Rhaglenni ymchwil strategol
Drwy gydweithio ag ystod eang o sefydliadau academaidd, iechyd a chyhoeddus, gallwn fynd yn ein blaen a chynyddu effaith gwaith arloesol ein Sefydliad Ymchwil.
Mae'r berthynas yn amrywio o gydweithio â sefydliadau academaidd allanol a chael grantiau a noddir gan sefydliadau, i raglenni mewnol a gynhelir gan ganolfannau ym Mhrifysgol Caerdydd ei hun.
Rydym yn frwdfrydig iawn ynghylch cyflwyno ymchwil berthnasol sy'n gwasanaethu diben cymdeithasol gwerthfawr. Mae ein tîm ymchwil yn croesawu cyfleoedd i feithrin cydweithrediadau newydd. Credwn mai dim ond drwy gyfathrebu syniadau gwyddoniaeth yn ehangach y gall ein staff a'n myfyrwyr gyflawni eu nodau craidd wrth ymchwilio i driniaethau a therapïau posibl ar gyfer ystod o gyflyrau niwrolegol cymhleth.
Cydweithrediadau allweddol
Cysylltwch â ni
I drafod prosiect neu gydweithrediad posibl, cysylltwch â ni drwy: