Archwilio'r cysylltiad rhwng straen ym y blynyddoedd cynnar a salwch meddwl
Wedi'i ariannu gan the Hodge Foundation, mae ymchwil Nichola Brydges yn canolbwyntio ar ddatblygu canlyniadau biolegol straen yn y blynyddoedd cynnar a sut mae'r rhain yn cysylltu â'r risg o ddatblygu anhwylderau seiciatrig.
Mae dealltwriaeth o'r mecanweithiau biolegol yma yn hanfodol ar gyfer darganfod dulliau newydd am driniaeth ac ataliaeth.
Cefndir
Mae astudiaethau epidemiolegol wedi dangos bod dod i gysylltiad â straen yn ystod y blynyddoedd cynnar yn gysylltiedig â risg uwch o ddatblygu anhwylderau seiciatrig, o iselder i sgitsoffrenia, anhwylder pryder ôl-drawmatig a deubegynedd.
Nid ydym yn gwybod pob peth am y mecanweithiau sy'n tanategu hyn, ond byddai gwell dealltwriaeth o sut gall straen yn y blynyddoedd cynnar newid ymddygiad a phrosesau moleciwlaidd yn gwella ein gallu i atal ac i drin salwch. Mae hwn yn fwyfwy pwysig wrth i gyfraddau salwch meddwl gynyddu ymhlith pobl ifanc yn enwedig.
Dull ymchwil
Mae'r grŵp yn defnyddio cyfuniad o ddulliau i geisio datgelu canlyniadau biolegol straen yn y blynyddoedd cynnar. Rydym yn ystyried effaith straen ar ymddygiad, yn enwedig os caiff ei lywodraethu gan y hippocampus, strwythur yr ymennydd sy'n bwysig o ran dysgu a chofio.
Mae ymddygiad cymdeithasol yn ffocws arall; caiff hwn ei amharu'n sylweddol o ganlyniad i salwch seiciatrig. Wrth i ni gyfuno'r rhain gyda newidiadau ymddygiadol i addasiadau moleciwlaidd, er mwyn pennu pa brosesau biolegol caiff eu heffeithio. Yma mae gennym niwrogenesis wedi'i dargedu, cenhedlaeth o niwronau newydd yn hippocampus oedolion, ac arginine vasopressin, niwropeptid cymdeithasol. Mae'r ffocws terfynol ar wrthdroi'r newidiadau hyn wrth ddefnyddio triniaethau ffarmacolegol ac amgylcheddol wrth i ni chwilio am strategaethau a therapïau newydd i drin salwch meddwl.
Canlyniad arfaethedig
Rydym yn gobeithio defnyddio ein gwaith ymchwil i wella dealltwriaeth am y mecanweithiau biolegol sy'n cysylltu straen yn y blynyddoedd cynnar i'r risg o ddatblygu salwch meddwl, ac i ddarganfod llwybrau newydd am driniaeth ac ataliaeth.