Mae Llywodraeth Cymru yn diolch i Brifysgol Caerdydd am godi dyheadau yng Nghymru
Mae Ysgol Meddygaeth Caerdydd wedi cofleidio ei chenhadaeth ddinesig trwy raglen gyffrous o fentrau ymgysylltu ag ysgolion ar gyfer ysgogi dyheadau disgyblion ledled Cymru a gwella eu cyrhaeddiad addysgol.
Anfonodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams AM, lythyr at ein His-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan, yn ddiweddar i gydnabod gwaith dyfal a chyfraniad gwerthfawr y Brifysgol ynghylch helpu disgyblion mwyaf addawol Cymru i gyrraedd eu llawn dwf academaidd a chryfhau eu dyheadau trwy Rwydwaith Seren (menter mae Llywodraeth Cymru wedi’i sefydlu i helpu’r disgyblion mwyaf galluog ledled y wlad i ennill lleoedd mewn prifysgolion o fri).
Mae Ysgol Meddygaeth Caerdydd wedi neilltuo amser ac ymdrech ar gyfer Rhwydwaith Seren, gan gynnal amryw sesiynau ar gyfer rhieni ac athrawon, gweithdai am ddatganiadau personol (wedi’u seilio ar achosion blaenorol) a seminarau cyfweliadau paratoadol.
Yn ogystal â’n cyfraniad at Rwydwaith Seren, mae Ysgol Meddygaeth Caerdydd yn helpu darpar fyfyrwyr ledled Cymru trwy nifer o fentrau. Mae’r myfyrwyr yn arwain Cynllun Mentora Ehangu Mynediad i Feddygaeth, sy’n helpu disgyblion y 6ed dosbarth i lunio ceisiadau a pharatoi ar gyfer cyfweliadau yn ogystal â’u cynghori ar sawl peth. Yn ystod ei flwyddyn gyntaf ar waith (2017-18), cyrhaeddodd y cynllun dros 200 o ddisgyblion mewn 26 o ysgolion a cholegau.
Mae hynny wedi digwydd o ganlyniad i ymroddiad myfyrwyr meddygol a’u gallu i deithio i ysgolion a cholegau sy’n agos at y canolfannau lle maen nhw’n bwrw tymor ledled y wlad. Mae un disgybl a elwodd ar y cynllun, Megan Bone, yn astudio ym mlwyddyn gyntaf y cwrs meddygaeth bellach. Roedd Megan yn ddiolchgar iawn am y cymorth roes y cynllun iddi.
Dyma fersiwn fyrrach o'r erthygl lawn oedd yn rhifyn 30 o ReMEDy.
Darllenwch yr erthygl lawn
ReMEDy Rhifyn 30
Cymerwch gip i weld beth rydym wedi bod yn ei wneud.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Ddim yn derbyn ReMEDy? Diweddarwch eich manylion nawr i sicrhau nad ydych yn colli mas.