2020 | 25 Gorffennaf 2021 |
Yn ystod Ionawr 2021 | 22 Awst 2021 |
Sylwch na fydd rhai rhaglenni yn gallu darparu cyfle i astudio o bell, ac ni fydd rhai eraill oedd yn gallu cynnig astudio o bell ar gyfer semester 1 yn gallu gwneud hynny ar gyfer semester 2 oherwydd dysgu a drefnwyd sydd angen presenoldeb ar y campws.
Gwirio a ydych yn gymwys
Os ydych yn fyfyriwr israddedig neu ôl-raddedig a addysgir, gallwch wneud cais i astudio o bell os ydych:
- yn gwarchod eich hunain neu mewn grŵp agored i niwed
- yn byw gyda rhywun (neu’n gofalu am rywun) sy’n gwarchod ei hun
- yn methu â theithio i’r Deyrnas Unedig o ganlyniad i gyfyngiadau/problemau teithio
- mewn cwarantîn mewn llety yn y DU
- yn pryderu am ddod i ddarpariaeth ar y campws.
Nid yw'r opsiwn i astudio o bell yn berthnasol i raglenni lle mae'n ofynnol i chi fynychu gweithgarwch ar y campws, neu i fodloni anghenion cyrff proffesiynol neu statudol.
Peidiwch â defnyddio'r dasg hon os oes angen i chi hunanynysu oherwydd profi ac ôl-rhain, neu os yw aelod o'ch cartref yn arddangos symptomau'r coronafeirws. Dylech adrodd am hyn ar SIMS Ar-lein.
Rhaglenni nad ydynt yn gymwys
Nid yw'r opsiwn i astudio o bell yn berthnasol i raglenni lle mae'n ofynnol i chi fynychu gweithgarwch ar y campws, er enghraifft ar gyfer dysgu clinigol neu mewn labordy neu i fodloni anghenion cyrff proffesiynol neu statudol. Os ydych ar raglen sy'n gymwys ar gyfer astudio o bell, byddwch yn gallu gwneud cais ar SIMS Ar-lein o'r wythnos yn dechrau 7 Rhagfyr 2020.
Os nad yw'ch rhaglen yn gymwys ar gyfer astudio o bell, ni fydd y dasg gwneud cais yn ymddangos yn eich cofnod SIMS ar-lein. Bydd eich Ysgol hefyd yn cysylltu â myfyrwyr pob rhaglen (neu flynyddoedd rhaglenni) ble nad yw astudio o bell yn bosibl er mwyn rhoi gwybod i chi am hyn.
Os nad yw eich rhaglen yn caniatau astudio o bell ac ni allwch ddod i'r campws, gallwch fod yn gymwys i ohirio eich astudiaethau. Bydd swyddfa eich ysgol neu'ch tiwtor personol yn gallu'ch cynghori ar yr opsiynau.
Cael cyngor
Os na allwch ddychwelyd i'r campws dylech gysylltu â'ch Ysgol i drafod eich opsiynau. Yn ogystal, gallwch gael rhagor o gyngor ar astudio o bell o:
- Myfyrwyr Rhyngwladol - cysylltwch â Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol drwy ebostio iss@caerdydd.ac.uk
- Myfyrwyr cartref - cysylltwch â Cefnogi Myfyrwyr drwy ebostio studentconnect@caerdydd.ac.uk
Pethau i'w hystyried cyn i chi wneud cais i astudio o bell
Os ydych yn fyfyriwr tramor, myfyriwr a noddir, yn astudio rhaglen un flwyddyn, neu'n bwriadu defnyddio eich cymhwyster i weithio dramor, mae rhai ystyriaethau pwysig y dylech feddwl amdanynt cyn i chi wneud cais i astudio o bell. Mae hyn yn benodol bwysig os ydych eisoes wedi astudio semester un o bell.
A fydd eich cymhwyster, os caiff ei astudio o bell, yn cael ei dderbyn yn y wlad yr ydych yn bwriadu gweithio ynddi? Mewn rhai gwledydd, mae'n bosibl na fydd cymwysterau a enillir drwy ddysgu o bell yn cael eu cydnabod gan rhai awdurdodau neu reoleiddwyr at ddibenion cyflogaeth sector cyhoeddus neu astudiaethau pellach. Rydym yn eich cynghori i ymchwilio'r statws cydnabyddiaeth lleol os ydych yn bwriadu gwneud cais i astudio eich gradd i gyd o bell. Os ydych ar raglen un flwyddyn, dylech wirio gyda chorff llywodraethu'r wlad berthnasol cyn gwneud cais i astudio o bell.
Mae esiamplau o'r cyrff y gallwch gysylltu â nhw yn cynnwys:
- Gweinyddiaeth Addysg/Addysg Uwch yn eich gwlad neu dalaith/rhanbarth
- Llysgenhadaeth eich gwlad yn y DU (lle mae gan y Llysgenadaethau Swyddog Diwylliannol/Addysg sy'n cynnig gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr yn y DU).
- Cyrff proffesiynol/trwyddedu ar gyfer galwedigaethau penodol yn eich gwlad neu dalaith/rhanbarth.
- Cyrff achredu addysgol yn eich gwlad neu dalaith/rhanbarth.
- Eich noddwr (os yw hynny'n berthnasol).
Eich cyfrifoldeb chi yw gwirio bod eich cymhwyster yn ddilys yn y wlad lle rydych yn bwriadu ei ddefnyddio cyn gwneud cais am astudiaeth o bell.
A fydd eich noddwr yn dal i gynnig cymorth ariannol os ydych chi'n astudio o bell? Os ydych yn derbyn cymorth ariannol gan noddwr i ariannu eich astudiaethau, dylech gysylltu â nhw i weld a fyddant yn parhau i roi cymorth ariannol os ydych yn bwriadu astudio o bell.
Ydych chi'n bwriadu gweithio yn y DU ar ôl astudio (fisa gwaith ar ôl astudio)?Bydd y Llwybr Graddedig yn agor yn ystod haf 2021, pan fydd canllawiau'r Swyddfa Gartref ar gael. Mae'r rheolau presennol yn nodi bod angen i chi gyrraedd yn y DU erbyn 6 Ebrill 2021 ac wedi cymryd rhan mewn astudio wyneb yn wyneb am un semester yn DU, a bodloni'r holl feini prawf eraill, er mwyn bod yn gymwys i ymgeisio ar gyfer y fisa Llwybr Graddedig ar ôl cwblhau eich rhaglen academaidd.
Sut i wneud cais i astudio o bell
- Bydd angen i chi gwblhau’r broses ymrestru ar gyfer eich rhaglen ym Mhrifysgol Caerdydd.
- Mewngofnodwch i SIMS a dewiswch 'Fy Nghofnod Myfyriwr'.
- Dewiswch 'Gwneud cais i astudio o bell' a dilynwch y cyfarwyddiadau i gyflwyno eich cais.
- Bydd SIMS yn gwirio a allwch astudio'r cwrs o bell
- Os ydych yn gymwys, bydd eich cais yn cael ei gymeradwyo hyd nes y dyddiad perthnasol a nodir yn y tabl uchod (yn dibynnu ar ddyddiad dechrau eich rhaglen).
- Byddwch yn derbyn ebost yn cadarnhau'r cyfnod cymeradwy y cewch astudio o bell
Os yw eich amgylchiadau'n newid, neu os byddwch yn newid eich meddwl
Os yw'ch amgylchiadau'n newid ar ôl gwneud cais, ac rydych yn awyddus i ddychwelyd i ddysgu ar y campws, gallwch roi gwybod i ni ar SIMS. Gofynnwn i chi roi pythefnos o rybudd i ni, fel bod modd i ni sicrhau bod trefniadau priodol ar waith erbyn i chi ddychwelyd.
Ymrestru
Hyd yn oed os ydych yn gwneud cais i astudio o bell, dylech barhau i gwblhau eich ymrestriad ar-lein cyn gynted ag y byddwch yn derbyn ebost yn eich gwahodd i wneud hynny (efallai eich bod eisoes wedi derbyn yr ebost hwn).
Sylwch, os cewch ganiatâd i astudio o bell, ni fydd angen i chi gasglu eich cerdyn myfyriwr i ddechrau na rhoi tystiolaeth o'ch hawl i astudio yn y DU os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. Bydd angen i chi uwchwytho copi o'ch pasbort i borth SIMS ar ôl cwblhau'r broses ymrestru ar-lein, i gadarnhau eich hunaniaeth. Pan fyddwch yn cyrraedd y Brifysgol byddwch yn casglu eich cerdyn adnabod myfyrwyr ac yn darparu eich dogfennau llawn yn y digwyddiad ymrestru.
Goblygiadau academaidd
O ran yr elfen academaidd, bydd gan fyfyrwyr sy'n astudio o bell brofiad myfyriwr tebyg, gan ddefnyddio deunyddiau dysgu ar-lein. Bydd eich gwaith academaidd yn cael ei asesu ar yr un sail â phob myfyriwr arall, p'un a ydynt yn astudio o bell ai peidio. Cyn belled â'ch bod wedi ymrestru, byddwch yn dal yn gallu cael gafael ar y deunyddiau dysgu ar-lein 'safonol' a gynigir yn rhan o'ch rhaglen.
Myfyrwyr rhyngwladol
Cadarnhau’r Derbyn i Astudio (CAS)
Os caiff eich cais i astudio o bell ei gymeradwyo byddwn yn cysylltu â chi ynghylch datganiad TAU newydd.
Cais am fisa'r DU
Dylech wirio'ch dyddiadau teithio arfaethedig yn ofalus a chaniatáu digon o amser i'ch fisa gael ei brosesu.
Fisa gwaith ar ôl astudio
Mae rheolau fisa’r DU yn nodi, cyn belled â'ch bod wedi cyrraedd y DU erbyn 6 Ebrill 2021, ac yn bodloni'r holl feini prawf eraill, y byddwch yn gallu gwneud cais i newid i'r llwybr hwn ar ôl cwblhau eich rhaglen academaidd.