Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan Genedlaethol Iechyd y Meddwl

Mae Canolfan Genedlaethol Iechyd y Meddwl am ddenu miloedd o bobl i gymryd rhan mewn ymchwil i iechyd y meddwl wrth dynnu sylw at y maes hwnnw a lleddfu nod cywilydd.

Gall afiechyd y meddwl effeithio ar bawb beth bynnag fo’i oed, ei dras, ei ryw a’i gefndir cymdeithasol. Mae amcangyfrif y bydd 25% o bobl y deyrnas hon yn dioddef ag afiechyd y meddwl rywbryd yn ystod eu hoesau.

Mae ymchwilwyr y ganolfan yn ceisio deall rhagor am achosion a sbardunau afiechyd y meddwl er gwell diagnosis, triniaeth a chymorth.

Cymryd rhan

Rydyn ni’n gwahodd miloedd o bobl y deyrnas hon i gymryd rhan yn yr ymchwil trwy lenwi holiadur byr ar y we (tua chwarter awr). Mae dros 15,000 o bobl wedi’i lenwi hyd yma.

Ein helpu i wella byd pobl

Gwyliwch animeiddiad NCMH yn Saesneg

Cymryd rhan os ydych chi o dan 18 oed

Gallwch ddal i gymryd rhan os ydych chi o dan 18 oed

Hoffen ni siarad â phawb sydd wedi dioddef ag afiechyd y meddwl megis iselder, anhwylder deubegynol, anhwylder sbectrwm awtistiaeth neu sgitsoffrenia.

Arweinydd thema

Yr Athro Ian Jones

Yr Athro Ian Jones

Director, National Centre for Mental Health

Email
jonesir1@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 8327