Hyrwyddo Rhagoriaeth Academaidd (PACE) o fewn Ysgolion Uwchradd
Sefydlwyd y prosiect peilot hwn gan ddarlithwyr (Dr Sarju Patel; Dr Jeff Allen a Dr Thanasi Hassoulas) o fewn y Ganolfan Addysg Feddygol i ysbrydoli myfyrwyr i ystyried gwneud cais i fynd i’r Brifysgol.
Ers mis Tachwedd 2018, mae 30 o fyfyrwyr meddygaeth wedi cynnal sesiynau wythnosol ar gyfer mwy na 20 o ddisgyblion Blwyddyn 9 yn Ysgol Uwchradd Fitzalan i wella’r ffordd y caiff y cwricwlwm gwyddoniaeth ei ddysgu a’i addysgu. Daeth y gwaith hwn i ben ym mis Mehefin 2019, gyda’r disgyblion a oedd yn rhan o’r prosiect yn bresennol mewn ysgol haf wedi’i dylunio’n arbennig a’i chynnal yn yr Ysgol Meddygaeth.
Un o brif nodau’r diwrnod hwn oedd rhoi i ddisgyblion y teimlad o berthyn a dangos nad yw’r brifysgol yn uchelgais anghyraeddadwy. Gyda chymorth grŵp bach o fyfyrwyr meddygol brwd, cafodd y grŵp flas ar sut beth yw addysgu a dysgu Prifysgol.
Dechreuodd y diwrnod gyda thaith o amgylch llyfrgell Cochrane, a chafodd y disgyblion eu hannog i gasglu gwerslyfrau i’w helpu i ddysgu ar sail achosion. Datblygwyd achos claf i roi blas, lle’r oedd y disgyblion yn dysgu am drawiadau ar y galon.
Dewiswyd y batholeg hon gan fod gwersi yn yr ysgol wedi trafod y galon ac roedd addysgu myfyrwyr meddygol yr Ail Flwyddyn hefyd wedi cynnwys patholegau mewn perthynas â’r galon.
Cafodd y grŵp y cyfle i ddysgu sgiliau ymarferol, gan gynnwys ymarferion i berfformio pan fo rhywun yn cael trawiad ar y galon. Treuliwyd amser yn yr ystafell Sgiliau Clinigol i roi cyd-destun i’w gwybodaeth newydd a’i hymgorffori a daeth y diwrnod i ben gyda chyflwyniadau disgyblion, lle cafodd gwobrau eu dyfarnu.
Dyma fersiwn fyrrach o'r erthygl lawn oedd yn rhifyn 32 o ReMEDy.
Darllenwch yr erthygl lawn
ReMEDy Rhifyn 32
Cymerwch gip i weld beth rydym wedi bod yn ei wneud.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Ddim yn derbyn ReMEDy? Diweddarwch eich manylion nawr i sicrhau nad ydych yn colli mas.