Dan y Chwyddwydr: Labordy Humphreys - deall ymatebion imiwnedd i firysau
Mae system imiwnedd ein corff yn ein hamddiffyn rhag heintiau, ond weithiau mae’n gorymateb ac yn achosi niwed i’r organau mewn proses a elwir yn llid.
Mae labordy Humphreys, a arweinir gan yr Athro Ian Humphreys, yn gymysgedd eclectig o fyfyrwyr clinigol ac anghlinigol, ymchwilwyr ôl-ddoethuriaeth a chynorthwywyr ymchwil yn yr Is-adran Haint ac Imiwnedd a Sefydliad Ymchwil Systemau Imiwnedd y Brifysgol (SIURI), sydd eisiau deall ymatebion imiwnedd i firysau a chanfod pa ddulliau sy’n rheoli’r weithred gydbwyso hon yn ein cyrff.
Mae gan labordy Humphreys ddiddordeb arbennig mewn dau firws pwysig; y ffliw a firws herpes cytomegalofirws, sy’n broblem ddifrifol mewn oedolion sydd â system imiwnedd wan (megis cleifion trawsblaniad) a phlant ifanc yn dilyn haint cynhenid. Dyma ddisgrifiad Ian: “yn astudio’r prosesau hyn mewn modelau arbrofol ac, yn achos cytomegalofirws, rydym yn gweithio gydag Uned Ymchwil Arennol Cymru i astudio heintiau derbynwyr arennau a drawsblannwyd.
Wrth astudio llid a achosir gan firws, ein nod yw datblygu strategaethau gwrthlidiol y gellir eu defnyddio’n ddiogel i drin sgîl-effeithiau niweidiol heintiau firws. Rydym hefyd yn gobeithio deall yn well sut mae pobl wahanol yn ymateb yn wahanol i firysau. I gyflawni’r nodau hyn, dyfarnwyd swm nodedig o £2 filiwn i’r labordy gan adnewyddiad Uwch Gymrodoriaeth Ymchwil Ymddiriedolaeth Wellcome.”
Mae gan labordy Humphreys hefyd ddiddordeb mewn manteisio ar firysau fel brechlynnau, gan gydweithio â labordai Andrew Godkin, Awen Gallimore a Richard Stanton. Y syniad yw gwneud yn ddiogel cytomegalofirysau na all rannu ac achosi clefydau ond sydd wedi eu creu er mwyn cynhyrchu protein a gynhyrchwyd gan ganserau. Wrth wneud hyn, gellir ‘twyllo’r’ ymateb imiwnedd i feddwl fod y canser yn rhan o’r firws. Gan fod ein system imiwnedd fel arfer yn ymateb yn gryfach i firysau na chanserau, gellir cymell ymatebion imiwnedd sy’n gallu atal datblygiad canser.
I helpu i gefnogi’r gwaith hwn, dyfarnwyd Gwobr Gydweithredol o £1.5 miliwn i’r tîm cydweithredol yn ddiweddar (dan arweiniad Andrew Godkin) gan yr Ymddiriedolaeth Wellcome.
Dyma fersiwn fyrrach o'r erthygl lawn oedd yn rhifyn 31 o ReMEDy.
Darllenwch yr erthygl lawn
ReMEDy Rhifyn 31
Cymerwch gip i weld beth rydym wedi bod yn ei wneud.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Ddim yn derbyn ReMEDy? Diweddarwch eich manylion nawr i sicrhau nad ydych yn colli mas.