MedSoc Caerdydd 2019/20
Yn MedSoc Prifysgol Caerdydd, un nod yw darparu cefnogaeth academaidd i fyfyrwyr, yn nhermau adolygu cynnwys y cwrs ac edrych tuag at ddyfodol gyrfaoedd myfyrwyr.
O fewn y mis diwethaf, mae MedSoc Caerdydd wedi trefnu ISCE Blwyddyn 4 ffug, gyda 180 o fyfyrwyr yn bresennol, Noson Gyrfaoedd Glinigol yn cynnwys 29 o arbenigeddau, y daeth tua 100 o fyfyrwyr iddi, yn ogystal â nifer o sesiynau adolygu dan arweiniad cyd-fyfyrwyr yng ngham 1 (a alwyd gynt yn ‘gyn-glinigol’).
Mae MedSoc Caerdydd yn falch o gynnal cysylltiadau agos â staff meddygol yr ysgolion, ac maent yn dal swyddi ar y Bwrdd Astudiaethau Meddygol Israddedig (UBOMS), y Pwyllgor Addysg, y Pwyllgor Proffesiynoldeb, y Pwyllgor Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, ac yn ddiweddar maent wedi cael gwahoddiad i gynghori’r Tîm Derbyniadau.
Meddai Jessica Randall, Llywydd Medsoc, 2019/20: “Mae’r ysgol feddygol yn mynd ati i ystyried barn myfyrwyr, ac mae’n fraint i ni gael effaith uniongyrchol ar benderfyniadau polisi. Mae ein tîm academaidd, gan gynnwys cadeirydd academaidd a chynrychiolwyr o bob grŵp blwyddyn, yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda’r ysgol feddygol i drafod cynnwys ac asesiadau cyrsiau, gan sicrhau bod staff yn gweithredu ar adborth myfyrwyr.”
Dywedodd Marcus Powis, Is-Lywydd MedSoc Cam 1, 2019/20: “Yn gyffrous, rydym yn parhau i ddarparu amrywiaeth o ddigwyddiadau cymdeithasol drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys Dawns Fawr i’r Glasfyfyrwyr, sy’n gweithredu fel cyflwyniad croesawgar i’r Brifysgol ar gyfer myfyrwyr newydd yn y flwyddyn gyntaf. Mae ein Dawns Fawr Flynyddol y Nadolig, a fynychir gan aelodau o bob grŵp blwyddyn, bob amser yn ffordd braf o ddod â’r tymor i ben ac yn wir i fynd i mewn i’r ysbryd Nadoligaidd!
Mae gweithgareddau hwyliog eraill yn cynnwys nosweithiau karaoke, cwisiau tafarn ac rydym yn gobeithio ehangu ein calendr cymdeithasol i gynnwys archebu sgrîn sinema a digwyddiadau trampolino!”
Cysylltwch
Mae MedSoc Caerdydd bob amser yn hapus i glywed gan gynfyfyrwyr - p’un a hoffech chi rannu storïau am eich amser mewn ysgol feddygol, neu os oes gennych unrhyw ddiddordeb mewn helpu i addysgu neu siarad â myfyrwyr. Mae croeso i chi gysylltu â’r cynrychiolydd Cynfyfyrwyr Lawrence Pugh; neu’r Llywydd, Jessica Randall,
Cardiff MedSoc
Dyma fersiwn fyrrach o'r erthygl lawn oedd yn rhifyn 33 o ReMEDy.
Darllenwch yr erthygl lawn
ReMEDy Rhifyn 33
Cymerwch gip i weld beth rydym wedi bod yn ei wneud.
Ddim yn derbyn ReMEDy? Diweddarwch eich manylion nawr i sicrhau nad ydych yn colli mas.