Ewch i’r prif gynnwys

Mae Canolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig ym Mhrifysgol Caerdydd yn 10 oed

Training the next generation
A core part of the Centre’s mission has been to develop the next generation of researchers capable of pushing the boundaries in genomics and neuroscience.

Mae Canolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig yn ganolfan rhagoriaeth fyd-eang ar gyfer gwaith ymchwil ar rôl geneteg mewn iechyd meddwl ac anhwylderau niwroddirywiol.

Wedi’i sefydlu yn 2009, datblygodd y Ganolfan o 10 mlynedd lwyddiannus fel Grŵp Cydweithredol y Cyngor Ymchwil Feddygol, gan ddwyn ynghyd rhaglenni ymchwil mewn meysydd fel sgitsoffrenia, anhwylder deubegynol, clefyd Alzheimer ac anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD).

Mae’r Ganolfan wedi bod yn flaengar mewn geneteg seiciatrig yn ystod y ddeng mlynedd diwethaf, nid yn unig trwy wneud datblygiadau mawr o ran nodi alelau risg penodol ac amlygu pensaernïaeth genetig anhwylderau seiciatrig ond hefyd o ran cyfleu canfyddiadau ymchwil er budd eang i’r cyhoedd.

Mae hyn wedi amrywio o arwain trafodaethau cyfoes ynghylch dosbarthiad a diagnosis seiciatrig i ddatblygu rhaglenni seico-addysg ar gyfer anhwylder deubegynol ac arloesi wrth ddefnyddio gwiriadau iechyd systemaidd ar gyfer pobl ag anableddau dysgu.

Hyfforddi’r genhedlaeth nesaf

Rhan graidd o genhadaeth y Ganolfan oedd datblygu’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr sy’n gallu gwthio’r ffiniau ym meysydd genomeg a niwrowyddoniaeth.

Mae mwy nag 80 o fyfyrwyr wedi dod drwy gynllun PhD y Ganolfan, ac wedi cynnal prosiectau sy’n amrywio o ymchwilio i’r berthynas rhwng tarfu ar gwsg a chyfnodau manig mewn anhwylder deubegynol i greu modelau polygenig ar sail celloedd ar gyfer clefyd Alzheimer.

Mae’r Ganolfan yn rhedeg cynllun mentora academaidd clinigol hefyd, sy’n rhoi’r cyfle i glinigwyr ddechrau ar eu gyrfa academaidd drwy fentora a chymorth ariannol. Mae llawer o’r rhai hynny sydd wedi elwa ar y cynllun wedi mynd ymlaen i ennill cymrodoriaethau o’r Cyngor Ymchwil Feddygol a’r Ymddiriedolaeth Wellcome.

Ymgysylltu â chymunedau

Mae ymgysylltu â’r cyhoedd wedi bod yn nodwedd graidd o waith y Ganolfan yn ystod y degawd diwethaf, yn helpu i drechu’r stigma annheg o ran problemau iechyd meddwl ac ysbrydoli plant a phobl ifanc i ddysgu mwy am eneteg, yr ymennydd a niwrowyddoniaeth.

Mae ymchwilwyr wedi cynnal ymweliadau ysgol a diwrnodau agored, wedi cydweithio â Gardd Einstein i greu ‘llyfrgell o enynnau dychmygol’ yng Ngŵyl Greenman, wedi cymryd rhan yng Ngemau’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd ac wedi cynnal gweithgareddau amrywiol fel rhan o ŵyl Ymchwil Feddygol flynyddol y Cyngor Ymchwil Feddygol. Mae’r rhain wedi cynnwys dangos ffilmiau, areithiau cyhoeddus a ffair hwyl ar thema geneteg.

Dyma fersiwn fyrrach o'r erthygl lawn oedd yn rhifyn 31 o ReMEDy.

Darllenwch yr erthygl lawn

ReMEDy Rhifyn 31

Cymerwch gip i weld beth rydym wedi bod yn ei wneud.