Ewch i’r prif gynnwys

Dan y Chwyddwydr: Iechyd da! Addysg feddygol cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd Yn dilyn

Iechyd Da!
Myfyrwyr a staff Academaidd ar Ddiwrnod Dathlu cyntaf y Coleg Cymraeg ar gyfer yr Ysgol Meddygaeth, Mehefin 2019.

Mae cenedlaethau o feddygon o Gymru wedi cael eu hyfforddi yng Nghaerdydd i wasanaethu anghenion poblogaeth Cymru. Ond cyn 2015, nid oedd unrhyw bwyslais ar ochr ieithyddol y gofal hwnnw. Roedd unrhyw ddarpariaeth Gymraeg yn digwydd ar hap ac yn ddibynnol ar unigolion brwdfrydig.

Yn dilyn datganoli, daeth Cymru’n gyfrifol am ei pholisïau addysg ac iechyd ei hun, a newidiodd y ffocws i ddatblygu gweithlu o safon uchel i ddiwallu anghenion cenedl ddwyieithog. Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol ym mis Mawrth 2019, mae bron i 900,000 yn gallu siarad Cymraeg, ac ers cyflwyno Mesur y Gymraeg yn 2011 nid oes modd trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Yn flaenorol, roedd myfyrwyr o addysg cyfrwng Cymraeg (26% o ysgolion Cymru) yn cyrraedd yr ysgol meddygaeth yn rhugl ac yn hyderus yn y Gymraeg ond erbyn iddynt raddio, roeddent wedi colli eu hydref a rhuglder proffesiynol yn y Gymraeg. Eu pryderon a’u hadborth yn 2013 oedd y sbardun i’r newid.

Yn dilyn ymchwil ac ymgynghori, daethpwyd i’r casgliad bod angen i Brifysgol Caerdydd greu “cyfleoedd i fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg gwblhau rhan o’u hyfforddiant yn y Gymraeg, yn systematig drwy gydol eu haddysg, lleoliadau, a chefnogaeth bersonol.”

Gyda phenodiad Dr Awen Iorwerth, y darlithydd clinigol cyfrwng Cymraeg cyntaf dan gynllun Staffio Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, roedd modd i Ysgol Meddygaeth Caerdydd gynnig darpariaeth Gymraeg o’r diwedd, gan ganolbwyntio ar ddysgu mewn grwpiau bach, tiwtoriaid personol, sgiliau cyfathrebu, a phapurau arholiad Cymraeg. Yn Hydref 2015, croesawyd 4 Ysgolhaig cyntaf y Coleg Cymraeg.

Sefydlwyd y Coleg yn 2011 i weithio gyda phrifysgolion Cymru, er mwyn datblygu cyrsiau ac adnoddau cyfrwng Cymraeg. Y Coleg sy’n dyfarnu Ysgoloriaethau Cymhelliant o £500 y flwyddyn i fyfyrwyr sy’n astudio o leiaf draean o’r cwrs yn Gymraeg.

Eleni, ym mlwyddyn academaidd 2019/20, mae 24 o ysgolheigion – 3 grŵp dysgu bach – yn y flwyddyn gyntaf. Bydd y genhedlaeth gyntaf yn graddio yn haf 2020 ac mae eu profiad wedi bod yn gadarnhaol iawn.

Dyma fersiwn fyrrach o'r erthygl lawn oedd yn rhifyn 33 o ReMEDy.

Darllenwch yr erthygl lawn

ReMEDy Rhifyn 33

Cymerwch gip i weld beth rydym wedi bod yn ei wneud.