Ewch i’r prif gynnwys

Bioystadegau a biowybodeg

Abstract image to represent genetics

Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar ddadansoddi llawer iawn o ddata biolegol er mwyn helpu i ddeall achosion clefydau sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu cynnydd amlwg ym maint a chymhlethdod data genomig sydd ar gael i ymchwilwyr. Mae gan y mewnlifiad hwn o wybodaeth y potensial i gynhyrchu mewnwelediadau pwysig i'r prosesau biolegol sy'n sail i anhwylderau genetig.

Fodd bynnag, mae maint a chyfoeth y data newydd hwn yn peri heriau sylweddol o ran dadansoddi, storio data a chyfrifiannu. Mae ein huned bioystadegau a biowybodeg (BBU) yn gweithio i ateb yr heriau hyn, gan ddatblygu dulliau a thechnegau newydd i ganiatáu ymchwil i elwa o'r cyfoeth hwn o ddata.

Ein hymchwil bioystadegau a biowybodeg

Mae ein hymchwil yn cwmpasu'r meysydd canlynol, sy'n rhychwantu'r holl grwpiau ymchwil yn y CNGG:

Dadansoddiad o amrywiad genetig cyffredin (SNP)

Rydym wedi cynnal astudiaethau cysylltiad genom-gyfan (GWAS) ar samplau mawr o anhwylderau niwroddirywiol a seiciatrig, yn benodol sgitsoffrenia, ADHD, clefyd Alzheimer sy'n dechrau’n hwyr a chlefyd Huntington.

Dadansoddiad o amrywiad genetig prin

Rydym hefyd yn dadansoddi data sglodyn ecsom a dilyniannu i ddarganfod amrywiadau prin unigol sy'n gysylltiedig â risg clefyd, gyda diddordeb arbennig mewn amrywiadau denovo. Rydym hefyd yn astudio amrywiadau rhif copi prin (CNVs) ar gyfer cysylltiad â chlefyd, mewn samplau rheoli achos a denovo.

Integreiddio data biowybodeg gyda data genetig

Mae gennym ddiddordeb arbennig yn natblygiad a chymhwysiad dulliau i brofi ar gyfer cyfoethogi signal genetig mewn setiau genynnau (llwybrau). Gellir cael y rhain o gronfeydd data neu drwy brofi mynegiant neu rwydweithiau rhyngweithio protein. Mae'r dulliau hyn wedi cael eu cymhwyso’n llwyddiannus i astudiaethau GWAS a CNV.

Agregu amrywiad genetig

Rydym wedi datblygu methodoleg ar gyfer agregu amrywiad genetig ar y lefel gennyn a llwybr, ac wedi defnyddio hwn o fewn clefydau i ddod o hyd i loci rhagdueddiad newydd ac ar draws clefydau i ganfod rhagdueddiad genetig a rennir. Ar hyn o bryd, mae gennym ddiddordeb mewn datblygu dulliau i gyfuno gwahanol fathau o amrywiad genetig (SNPs, amrywiadau denovo, CNVs) i mewn i un dadansoddiad.

Dadansoddiad ffenoteip

Mae'r dulliau dadansoddi genetig a ddisgrifir uchod yn cael eu cymhwyso i gyfoeth o ddata clinigol a ffenotypig, yn enwedig data delweddu.

Cydweithrediadau

Mae ein haelodau'n weithgar mewn nifer o gonsortia rhyngwladol, yn enwedig y Consortiwm Genomeg Seiciatrig (PGC), y Prosiect Genomeg Clefyd Alzheimer Rhyngwladol (IGAP) a'r Consortiwm Genomeg Clefyd Parkinson Rhyngwladol (IPDGC).

Addysgu a hyfforddi

Yn ogystal â'n cynnyrch ymchwil, rydym yn cymryd rhan weithredol mewn hyfforddi myfyrwyr ac ymchwilwyr drwy'r MSc mewn Biowybodeg ac Epidemioleg Genetig

Arweinydd thema

Yr Athro Peter Holmans

Yr Athro Peter Holmans

Professor of Biostatistics & Genetic Epidemiology

Email
holmanspa@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 8427

Prif ymchwilwyr

Yr Athro Valentina Escott-Price

Yr Athro Valentina Escott-Price

Reader, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Email
escottpricev@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 8429
Dr Andrew Pocklington

Dr Andrew Pocklington

Senior Lecturer, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Email
pocklingtonaj@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 8428
Richard Anney

Richard Anney

Senior Lecturer in Bioinformatics, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Email
anneyr@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 208 8390