Ewch i’r prif gynnwys

Sgwrs ag un o’n cynfyfyrwyr: Dr Ceri Todd

Dr Ceri Todd
Dr Ceri Todd MBBCh 1992, MRCGP (1996) and DFFP (1998).

Ar hyn o bryd, mae Ceri yn feddyg teulu amser llawn mewn practis prysur yng nghanol y ddinas.

Mae Ceri wedi gweithio fel Meddyg Teulu Arweiniol ar gyfer y boblogaeth ddigartref a phobl sydd mewn tai annigonol yn Abertawe ers 10 mlynedd.

Ynghyd â dwy nyrs arbenigol, mae Ceri yn cynnig gwasanaeth gofal iechyd dyddiol unigryw i’r boblogaeth ddigartref leol gan weithio’n agos iawn gyda’r trydydd sector. Mae Ceri hefyd yn cynnig gwasanaeth gofal a rennir ar gamddefnyddio sylweddau, yn feddyg carchar ac, yn ddiweddar, cymerodd rôl Arweinydd Clwstwr sy’n cynrychioli Clwstwr Iechyd y Ddinas: grŵp o 9 meddygfa yn Abertawe. Mae Ceri wedi addysgu a goruchwylio myfyrwyr meddygol yng Nghaerdydd, Abertawe a Llundain am nifer o flynyddoedd ac yn dal teitl Darlithydd Clinigol Anrhydeddus ym Mhrifysgol Abertawe.

Dyma ddiwrnod arferol yn ei bywyd, yn ôl Ceri:

“Mae’n dechrau gyda meddygfa brysur yn y bore, ac yna sesiwn rhoi cyngor dros y ffôn, gwirio canlyniadau a llythyrau cleifion, llofnodi presgripsiynau, ymweliadau cartref, Clinig i’r Digartref, Clwstwr a chyfarfodydd eraill. A daw’r diwrnod i ben yn y feddygfa eto yn y prynhawn! Mae fy niwrnod yn hir, yn brysur ac yn heriol, ond yn hynod werth chweil.”

Ar ôl holi Ceri pam y dewisodd hi Ysgol Meddygaeth Caerdydd, mae hi’n esbonio mai Caerdydd a’i dewisodd hi drwy’r broses ‘glirio’, a hithau ond yn 18.

“Cyn sefyll fy arholiadau Safon Uwch roeddwni wedi cael cyfweliadau Meddygaeth. Ar ddiwrnod y canlyniadau, cynigiodd Coleg Meddygaeth Prifysgol Cymru gyfweliad i mi, ac mae’r gweddill yn hanes. Roedd yn fraint ac anrhydedd cael y cyfle i astudio meddygaeth dim ond 30 milltir o Bontlotyn, y pentref yng Nghwm Rhymni lle cefais i fy magu."

Mae Ceri’n sôn am ei chyfnod dewisol o 8 wythnos a dreuliodd yn Penang, Malaysia fel ei chyfnod mwyaf cofiadwy fel myfyriwr yng Nghaerdydd.

“Tra’r oeddem ni’n fyfyrwyr yn y bedwaredd flwyddyn roeddem yn cael ein hannog i dreulio cyfnod yn arsylwi ac yn astudio meddygaeth mewn gwlad arall. Fe ddewisodd fy ffrind gorau a mi deithio i Penang ym Malaysia lle’r oedden ni’n gweithio mewn ward Feddygol Gyffredinol a Chardioleg. Hwn oedd ein profiad cyntaf o feddygaeth drofannol – wedi’r cyfan nid oedd y Gwibgymalwst (neu’r ‘Dengue fever’ yn Saesneg) yn cael ei weld yn aml yn wardiau Ysbytai Caerdydd!”

Yn syth ar ôl graddio, aeth Ceri ar daith ffordd i Ffrainc. Ar ôl dychwelyd, bu’n gweithio fel Swyddog Tŷ Llawfeddygol ar gyfer yr hyfryd Mr Rintoul yn Ysbyty Nevill Hall, y Fenni am chwe mis, wedi’i ddilyn gan chwe mis fel Swyddog Tŷ Meddygol yn Ysbyty Dwyrain Morgannwg.

Cwblhaodd Ceri hyfforddiant meddyg teulu (VTS Pen-y-bont ar Ogwr) ac ym 1996 cymerodd swydd Uwch-swyddog Tŷ Seiciatrig yn Ysbyty Cefn Coed, Abertawe lle bu’n gweithio ar y ward dibyniaeth, a ysgogodd ei diddordeb mewn meddygaeth dibyniaeth am y tro cyntaf. Ar ôl cael swydd Gradd Staff yn adran Damweiniau ac Achosion Brys Pen-y-bont ar Ogwr, bu Ceri’n Feddyg Teulu Locwm a daeth yn Bartner Meddyg Teulu yng Nghaerfyrddin ym 1999. Yn 2003, daeth Ceri yn Bartner Meddyg Teulu yn ei phractis presennol: Partneriaeth Meddygol Abertawe.

Dyma fersiwn fyrrach o'r erthygl lawn oedd yn rhifyn 27 o ReMEDy.

Darllenwch yr erthygl lawn

ReMEDy edition 27

Darllenwch nhw i weld beth rydym wedi bod yn ei wneud.