Parth yr ymennydd
Mae Parth yr Ymennydd yn brosiect ymgysylltu cymunedol a gynhelir gan ôl-raddedigion o Brifysgol Caerdydd i hyrwyddo cyfathrebu gwyddoniaeth drwy flogiau a phodlediadau.
Mae cyfathrebu gwyddoniaeth yn effeithiol yn sgil y mae arianwyr yn edrych amdano fwyfwy yn y gwyddonydd modern. Mae'r prosiect yn gweithio i ymgysylltu ag aelodau o’r cyhoedd sydd â diddordeb gydag erthyglau ysgogol yn ogystal â datblygu sgiliau cyfathrebu gwyddoniaeth gwyddonwyr sydd ar ddechrau eu gyrfa mewn amgylchedd a yrrir gan gymheiriaid.
Ac yntau’n alinio ag amcanion y Sefydliad Niwrowyddoniaeth Brydeinig (BNA), mae Parth yr Ymennydd yn helpu darllenwyr a chyfranwyr fel ei gilydd i ymgysylltu â changhennau eraill niwrowyddoniaeth. Tra bo ymgysylltu cyhoeddus yn fudd allweddol, mae’r platfform yn cynnig amgylchedd i ddatblygu’r sgiliau hyn ynddo gyda chefnogaeth ac arweiniad cyfoedion.
Yn ogystal, mae tudalen adnoddau ar y wefan yn cynnig ‘banc atgofion’ o ddolenni ac adnoddau niwrowyddoniaeth er mwyn helpu myfyrwyr ac ymchwilwyr gyda’u dysgu damcaniaethau gwyddonol, sgiliau cyhoeddi, a dadansoddi data.
Rhannwch eich angerdd dros gyfathrebu gwyddoniaeth
Ceir erthyglau o bob lliw a llun ar wefan Parth yr Ymennydd, o gyflwyniadau bachog i themâu niwrowyddoniaeth i archwiliadau o newyddion diweddar a safbwyntiau cleifion.
Nid oes angen profiad o ysgrifennu ar gyfer y we, dim ond angerdd dros gyfathrebu eich gwybodaeth niwrowyddoniaeth â chynulleidfa ehangach. Mae tîm golygyddol yn annog cyflwyniadau sy’n amlygu llais a chefndir yr awdur, gan feithrin amgylchedd lle mar amrywiaeth y rhai sy’n cyfrannu at niwrowyddoniaeth yn cael ei chydnabod.
Cysylltwch â ni
Os ydych yn frwd dros ymgysylltu âr cyhoedd ac am ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu, carem glywed gennych! Cysylltwch â ni’n uniongyrchol ar:
Parth yr ymennydd
Edrychwch ar ein blogiau newydd, adnoddau niwrowyddoniaeth a phodlediadau ar wefan Parth yr Ymennydd