Ewch i’r prif gynnwys

Sgwrs gyda’n Cynfyfyriwr: Dr Matt Morgan (MBBCh 2004, PhD 2015)

Dr Matt Morgan, (MBBCh 2004, PhD 2015).
Dr Matt Morgan, (MBBCh 2004, PhD 2015).

Mae Matt yn feddyg yn uned gofal dwys Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.

Dyma ei ddisgrifiad o’i waith: “Y lle mwyaf rhyfeddol, mwyaf cymhleth ond mwyaf syml yn yr ysbyty. Syml achos ein bod yn defnyddio technoleg gymhleth a gwyddoniaeth arloesol i roi ond un peth i’r cleifion - amser. Amser inni ddarganfod beth sy’n bod arnyn nhw, amser iddyn nhw wella ac, weithiau yn anffodus, amser iddyn nhw ddweud ffarwel.”

Ar ddiwrnod arferol, bydd Matt yn cyfuno gofalu am bobl â chynnal ymchwil i wneud hynny’n well a cheisio cyfleu’r canlyniadau i bobl eraill. “Dechrau’n gynnar, gorffen yn hwyr ac yfed llawer o goffi fel arfer!”

Yn syth ar ôl graddio, roedd Matt yn feddyg yn y deheubarth ac yn gweithio 56 awr yr wythnos, gan gynnwys y rhan fwyaf o benwythnosau a gwyliau’r Nadolig. Ei ddisgrifiad o’i yrfa ers graddio yw “anhrefnus, ond mewn ffordd dda”.

Meddai: “Rwyf i wedi gweithio yn rhai o ysbytai mwyaf y wlad hon ac Awstralia, bues i yn y fyddin am sbel, fe wnes i ddoethuriaeth ynghylch defnyddio deallusrwydd artiffisial i ddibenion meddygol a dychwelais i Gaerdydd i weithio yn Ysbyty Athrofaol Cymru.”

“Dros y flwyddyn ddiwethaf, rwyf i wedi ysgrifennu fy llyfr cyntaf - ‘Critical’. Hoffwn i dywys y darllenwyr trwy adran y gofal dwys, un o fannau prysuraf ysbyty modern, lle mae digon o bwysau. Yn ystod y daith, byddan nhw’n cwrdd â rhai o’m cleifion mwyaf diddorol a chofiadwy. Trwy’r straeon hynny, byddan nhw’n dysgu am ryfeddodau’r corff dynol ac yn dathlu gwydnwch anhygoel yr ysbryd dynol. Os ydych chi’n hoff o straeon, gwyddoniaeth neu bobl, dyma’r llyfr i chi!” Pan holon ni pam dewisodd Matt astudio yma ym Mhrifysgol Caerdydd, atebodd iddo ddweud wrth diwtor gyrfaoedd ei ysgol yr hoffai fod yn debyg i Fox Mulder yn yr X-Files. “A minnau mewn ysgol gyfun yng Nghymru, dim gobaith y gallwn i gyflawni hynny, fodd bynnag. Ar ôl mynd i un o seminarau cyntaf ‘Gwyddoniaeth ym maes Iechyd’ Prifysgol Caerdydd, ymgeisiais am gwrs meddygol yno yn hytrach.”

Efallai bod hynny’n esbonio pam mae Matt mor frwdfrydig o ran cynnwys y bobl mewn ymchwil a pham mae’n ymwneud â rhai mentrau ymgysylltu megis rhaglen ‘Gwyddoniaeth ym maes Iechyd’ yr Ysgol Meddygaeth gan hysbysu a chynnwys pobl yn yr ymchwil ddiweddaraf i ofal dwys ac ysgogi meddygon a gwyddonwyr y dyfodol.

Dyma fersiwn fyrrach o'r erthygl lawn oedd yn rhifyn 32 o ReMEDy.

Darllenwch yr erthygl lawn

ReMEDy Rhifyn 32

Cymerwch gip i weld beth rydym wedi bod yn ei wneud.