Ewch i’r prif gynnwys

Sgwrs gyda’n Cynfyfyriwr: Dr Alan Eric Thomas, MBBCh (1944), MRCS, LRCP

Dr Alan Eric Thomas
Dr Alan Eric Thomas, MBBCh (1944), MRCS, LRCP.

Mae Alan, sy’n cael ei adnabod fel Eric, wedi ymddeol ac yn ddiweddar dathlodd ei ben-blwydd yn 100 oed drwy ymweld â’i gyn-feddygfa yn Sir Gaerfyrddin ble cyfarfu â rhai o’i gyn-gleifion.

Erbyn hyn mae diwrnod arferol yn cynnwys darllen ac ymlacio, meddai Eric. Fodd bynnag, cyn iddo ymddeol, treuliodd Eric 40 mlynedd mewn practis cyffredinol Meddai Eric: “Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, roeddhi’n anodd dod o hyd i bractis. Ond o’r diwedd deuthum o hyd i un ar arfordir Sir Gaerfyrddin (Cydweli a Phorth Tywyn) a threuliais 16 o flynyddoedd hapus yno gyda’m gwraig, fy mhlant, y ceffyl a’r ci. Roeddem yn byw 300m o draeth hir a choedwig Pen-bre.

Pan symudodd fy mhartner gwaith, fe’m gadawyd â phractis mawr a dim cefnogaeth. Ynystod y nosweithiau ac ar benwythnosau, roeddwn ar alwad o gartref. Fy ngwraig oedd fy nerbynydd di-dâl, yn derbyn galwadau, a doedd dim ffonau symudol na hyd yn oed peiriannau galw yn y 60au. Ar ôl bod ar alwad bob dydd am flwyddyn, penderfynais symud i bractis yn Bishopsworth, Bryste ble roedd gwasanaeth newydd: gwasanaeth dirprwyo meddygon.

Roedd fy nghleifion newydd yn ystad ymylol Hartcliffe yn wahanol iawn i’r rhai yn y practis gwledig yng Nghymru. Roedd nifer ohonynt yn gweithio i Wills Tobacco, ble roedd y gweithwyr yn cael sigaréts am ddim fel un o fanteision y swydd. Yn 1974, gwnaethant adeiladu’r ffatri sigaréts fwyaf yn Ewrop yn Hartcliffe.”

Dewisodd Eric astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, gan fod ei deulu yn byw yng Nghaerffili, felly taith 20 munud ar y trên oedd hi. Roedd enw da i’r lle hefyd. Mae Eric yn cofio bod ei amser yng Nghaerdydd yn waith caled. Dywed: “Fy hoff atgof yw gweld y postmon yn galw yn y ty â llythyr yn dweud wrthyf fy mod wedi llwyddo yn yr arholiadau terfynol.’

Mae Eric yn cofio bod yn fyfyriwr yng Nghaerdydd yn ystod y rhyfel: “Roedd yn rhaid i ni fynd i sefyll yr arholiadau yn Llundain - Tavistock Square, rwy’n meddwl. Yn ystod yr arholiad gwnaethom glywed sŵn bomiau buzz yn agosáu ac roedd yn rhaid i bawb neidio o dan y byrddau. Ar ôl i’r helynt ddod i ben dywedodd y goruchwyliwr arholiadau fel jôc, ‘peidiwch â meddwl bod hyn yn mynd i’ch pasio chi!’

Ar ôl graddio, treuliodd Eric chwe mis yn gweithio fel llawfeddyg tŷ yn Ysbyty Milwrol yr Eglwys Newydd. Meddai Eric: ”Golygai’r gwaith ein bod yn aros i’r confoiau ddod ar y trên o’r parthau rhyfel ac yna’u trin. Roedd Prydeinwyr ac Almaenwyr yno. Rwy’n cofio i ni wneud nifer o drallwysiadau gwaed, a thynnais ambell fwled o’u cyrff.

Ar ôl chwe mis, cefais fy ngalw i’r rhyfel ac ar un diwrnod oer ym mis Ionawr, euthum ar long P&O Strathnaver o Southampton drwy Gamlas Suez i Mumbai/Bombay, yna ar drên i Calcutta. Roeddwn wedi fy lleoli mewn ysbyty 100 milltir o Calcutta (Ranchi) i ddechrau, yna cefais fy anfon i Midnapore yng ngorllewin Bengal.

Dyma fersiwn fyrrach o'r erthygl lawn oedd yn rhifyn 31 o ReMEDy.

Darllenwch yr erthygl lawn

ReMEDy Rhifyn 31

Cymerwch gip i weld beth rydym wedi bod yn ei wneud.