Canfyddiadau treialon PACE yn arwain…
…at ostyngiad diogel yn nefnydd gwrthfiotigau mewn cleifion â chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD).
Cynhaliodd ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Rhydychen a Choleg y Brenin, Llundain gyfarfod ymgysylltu â chynulleidfa benodol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 6ed Mehefin i drafod canlyniadau addawol iawn astudiaeth PACE.
Bu yno amrywiaeth o fudd-ddalwyr megis llunwyr polisïau, cynrychiolwyr y byd diwydiannol a’r trydydd sector, ymchwilwyr a chleifion a glywodd trwy gyfrwng anerchiadau i’r gynulleidfa i gyd a chyfres o gylchoedd trafod fod bwriad i roi’r hyn sydd wedi deillio o’r arbrawf ar waith mewn polisïau a chanllawiau er lles cleifion, eu teuluoedd, y gymdeithas ehangach a’r GIG.
Mae tua miliwn o bobl y deyrnas hon yn dioddef â chlefyd rhwystrol parhaol yr ysgyfaint. Yn aml, bydd pobl a chanddynt y clefyd yn dioddef eto fyth trwy byliau sydyn o fyrder gwynt, pesychu a llysnafedd pan fydd eu cyflwr yn waeth o lawer. Rhoddir cyffuriau gwrthfiotig i dri o bob pedwar. Fodd bynnag, nid heintiau bacteriol sy’n achosi dwy ran o dair o’r pyliau hynny ac, yn aml, fydd gwrthfiotigau ddim o gymorth i’r claf.
Nod ymchwilwyr oedd gweld a fyddai modd helpu clinigwyr i benderfynu pryd y dylen nhw roi gwrthfiotigau i glaf trwy dynnu peth gwaed o’i fys a’i brofi (proses y byddai angen ond ychydig o funudau i’w gorffen mewn meddygfa). Mae protein C-adweithiol yn dangos bod llid yn y gwaed am y bydd yn codi yn gyflym ynddo pan fo heintiau difrifol. Pan nad oes llawer o’r protein hwnnw yng ngwaed cleifion, byddan nhw’n llai tebygol o dipyn i elwa ar gyffuriau gwrthfiotig.
Yn ôl canlyniadau a gyhoeddwyd yn rhifyn mis Gorffennaf y New England Journal of Medicine, gall prawf pigiad bys mewn meddygfa gwtogi’n ddiogel ar y defnydd o wrthfiotigau mewn cleifion a chanddynt glefyd rhwystrol parhaol yr ysgyfaint.
Dyma fersiwn fyrrach o'r erthygl lawn oedd yn rhifyn 32 o ReMEDy.
Darllenwch yr erthygl lawn
ReMEDy Rhifyn 32
Cymerwch gip i weld beth rydym wedi bod yn ei wneud.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Ddim yn derbyn ReMEDy? Diweddarwch eich manylion nawr i sicrhau nad ydych yn colli mas.