Ewch i’r prif gynnwys

Yn cyflwyno…rhaglen C21 gogledd Cymru

C21 north Wales programme

Gan adeiladu ar lwyddiant y cydweithio blaenorol gyda phrifysgolion yng Nghymru i gyflwyno’r rhaglen gofalwr (llwybr addysg cymunedol a gwledig), mae menter C21 gogledd Cymru yn ehangu ein hymrwymiad i ddatganoli addysg feddygol yng ngogledd Cymru yn unol ag amcanion Llywodraeth Cymru.

Mae rhaglen C21 gogledd Cymru yn rhoi’r dewis i fyfyrwyr meddygol Caerdydd astudio 4 blynedd o’u gradd MBBCh yn Ysgol y Gwyddorau Meddygol ym Mhrifysgol Bangor. Gan weithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BCUHB), amcan y rhaglen yw cyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynyddu recriwtio a chadw’r gweithlu meddygol mewn cymunedau sy’n cael eu tanwasanaethu yng Nghymru.

Bydd y fenter newydd hon yng Nghymru yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr astudio tra’u bod wedi’u gwreiddio mewn cymunedau, gan adlewyrchu polisi Llywodraeth Cymru y ‘dylid darparu gofal mor agos at gartrefi cleifion â phosibl’ sydd wedi golygu newid o gyfarwyddyd ar gyfer gwasanaethau clinigol yng Nghymru, gan roi mwy o bwyslais ar ofal sylfaenol a gwasanaethau yn y gymuned.

Cyhoeddwyd 20 o leoedd ychwanegol i fyfyrwyr meddygol ym mis Medi 2018 a rhoddwyd mandad i wneud y dyraniadau’n gyfan gwbl o fewn rhanbarth gogledd Cymru.

Llofnodwyd cydweithrediad ffurfiol rhwng Prifysgolion Bangor a Chaerdydd gan y ddau is-gangellorion ym mis Mawrth 2019, ac mae timau ar draws y ddau sefydliad wedi gweithio’n galed i sefydlu’r rhaglen i groesawu’r myfyrwyr cyntaf ym mis Awst 2019. Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae cyfleusterau pwrpasol wedi’u nodi a’u hadnewyddu ar gyfer myfyrwyr C21 Gogledd Cymru yn yr Ysgol Gwyddorau Meddygol. Bydd y cyfleusterau hyn yn rhoi’r cyfleusterau sgiliau clinigol a’r amgylcheddau addysgu mwyaf diweddar i fyfyrwyr.

Stori hyd yma...

Mae’r tîm sydd wedi’i leoli yn ysgol y gwyddorau meddygol ym Mhrifysgol Bangor, dan arweiniad yr Athro Dean Williams, wedi ehangu i gynnwys clinigwyr sydd newydd eu penodi i arwain y maes addysg gofal sylfaenol. Mae’r gyfadran wedi gweithio’n gyflym i nodi cefnogaeth gan gydweithwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i addysgu a darparu cyfleoedd lleoliadau i’r myfyrwyr.

Dyma fersiwn fyrrach o'r erthygl lawn oedd yn rhifyn 33 o ReMEDy.

Darllenwch yr erthygl lawn

ReMEDy Rhifyn 33

Cymerwch gip i weld beth rydym wedi bod yn ei wneud.