Ewch i’r prif gynnwys

Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd YN FYW - Pen-blwydd yn 25 oed

LIVE banner

Ers 1995, mae Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd wedi croesawu disgyblion chweched dosbarth o bob cwr o Gymru, gyda’r nod o danio eu diddordeb a’u hysbrydoli â gwyddoniaeth gyffrous sy’n sail i reolaeth glinigol o glefydau, ac ymchwil feddygol.

Nodwedd allweddol o’r digwyddiad hwn yw dangos y modd y gall chwilfrydedd gwyddonol weithiau arwain at ddatblygiadau mawr ym maes meddygaeth. Un glasur o enghraifft yw’r modd yr arweiniodd astudiaeth o sglefrod llewyrchol y môr ymchwilwyr Ysgol Meddygaeth at ddatblygu technoleg a ddefnyddir mewn sawl can miliwn o brofion clinigol bob blwyddyn ledled y byd bellach.

Eleni, roedd y digwyddiad yn 25 oed a chafodd disgyblion gyfle eto i fod yn rhan o deithiau tywys o amgylch labordai, i gael ymdeimlad o’r cyffro a’r heriau sy’n gysylltiedig ag ymchwil fiofeddygol; ymweld ag ystod eang o arddangosfeydd rhyngweithiol, gwrando ar gyfres o sgyrsiau am bynciau llosg amrywiol ym maes gwyddoniaeth fiofeddygol yn ogystal â chwrdd â gwyddonwyr a chlinigwyr ar draws sbectrwm cyfan gyrfaoedd ym meysydd gwyddoniaeth a gofal iechyd a gofyn cwestiynau iddynt.

Video of the 25th anniversary Science in Health LIVE event.

Dros y blynyddoedd, mae wedi dod i’r amlwg fod Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd YN FYW, ochr yn ochr â mentrau eraill Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd, yn cael effaith gadarnhaol ar ddylanwadu ar ddewisiadau o ran gyrfaoedd a helpu disgyblion i wireddu’r dewisiadau hynny trwy gael mynediad i brifysgol.

Yn ôl Thomas Grother, myfyriwr meddygol yn ei bumed flwyddyn a astudiodd addysg feddygol yn rhan o’i radd ymsang y llynedd: “Fe es i ddigwyddiad Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd yn FYW pan oeddwn yn fyfyriwr chweched dosbarth. Rhoes gyfle imi edrych ar sawl cwrs gwyddoniaeth oedd ar gynnig yn y prifysgolion. Roeddwn i eisoes wedi ystyried meddygaeth, ac roedd yn wych cael cyfle i gael profiad uniongyrchol a gofyn cwestiynau i staff a myfyrwyr drwy gydol y dydd. Fe es ymlaen i wneud cais i astudio meddygaeth, a chefais gynnig lle yma ym Mhrifysgol Caerdydd. Os ydych chi’n credu yr hoffech chi astudio cwrs meddygaeth mewn prifysgol, dylech yn sicr alw heibio i seminar Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd yn FYW!”

Dyma fersiwn fyrrach o'r erthygl lawn oedd yn rhifyn 32 o ReMEDy.

Darllenwch yr erthygl lawn

ReMEDy Rhifyn 32

Cymerwch gip i weld beth rydym wedi bod yn ei wneud.