Ewch i’r prif gynnwys

Holiaduron ansawdd bywyd

Doctor filling in forms as they're sitting with a patient

Gellir defnyddio ein cyfres o holiaduron ansawdd bywyd yn glinigol, yn fasnachol, yn anfasnachol neu ar gyfer ymchwil.

Ein holiaduron ansawdd bywyd

Dewiswch holiadur isod i’w lawrlwytho a chael gwybodaeth benodol amdano, gan gynnwys gwybodaeth am y cyfnod galw’n ôl a sut i’w sgorio:

Dermatoleg – cyffredinol

Dermatoleg – clefyd-benodol

Dermatoleg – aelodau’r teulu

At ddefnydd generig ym mhob maes arbenigedd meddygol

Sut y gellir eu defnyddio

Gallwch ddefnyddio'r holiaduron at ddibenion sy’n amrywio o waith clinigol arferol hyd at astudiaethau ymchwil.

Gan ddibynnu ar bwy ydych, ac at ba ddiben rydych yn bwriadu eu defnyddio, efallai y bydd angen i chi wneud cais am drwydded a thalu ffi.

Gall cleifion unigol ddefnyddio unrhyw rai o’n holiaduron, mewn unrhyw iaith, i’w helpu i gyfathrebu â’u meddygon.

Gall clinigwyr ddefnyddio'r holiaduron hefyd at ddibenion clinigol arferol i ategu’r broses ymgynghori, gwerthuso a gwneud penderfyniadau. Gallwch hefyd eu defnyddio i ôl-ddadansoddi neu gyhoeddi’r data a gafodd ei gasglu wrth roi gofal clinigol arferol i’ch cleifion.

Yn yr achosion hyn, nid oes angen i chi wneud cais am drwydded na thalu ffi. Gallwch eu lawrlwytho o’u priod dudalennau.

Ategu’r broses gwneud penderfyniadau

Gall ein holiaduron ansawdd bywyd ategu’r broses gwneud penderfyniadau. Yn aml, ni fydd meddyg yn deall yn union pa effaith y mae cyflwr ar y croen yn ei chael ar glaf unigol.

Pe bai'r meddyg yn gwybod bod y cyflwr yn cael effaith fawr ar y claf, byddai’r meddyg efallai’n newid sut mae’n cynnig triniaeth ar ei gyfer, efallai’n rhoi therapi sy’n llawer mwy ymosodol, ac mewn lleoliadau gofal sylfaenol, yn ystyried atgyfeirio’r claf at ddermatolegydd arbenigol.

Cyhoeddiadau perthnasol

Salek S, Roberts A, Finlay AY The practical reality of using a patient-reported outcome measure in a routine dermatology clinic Dermatology. 2007; 215: 315-319

Katugampola RP, Hongbo Y, Finlay AY Clinical management decisions are related to the impact of psoriasis on patient-rated quality of life Br J Dermatol. 2005; 152: 1256-1262

Atwan A, Piguet V, Finlay AY, Francis NA, Ingram JR Dermatology Life Quality Index (DLQI) as a psoriasis referral triage tool Br J Dermatol. 2017; 177(4): e136-e137

Israddedigion ac ôl-raddedigion

Os hoffech ddefnyddio unrhyw rai o’n holiaduron yn rhan o’ch prosiect yn y brifysgol, mae angen i chi wneud cais am drwydded am ddim.

Ni ddylai myfyriwr ofyn am drwydded yn uniongyrchol gan mai’r sefydliad, nid y myfyriwr ei hun, sy’n cymryd cyfrifoldeb am y drwydded.

Sut i wneud cais

Gofynnwch i aelod o’r staff yn eich sefydliad, coleg neu brifysgol wneud cais am drwydded ar eich rhan. Fel arfer, eich goruchwyliwr fyddai hwn.

  • Agorwch y ffurflen gais ar-lein.
  • Dewiswch ‘At ddefnydd myfyrwyr’.*
  • Ewch ati i lenwi’r ffurflen a’i chyflwyno.

Bydd ebost awtomataidd yn cael ei anfon atoch sy’n rhoi trwydded ar unwaith. Mae hyn yn cadarnhau eich bod wedi sicrhau caniatâd i ddefnyddio'r holiadur yn rhan o’ch astudiaeth.

Mae angen i chi wneud cais ar wahân yn achos pob math o holiadur.

Proses awtomatig yw hon, a chan fod y drwydded yn un am ddim, nid oes angen i chi gysylltu â ni’n uniongyrchol.

*Sylwer: Os yw eich astudiaeth yn cael ei hariannu gan gwmni sy’n ceisio elw, fel cwmni fferyllol, gellir codi ffi. Yn y sefyllfa anarferol hon, nodwch ei bod yn cael ei hariannu’n fasnachol ar y dudalen berthnasol.

Os hoffech ddefnyddio holiadur at unrhyw ddibenion heblaw dibenion clinigol arferol, bydd angen i chi wneud cais am drwydded yn gyntaf cyn trefnu iddo gael ei gwblhau.

Trwyddedau anfasnachol am ddim

Mae’r rhain ar gyfer astudiaethau/prosiectau clinigol neu academaidd:

  • nad ydynt yn cael eu hariannu gan sefydliadau sy’n ceisio elw, fel cwmni fferyllol
  • sy’n cael eu hariannu gan gyrff grantiau cenedlaethol, fel y Sefydliadau Iechyd Cenedlaethol a’r Cyngor Ymchwil Feddygol
  • sy’n cael eu cynnal gan israddedigion neu ôl-raddedigion (ar yr amod nad ydynt yn cael eu hariannu’n allanol)

Mae'r drwydded hon yn rhad ac am ddim.

Trwyddedau masnachol

Mae unrhyw ddefnydd a wneir o holiadur gan sefydliad sy’n ceisio elw, gan gynnwys cwmnïau fferyllol, yn cael ei ddiffinio’n ddefnydd ‘masnachol’. Gall defnydd o’r fath fod at ddibenion gwaith ymchwil, marchnata neu hyrwyddo.

Codir ffi o £18 fesul claf yn y DU a $26 (USD) fesul claf yng ngweddill y byd ar gyfer y drwydded. Ar gyfer cwmnïau yn y DU a’r UE, gall fod angen talu Treth ar Werth (TAW).

Mae’r ffi hon yn seiliedig ar gyfanswm nifer y cleifion y byddwch yn gofyn iddynt gwblhau’r holiadur. Nid yw'n seiliedig ar ba mor aml y byddwch yn gofyn i gleifion ei gwblhau. Bydd angen i ni wybod union nifer y cleifion (neu gael amcangyfrif agos o nifer y cleifion) rydych yn bwriadu gofyn iddynt gwblhau’r holiadur.

Wrth roi gwybod i ni faint o unigolion mewn astudiaeth y dylid codi ffi ar eu cyfer, dylech nodi cyfanswm nifer yr unigolion y byddwch yn gofyn iddynt gwblhau’r holiadur ac nid nifer yr unigolion sydd wedi cwblhau’r holiadur mewn gwirionedd.

Sylwer: Os byddwch yn defnyddio Mynegai Anabledd Acne Caerdydd neu’r Mynegai Anabledd Psoriasis at unrhyw ddibenion masnachol, ni fydd angen i chi dalu ffi, ond bydd angen i chi wneud cais am drwydded.

Os hoffech ôl-ddadansoddi neu gyhoeddi’r data a gasglwyd drwy holiadur yn rhan o astudiaeth a gynhaliwyd gan sefydliad sy’n ceisio elw, mae’n rhaid i chi wneud cais am drwydded fasnachol o hyd.

Mae’r holiaduron yn aml yn cael eu defnyddio at ddibenion eraill, gan gynnwys eu hargraffu i’w dosbarthu a’u cyhoeddi ar wefannau. Dylech gysylltu â ni’n uniongyrchol a rhoi cymaint o fanylion â phosibl i ni er mwyn i ni allu rhoi gwybod pa ffi sy’n daladwy, os o gwbl.

Ar ôl i’r drwydded gael ei rhoi

Pan fyddwch wedi cyflwyno'r ffurflen, byddwch yn cael ebost yn awtomatig i gadarnhau bod y drwydded wedi’i rhoi. Os na fyddwch wedi cael yr ebost, edrychwch yn eich ffolder sothach. Cysylltwch â ni os bydd angen.

Ar ôl i chi gael yr ebost, gallwch ddechrau defnyddio’r holiaduron ar unwaith. Bydd anfoneb yn cael ei pharatoi (drwy ddefnyddio’r wybodaeth a roddwyd gennych ar y ffurflen) a’i hanfon atoch yn fuan ar ôl hynny.

Newid nifer yr unigolion dan sylw

Pan fyddwch wedi llenwi’r ffurflen gais am drwydded, byddwch yn gallu newid nifer yr unigolion dan sylw’n ddiweddarach, ond a fyddech cystal â nodi na fydd modd cael ad-daliad. Os bydd angen i chi ychwanegu rhagor o unigolion, gellir codi ffi bellach.

Os bydd angen i chi newid nifer yr unigolion dan sylw, cysylltwch â ni.

Gwneud cais am drwydded

Llenwch ein ffurflen gais ar-lein i sicrhau eich trwydded ar unwaith. Ar gyfer pob darpar astudiaeth (er enghraifft, astudiaeth lle mae gofyn i chi sicrhau caniatâd moesegol ymlaen llaw), nodwch fod yn rhaid i chi wneud cais am drwydded ymlaen llaw.

Ffurflen gais ar-lein

Sylwer: I wneud cais am drwydded i ddefnyddio Mynegai Anabledd Psoriasis (PDI) neu Fynegai Anabledd Acne Caerdydd (CADI) cysylltwch yn uniongyrchol â'r swyddfa Trosglwyddo Technoleg drwy ebostio technologytransfer@caerdydd.ac.uk. Ni ellir defnyddio ein system drwyddedu ar-lein i wneud cais.

Mae’r Brifysgol yn trin a thrafod pob math o ohebiaeth a data mewn ffordd gyfrinachol. Ni fydd gohebiaeth a data byth yn cael eu rhannu ag unrhyw drydydd parti. Darllenwch ein polisi ar ddiogelu data.

Sut i gwblhau’r holiaduron

Dylai’r rhai sy’n cwblhau’r holiadur wneud hynny heb gymorth, oni bai bod rhywbeth yn peri dryswch a’u bod yn gofyn am gymorth i ddeall cwestiwn penodol. Dylai bron pawb allu cwblhau’r holiadur heb gymorth.

Ni ddylid dweud wrthynt am ddewis opsiwn fel ‘Amherthnasol’ o dan unrhyw amgylchiadau, gan y gallai hyn arwain at ragfarn.

Nid yw’n briodol ychwaith dangos sgoriau’r atebion y gellir dewis ohonynt wrth eu hymyl. Ni chafodd yr holiaduron eu dilysu i’w defnyddio yn y ffordd hon. Gallai dangos y sgoriau effeithio ar sut mae’r person yn ateb y cwestiynau.

Dros y ffôn

Mae llawer o'n holiaduron wedi'u cwblhau dros y ffôn. Fodd bynnag, nid yw ein holiaduron wedi’u dilysu’n ffurfiol i’w cwblhau yn y ffordd hon.

Y tu allan i’r ystodau oedran a ddilyswyd

Os byddwch yn defnyddio’r holiaduron y tu allan i'r ystodau oedran a ddilyswyd, dylid cofio nad yw ein holiaduron wedi’u dilysu’n ffurfiol i’w defnyddio yn y ffordd hon wrth ddadansoddi a dehongli’r data.

Copïo ein holiaduron i’w cynnwys mewn cyhoeddiadau

Mae ein holl holiaduron wedi’u hawlfreinio, ac nid ydym yn caniatáu eu copïo i’w defnyddio mewn unrhyw gyhoeddiad. Fodd bynnag, gallwch ddisgrifio unrhyw newidiadau neu addasiadau a wnaed iddynt sydd wedi’u cymeradwyo gan Brifysgol Caerdydd.

Newid fformat neu eiriad holiadur

Nid yw'n bosibl newid cynnwys, geiriad na threfn cwestiynau holiadur. Cofiwch y byddai gwneud newidiadau heb ganiatâd yn cael ei ystyried yn achos o dorri cyfreithiau hawlfraint rhyngwladol.

Nodwch fod yn rhaid cynnwys y datganiad o ran hawlfraint ar ddiwedd yr holiadur bob tro. Gallwch ddod o hyd i'r datganiad ar dudalen yr holiadur unigol.

Os hoffech ailfformatio’r holiadur i ddiwallu anghenion eich astudiaeth, byddem yn fodlon trafod hyn gyda chi. Fodd bynnag, bydd yr hawlfraint yn berthnasol i unrhyw fformat newydd o hyd.

Bydd angen i ni gymeradwyo’r fformat terfynol. Felly, anfonwch gopïau o’r fersiwn ddrafft atom i fwrw golwg drostynt cyn defnyddio’r holiadur.

Wrth ailfformatio’r holiadur, ni ddylid cynnwys unrhyw beth sy’n fodd i adnabod cwmni fferyllol neu gorff arall. Mae hyn yn golygu na ddylai’r holiadur gynnwys unrhyw destun neu symbolau a allai roi’r argraff anghywir ei fod yn eiddo i gwmni fferyllol penodol/corff arall neu’n gysylltiedig ag ef.

Gan fod ein holl holiaduron wedi’u hawlfreinio, ni chaniateir ychwanegu cwestiynau atynt. Ni chewch ychwaith gopïo na defnyddio'r cwestiynau i greu holiadur cwbl newydd.

Dim ond os byddwch yn cytuno i ddefnyddio’r union eiriad y cewch ddefnyddio’r holiaduron. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol iawn y byddwn yn cytuno i unrhyw newid yng ngeiriad ein holiaduron.

Un o’r prif resymau pam mae ein holiaduron yn cael eu defnyddio fwyfwy ledled y byd yw’r ffaith eu bod bob amser yr un fath. Wrth wneud unrhyw newidiadau, mae’r holiaduron a’r dehongliadau o’r sgoriau’n cael eu hannilysu.

Rydym yn gwybod nad yw ein holiaduron yn berffaith ac efallai na fyddant yn hollol addas ym mhob achos. Efallai yr hoffech ystyried defnyddio un o holiaduron y Brifysgol a gofyn cwestiynau ychwanegol ar wahân. Efallai yr hoffech hefyd ystyried defnyddio adnodd arall neu ddatblygu holiadur newydd i ddiwallu eich anghenion.

Mae llawer o drefnwyr astudiaethau wedi creu eu fersiynau electronig eu hunain o’r holiaduron, ac mae astudiaeth fewnol, ynghyd â rhai allanol, wedi dangos nad oes angen dilysu holiaduron yn ffurfiol dro ar ôl tro os mai dim ond ychydig iawn o newidiadau sydd wedi’u gwneud i’r fformat.

Os hoffech ddatblygu eich fersiynau electronig eich hun o'n holiaduron, byddem yn eich helpu i wneud hynny. Byddai angen caniatâd ffurfiol arnoch, a byddai'n rhaid i ni fwrw golwg dros gipluniau ymlaen llaw.

Byddai’r ffi’n amrywio, gan ddibynnu a yw eich fersiwn electronig at ddefnydd cyhoeddus neu ar gyfer astudiaeth benodol. Mae’n rhaid dangos y datganiad o ran hawlfraint mewn unrhyw fersiwn electronig. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni.

Fformatio fersiynau electronig

Os bydd claf wedi methu ag ateb un cwestiwn wrth gwblhau holiadur ar bapur, bydd yr holiadur yn dal i fod yn ddilys i’w sgorio.

Fodd bynnag, os bydd wedi methu ag ateb dau gwestiwn neu fwy, bydd yr holiadur yn annilys. Ein cyngor wrth gynllunio unrhyw feddalwedd yw sicrhau bod modd gwneud yr un peth, h.y. dylai unigolion allu osgoi un cwestiwn ond nid mwy nag un.

Cyhoeddiadau perthnasol

Ali FM, Johns N, Finlay AY, Salek MS, Piguet V. Comparison of the paper-based and electronic versions of the Dermatology Life Quality Index: evidence of equivalence Br J Dermatol 2017; 177: 1306-1315

Campbell N, Ali F, Finlay AY, Salek SS. Equivalence of electronic and paper-based patient-reported outcome measures Qual Life Res 2015; 24(11): 1949-61

Cyfieithiadau newydd a dilysu ieithyddol

Mae’r fersiynau mewn ieithoedd eraill yn cael eu dilysu’n llawn yn ieithyddol, lle bydd o leiaf ddau gyfieithiad annibynnol i’r iaith darged, cytundeb cydweithredol ac yna ddau gyfieithiad annibynnol yn ôl i’r iaith wreiddiol. Ar ôl hynny, bydd yr holiadur yn cael ei gyfieithu i’r iaith darged ac yn ôl i’r iaith wreiddiol sawl gwaith eto tan y byddwn yn fodlon bod y cyfieithiad mor gywir â phosibl.

Os hoffech drefnu cyfieithiad newydd, cysylltwch â ni er mwyn i ni allu gweithio gyda chi i greu fersiwn sy’n bodloni ein gofynion dilysu llym.

Peidiwch â cheisio trefnu cyfieithiad newydd heb siarad â ni’n gyntaf.

Os hoffech gael gwybod rhagor am y broses ddilysu ieithyddol neu sut rydym yn addasu’r testun Saesneg gwreiddiol i gyd-fynd â’r Saesneg sy’n cael ei defnyddio’n lleol, cysylltwch â ni.

Mae’r holl gyfieithiadau sydd ar gael ar hyn o bryd o’n holiaduron wedi’u cyhoeddi ar dudalennau’r holiaduron unigol, a hynny o dan y pennawd ‘Fersiynau iaith gwahanol’.

Cysylltu â ni

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau neu adborth ar ein tudalennau gwe, cysylltwch â ni.

Ein cyfeiriad

Gweinyddwr Ansawdd Bywyd Dermatoleg
Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd
3ydd Llawr, Tŷ Morgannwg
Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd
CF14 4XN
Y Deyrnas Unedig

Ymholiadau cyffredinol ac adborth

Dr. Faraz Ali

Dermatology Quality of Life Administrator

Ymholiadau ariannol, cytundebol neu fyfyrwyr

Joy Hayes

Ymholiadau trwyddedu

Swyddfa Trosglwyddo Technoleg