Ewch i’r prif gynnwys

Clefyd Parkinson

Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar ddysgu mwy am y ffactorau genetig ac epigenetig sy'n dylanwadu ar risg pobl o ddatblygu clefyd Parkinson.

Beth yw clefyd Parkinson?

Cyflwr niwrolegol yw clefyd Parkinson, sy'n achosi niwed cynyddol i'r ymennydd dros lawer o flynyddoedd. Mae'n effeithio ar tua 1 o bob 500 o bobl ond mae hyn yn cynyddu gydag oedran; gan godi i 1 o bob 100 o bobl dros 60 oed a 3 o bob 100 o bobl dros 80 oed. Ymhlith y symptomau mae cryndod, symudiad araf a chyhyrau anystwyth ac anhyblyg. Gall pobl sydd â'r cyflwr hefyd brofi problemau iechyd meddwl fel iselder a gorbryder.

Yn batholegol, mae'r afiechyd yn cynnwys crynhoad o synuclein alffa ar ffurf cyrff Lewy a niwritiaid Lewy mewn llu o ardaloedd motor ac eraill yn yr ymennydd.  Cyfuniad o ffactorau genynnol ac amgylcheddol sy’n achosi hyn.

Ein hymchwil

Arweinir ein hymchwil gan Dr Nigel Williams ac mae'n canolbwyntio ar ddysgu mwy am y ffactorau genetig ac epigenetig sy'n peri risg uwch o safbwynt clefyd Parkinson. Mae gennym gysylltiadau cydweithredol cryf â’r canlynol:

  • Yr Athro Huw Morris (UCL)
  • Yr Athro Nicholas Wood (UCL)
  • Yr Athro John Hardy (UCL)
  • Yr Athro Andrew Singleton (NIH)
  • Yr Athro Jonathon Mill (Caerwysg)
  • Yr Athro Simon Jones (Caerdydd)

Geneteg

Fel aelodau o Gonsortiwm Geneteg Rhyngwladol Clefyd Parkinson (IPDGC) buom yn cynnal cysylltiad ar draws y genom a nododd amrywiadau genetig ar gyfer mwy na 28 o ffactorau risg genetig ar gyfer clefyd Parkinson. Mae ein hastudiaethau dilynol yn ymchwilio i fecanweithiau swyddogaethol sy'n allweddol i glefyd Parkinson a'r berthynas enetig ag anhwylderau cysylltiedig. Mae'r rhain wedi nodi llwybrau biolegol newydd a thystiolaeth bod risg genetig ar gyfer clefyd Parkinson yn gontinwwm, sy'n cynnwys effaith crynhoi llawer o enynnau risg.

Epigeneteg

Mae ein dealltwriaeth gynyddol o'r genom dynol wedi arwain at gydnabyddiaeth gynyddol o bwysigrwydd amrywiad epigenetig. Mae prosesau epigenetig yn gweithredu i reoli mynegiant genynnau yn ddeinamig yn annibynnol ar amrywiad dilyniant DNA a gwyddys eu bod yn rheoleiddio prosesau niwrofiolegol allweddol yn yr ymennydd. Cawn ein hariannu gan Parkinson's UK i integreiddio data methylu DNA ar draws y genom â ffactorau risg genetig er mwyn sicrhau gwell dealltwriaeth ynghylch a yw mecanweithiau swyddogaethol yn gysylltiedig â chlefyd Parkinson.

Storfa clefyd Parkinson o Fiosamplau a Setiau Data wedi’u Rhwydweithio (PRoBaND)

Astudiaeth ar draws y Deyrnas Unedig sy’n cael ei gweinyddu gan Brifysgol Glasgow a’i ariannu gan Parkinson's UK yw PRoBaND. Mae'r astudiaeth yn cynnwys asesiad clinigol manwl ar gyfer 2200 o gleifion clefyd Parkinson, y mae llawer ohonynt wedi cael eu hasesu'n hydredol dros bum mlynedd. Ein grŵp ni yw'r labordy canolog lle mae'r holl ddadansoddi DNA yn digwydd a'r holl samplau (DNA a serwm) yn cael eu storio.

I gael rhagor o wybodaeth am weithdrefnau labordy cysylltwch â Kate (Catherine) Bresner.

Prif Ymchwilwyr

Yr Athro Nigel Williams

Yr Athro Nigel Williams

Reader, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Email
williamsnm@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 8466