Ewch i’r prif gynnwys

Meddyg: Iachäwr, Gwyddonydd, Arloeswr

CUReS Dragons’ Den 2018
CUReS Dragons’ Den 2018 including prize winners: Nathan Anderson (1st prize), Gurpreet Kaur (1st runner up), Anthony Wijaya (3rd runner up).

Ym mis Chwefror 2019, gwnaeth Adolygiad Topol argymhellion i weithlu’r GIG ddatblygu ac addasu gyda thechnolegau a datblygiadau’r dyfodol, fel ‘genomeg, deallusrwydd artiffisial, meddygaeth ddigidol a roboteg’.

Noda’r adroddiad mai ‘addysgu gweithlu’r GIG, nawr ac yn y dyfodol, yw’r allwedd i weithredu’r newidiadau chwyldroadol mewn arferion gofal iechyd y bydd datblygiadau technolegol yn eu cyflwyno er lles y cleifion’.

Meddai Sanchita Bhatia, Llywydd CUReS: “Ni yw dyfodol y GIG, ac mae angen i ni fel myfyrwyr nid yn unig ddysgu gwybodaeth glinigol hanfodol, ond datblygu sgiliau amryddawn hefyd mewn sut i edrych ar y byd o’n cwmpas mewn modd critigol, cwestiynu ac arloesi.”

Grŵp a arweinir gan fyfyrwyr yw Cymdeithas Ymchwil Prifysgol Caerdydd (CUReS) sy’n mynd ati i ysbrydoli myfyrwyr meddygol i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil. Eglura Sanchita: “Rydyn ni’n credu ei bod hi’n hynod bwysig i ddysgu sut i wthio ffiniau arferion gofal iechyd cyfredol drwy waith ymchwil a darganfyddiadau gwyddonol.”

Mae CUReS yn darparu cyfleoedd mentora mewn gwaith ymchwil ar gyfer myfyrwyr drwy ddiwrnodau blasu a phrosiectau ymchwil hirach dros yr haf er mwyn datblygu’r sgiliau angenrheidiol mewn meysydd amrywiol: o feddygaeth foleciwlaidd i astudiaethau mawr o’r boblogaeth.

Aiff Sanchita ymlaen i ddweud: “Gyda’r rôl amlochrog, fyth ddatblygiadol y disgwylir i glinigydd y dyfodol ei gwneud, rydym hefyd yn credu ei bod yn hynod bwysig i addysgu myfyrwyr i gwestiynu’r pethau arferol, i nodi problemau cyfredol mewn arferion clinigol ac i geisio datblygu datrysiadau. Gyda chyflwyniad ein cangen Arloesedd dair blynedd yn ôl, mae CUReS wedi cymryd camau bras o ran mynd i’r afael â’r bylchau mewn addysg feddygol ar hyn o bryd, gan helpu i baratoi clinigwyr y dyfodol.”

Dysgu i Arloesi

Dair blynedd yn ôl, lansiodd CUReS ei digwyddiad Dragons’ Den blynyddol, a chafodd hwn ei integreiddio yng Ngŵyl Arloesedd i Bawb Prifysgol Caerdydd yn ystod 2018, a’i ehangu nid yn unig i MEDIC, ond i’r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd hefyd. Cynhaliodd CUReS weithdai ar ddysgu sut i feddwl yn arloesol, ac mae wedi derbyn cyllid i ddatblygu hwn i fod yn gwrs Learn2Innovate hirach er mwyn helpu myfyrwyr i feithrin y sgiliau entrepreneuraidd a thechnegol sydd eu hangen i wireddu eu gweledigaeth.

O’r Gwely i’r Labordy

Mae clinigwyr mewn sefyllfa unigryw i allu rhoi’r claf yn gyntaf a chael dealltwriaeth o ba gwestiynau sydd angen eu hateb er mwyn gwella eu gofal, a’u holrhain yn ôl i’r wyddoniaeth i ddod o hyd i’r atebion. O ganlyniad, roedd O’r Gwely i’r Labordy yn gyfres fer o areithiau gan arbenigwyr o feysydd arbenigol amrywiol a oedd yn rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr o’u harferion clinigol, eu gwaith ymchwil a sut mae hyn yn cyfrannu’n weithredol at wella gofal cleifion.

Ymchwil i Glinigwyr

Y llynedd, cynhaliodd CUReS adolygiad o’r sgiliau ymchwil a addysgir i fyfyrwyr, a nodwyd nad oes rhai sgiliau allweddol a hynod berthnasol yn cael eu haddysgu i fyfyrwyr ar hyn o bryd. Yn dilyn hyn, datblygodd CUReS gwrs byr ymarferol a oedd yn darparu gwybodaeth drylwyr am arfarnu critigol a sut i ysgrifennu papur. Un o nodau’r Gymdeithas yw ysbrydoli myfyrwyr nad ydynt erioed wedi ystyried gwaith academaidd fel rhan o’u gyrfaoedd clinigol a dangos pwysigrwydd deall o ble y daw’r canllawiau ymarfer clinigol cyfredol, a sut maen nhw’n datblygu - er mwyn eu gwneud yn glinigwyr gwell a chryfhau eu sgiliau penderfynu.

Dyma fersiwn fyrrach o'r erthygl lawn oedd yn rhifyn 31 o ReMEDy.

Darllenwch yr erthygl lawn

ReMEDy Rhifyn 31

Cymerwch gip i weld beth rydym wedi bod yn ei wneud.