Ysgoloriaethau
Rydym yn cynnig amrywiaeth o ysgoloriaethau i'n darpar fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig.
Ysgoloriaethau PhD Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC)
Mae Prifysgol Caerdydd yn rhan o Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru a De a Gorllewin Lloegr (SWW DTP) sy'n dyfarnu ysgoloriaethau doethuriaeth AHRC. Mae’r bartneriaeth yn gydweithrediad rhwng wyth o brifysgolion ymchwil blaenllaw a phartneriaid o’r economi greadigol, yn cydweithio i ddatblygu ymchwilwyr y celfyddydau a’r dyniaethau ar gyfer y dyfodol. Mae PHD SWW yn cynnig ysgoloriaethau doethurol yn flynyddol, gyda cheisiadau fel arfer yn cau ddiwedd mis Ionawr (i ddechrau mis Hydref). Mae rhagor o wybodaeth am yr ysgoloriaethau ymchwil ar gael ar wefan DTP SWW.
Cynghorir ymgeiswyr sydd â diddordeb mewn gwneud cais am gyllid AHRC i gysylltu â’n Cyfarwyddwr Ymchwil Ôl-raddedig i gael trafodaethau anffurfiol cyn cyflwyno cais:
Ysgoloriaethau PhD yr Ysgol Cerddoriaeth
Mae Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd yn falch o gyhoeddi dwy ysgoloriaeth ddoethuriaeth ar gyfer mynediad ym mis Hydref 2023, ysgoloriaeth ffioedd yn unig ac ysgoloriaeth lawn (ffioedd a chyflog).
Rydym yn croesawu ceisiadau gan ôl-raddedigion rhagorol o’r DU a’r UE/rhyngwladol sydd â chofnod priodol o gyflawniad. Rhaid iddynt fod wedi cyflawni, neu fod yn disgwyl cyflawni naill ai gradd Meistr (gyda rhagoriaeth neu deilyngdod) o brifysgol yn y DU, neu gymhwyster cyfatebol o’r tu allan i’r DU, neu mae ganddynt brofiad proffesiynol addas.
Sut i wneud cais
I gael rhagor o fanylion am ysgoloriaethau ymchwil a gwybodaeth am sut i wneud cais, ewch i dudalen we ysgoloriaethau a phrosiectau PhD.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12:00 ddydd Llun 24 Ebrill 2023.
Sylwer bod y dyddiad cau'n derfynol ac ni dderbynnir ceisiadau a wneir ar ôl y dyddiad a'r amser hwn.
Cysylltu
Cysylltwch â’n Gweinyddwr Ôl-raddedig, Huw Thomas, i gael gwybodaeth am ysgoloriaethau ar gyfer mynediad 2023/4:

Huw Rhys Thomas
Postgraduate Research (PGR) and Research Administrator
- Siarad Cymraeg
- thomash6@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2251 1092