O dan y sbotolau: Modiwl Anghydraddoldebau ac Iechyd Gwledig Cwrs Ymsang BSc Epidemioleg Glinigol
A’r GIG wrthi’n dathlu ei ben-blwydd yn 70 oed, yn y flwyddyn y bu Dr Julian Tudor Hart farw, mae anghydraddoldebau iechyd yn parhau i ymehangu yn y gwledydd cefnog a thlawd fel ei gilydd.
Roedd Julian Tudor Hart yn feddyg teulu yng nghymoedd y de lle y nododd Ddeddf y Gofal Gwrthgyfartal, ‘mae argaeledd gofal meddygol da yn tueddu i amrywio’n wrthgyfartal yn ôl faint mae’i angen ar y boblogaeth o dan sylw’. Mae adroddiad Syr Michael Marmot yn dweud bod trigolion ardaloedd mwyaf difreintiedig y deyrnas yn tueddu i fyw tua 10 mlynedd yn llai na phobl yr ardaloedd eraill. Mae llawer o fentrau arloesol yn mynd rhagddynt yn y GIG i gywiro hynny. Mae Modiwl Anghydraddoldebau ac Iechyd Gwledig yn enghraifft o ymdrechion Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd i’w leddfu.
Pam mae’r modiwl wedi’i lunio?
Mae mwy a mwy o dystiolaeth o’r modd y gall gwasanaethau iechyd helpu i wella deilliannau ym maes iechyd. Er bod Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu a Choleg Brenhinol y Ffisigwyr wedi cyhoeddi adroddiadau am rôl meddygon ynglyn â lleddfu anghydraddoldebau, does dim cynghorion eglur ar gwrícwlwm myfyrwyr meddygol. Mae’n anos cynnal gwasanaethau yn ardaloedd difreintiedig a gwledig Cymru am fod problemau mawr ynghylch denu a chadw staff yno, ac mae hynny’n un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
Ysgol Meddygaeth Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf sy’n cynnal y modiwl ar y cyd i annog myfyrwyr meddygol i gymharu eu profiad o gymhlethdodau cynnig gofal iechyd mewn amryw fröydd megis Cwm Taf, Powys a chanol Caerdydd, a’r gobaith yw y byddan nhw’n fwy ymwybodol o gyd-destun cymdeithasol iechyd ac yn dewis gweithio mewn ardaloedd o’r fath o ganlyniad.
Yn ôl tystiolaeth o ysgolion meddygol gwledydd megis Awstralia, Canada a’r Unol Daleithiau, mae modd denu rhagor o bobl i ardaloedd difreintiedig a gwledig trwy roi cyfle iddyn nhw fwrw tymor yno. Felly, mae cyfleoedd i fyfyrwyr gael profiad o waith mewn ardaloedd o’r fath yn elfen allweddol ynglyn â meithrin carfan o feddygon ifanc fydd yn arwain y maes hwn yn y pen draw.
Dyma fersiwn fyrrach o'r erthygl lawn oedd yn rhifyn 30 o ReMEDy.
Darllenwch yr erthygl lawn
ReMEDy Rhifyn 30
Cymerwch gip i weld beth rydym wedi bod yn ei wneud.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Ddim yn derbyn ReMEDy? Diweddarwch eich manylion nawr i sicrhau nad ydych yn colli mas.