Ewch i’r prif gynnwys

10 ffordd rydym yn cael effaith

Mae gan yr Ysgol Meddygaeth hanes llwyddiannus o gyfrannu at y gymdeithas drwy ei gweithgarwch Ymchwil, Dysgu ac Addysgu, Arloesi ac Ymgysylltu.

Mae ymdrechion llawer o staff a myfyrwyr yn amlygu’r amrywiaeth eang o ffyrdd y mae’r Ysgol yn ymgysylltu â’r gymdeithas ac yn cynnig manteision iddi. Dyma ddeng enghraifft ddiweddar:

Mae’r Her Gwyddorau Bywyd i ddisgyblion Blwyddyn 10 yn cynnwys cystadlaethau sy’n cydredeg ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg. Mae wedi tyfu ers ei sefydlu yn 2013, ac eleni denodd geisiadau gan dros 100 o dimau, gan gynnwys bron i 500 o ddisgyblion ar draws Cymru gyfan.

Nod yr her yw ysbrydoli disgyblion i ystyried gyrfaoedd sy’n cynnwys gwyddoniaeth ac fe’i rhedir gan staff a myfyrwyr yn yr Ysgol Meddygaeth.

Roedd y rownd derfynol Cymraeg a Saesneg yn cynnwys timau o’r Gogledd a’r De - Ysgol Brynteg, Pen-y-bont ar Ogwr yn erbyn Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun, (Saesneg) ac Ysgol Bro Morgannwg, y Barri yn erbyn Ysgol Tryfan, Bangor (Cymraeg). Yr enillwyr teilwng yn 2019 oedd Tryfan a Brynteg.

Mae arbenigwyr ar firysau wedi datgelu, am y tro cyntaf, sut mae firws o’r enw Adenofirws math 26 (Ad26), sydd wedi cael ei ddefnyddio’n effeithiol ar ffurf ddof fel brechlyn, yn gallu heintio celloedd dynol. Mae’r ymchwil, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Science Advances, yn darparu’r dadansoddiad manwl cyntaf o strwythur y firws mewn ffurf gymhleth gyda’i derbynnydd newydd ei ddarganfod.

“Mae ein hymchwil yn canfod bod Ad26 yn defnyddio math o siwgr a geir ar wyneb y rhan fwyaf o gelloedd i fynd i mewn i gelloedd dynol a’i heintio,” yn ôl Alexander Baker, a arweiniodd yr ymchwil.

Drwy ddeall sut mae’r firws yn heintio celloedd dynol, mae’r tîm yn credu y bydd hyn yn eu galluogi i ddatblygu meddyginiaethau gwrth-firysau er mwyn atal ffurfiau heintus ar Ad26 rhag lledaenu, ac yn arwain ar ddatblygu brechlynnau mwy effeithiol, ar sail yr Ad26 dof, i fynd i’r afael â chlefydau heintus yn ogystal â chanser.

Ar nos Galan Gaeaf, bu dwy o gymdeithasau Prifysgol Caerdydd - MediCan a WEMS - yn gweithio gyda’i gilydd i roi diwrnod o weithgareddau cymorth cyntaf am ddim i ddisgyblion chweched dosbarth Cymru sydd â diddordeb mewn astudio meddygaeth.

Treuliwyd y bore mewn darlithoedd bach yn rhoi’r hanfodion, cyn rhoi’r disgyblion trwy eu pethau! Mae ein myfyrwyr meddygol gwirfoddol yn gweithredu fel pobl sydd wedi’u hanafu mewn senarios (dramatig iawn) gan gynnwys cynhaliaeth bywyd sylfaenol a gwaedu trychinebus.

Ar ôl i ddisgyblion Ysbyty Athrofaol Cymru orffen eu taith amser cinio, setlodd y disgyblion i lawer i gael sgyrsiau a gwneud gwaith grŵp ynghylch gwneud cais i’r ysgol feddygol. Mwynhaodd y disgyblion y diwrnod, gan roi gradd cyfartalog o 9/10 iddo!

Mae bron i £1.4 miliwn o gyllid gan Cancer Research UK wedi’i ddyfarnu i wyddonwyr i gefnogi datblygiad firysau sy’n lladd canser.

Ystyrir mai firysau “oncolytig” fydd y naid mawr nesaf ym maes trin canser. Maent yndinistrio celloedd canser ond nid ydynt yn cael effaith ar gelloedd iach.

Dywedodd Dr Alan Parker “Nid yw firysau wedi esblygu i heintio a lladd celloedd canser - yn anffodus maent yn heintio celloedd iach, gan ein gwneud yn sâl yn y broses. Mae ein hymchwil wedi canolbwyntio ar greu ‘firysau clyfar’ sy’n gallu gwahaniaethu rhwng celloedd canser a chelloedd iach.

“Ein her nesaf yw addasu’r firws i’w wneud hyd yn oed yn gryfach a chyflwyno hyn i dreialon clinigol. Bydd yr arian hwn gan Cancer Research UK yn cyflymu’r broses hon ac yn ein helpu i ddarparu’r therapïau newydd cyffrous hyn i gleifion canser yn gynt.”

Bu i’n myfyrwyr meddygol, dan arweiniad Hayley Taylor ac Elliot Phillips, myfyrwyr o’r bumed flwyddyn, ddysgu CPR i aelodau’r cyhoedd mewn lleoliadau yng Nghaerdydd fel rhan o Ddiwrnod Ailgychwyn y Galon ar ddydd Mercher 16 Hydref.

Mae Diwrnod Ailgychwyn y Galon yn fenter flwyddyn a arweinir gan Gyngor Adfywio Ewropeaid a’r Cyngor Adfywio (DU) ynghyd â phartneriaid eraill gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth a gwella nifer isel y bobl sy’n goroesi ataliad cardiaidd y tu allan i’r ysbyty.

Yn ôl Hayley: “Mae gan unrhyw un y gallu i achub bywyd. Mae cywasgu’r frest yn syml unwaith eich bod yn gwybod sut i wneud hynny, ac mae diffibrilwyr allanol awtomataidd (AEDs) yn fwyfwy cyffredin mewn mannau cyhoeddus.

“Os yw’r sgiliau hyn yn cael eu haddysgu i bobl, ac os ydynt yn sylweddoli bod AEDs wedi’u dylunio i’w defnyddio gan unrhyw un, gallent feddu ar y sgiliau a’r hyder i achub bywyd.”

Bydd gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd, sydd â’r dasg o gynllunio cyfeiriad y GIG yng Nghymru yn y dyfodol, yn cael hyfforddiant academaidd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Bydd Diploma Ôl-raddedig ym maes Cynllunio Gofal Iechyd yn cael ei gynnig i academyddion o Ysgol Busnes Caerdydd, yr Ysgol Mathemateg a’r Ysgol Meddygaeth. Bydd gweithwyr proffesiynol o bob cwr o Gymru yn rhan o’r rhaglen 18 mis o ddysgu – o’r saith bwrdd iechyd a thair o ymddiriedolaethau’r GIG.

Mae’r cwrs, sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a GIG Cymru, yn rhan o fenter ehangach i ddatblygu gweithwyr sydd eisoes yn gweithio ym maes cynllunio gofal iechyd yng Nghymru. Caiff cyfanswm o 125 o bobl eu hyfforddi dros gyfnod o bum mlynedd.

Gosododd Dr Jonathan Tyrrell a’i dîm siop yn Dewi Sant 2 yng Nghaerdydd yr haf diwethaf, gan roi cyfle i ymwelwyr ddysgu mwy am y byd microbaidd a’r bygythiad cynyddol a geir yn sgil ymwrthedd i wrthfiotigau i iechyd y cyhoedd yn fydeang.

Yn ystod y cyfnod o bythefnos, mwynhaodd 6,566 o ymwelwyr gymysgedd o weithgareddau gan gynnwys gemau, celf a chrefft ac arbrofion labordy a daeth 1,626 o bobl ifanc yn ‘Hyrwyddwyr Ymwrthedd i Wrthfiotigau’ gan gynrychioli 200 o ysgolion ledled Cymru.

Mae dyfyniadau ymwelwyr yng Archfygiau yn cynnwys:

“Roedd y plant wedi mwynhau’r digwyddiad. Roedd y gweithgareddau’n wych ac yn llawn gwybodaeth. Roedden nhw’n hoffi’r gêm curo cnau coco.”

“Diddorol i’m bechgyn, cefais fy synnu gan eu dealltwriaeth o ddefnyddio gwrthfiotigau a hapus eu bod wedi dysgu’r rheolau drwy’r siop wyddoniaeth.”

“Gweithgareddau rhyngweithiol i helpu plant i ddeall cymhlethdod gwrthfiotigau. Gorsaf 11(Ymladd yn ôl, sut rydym yn brwydro yn erbyn ymwrthedd i wrthfiotigau) oedd yr un  mwyaf poblogaidd. Gwyddonwyr brwdfrydig iawn.”

Rhagor o wybodaeth am Superbugs.

Mae’r Astudiaeth Deliriwm a arweinir gan Dr Martyn Stones, hyfforddai mwn Seiciatreg a myfyriwr PhD yn yr Ysgol Meddygaeth mewn cydweithrediad â Jan Sharp, Uwch Artist Meddygol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, yn darparu mewnwelediad unigryw i brofiad goddrychol cleifion ar y uned gofal dwys (ICU).

Mae deliriwm yn gyflwr cyffredin sy’n effeithio ar tua 20% o’r holl gleifion mewn ysbyty. Mae’r symptomau’n amrywio ac yn cynnwys diffyg gallu canolbwyntio, dryswch ac mewn achosion difrifol rhithweledigaethau gweledol a pharanoia. Nod yr astudiaeth hon yw ymchwilio i’r berthynas rhwng y newidiadau biolegol a seicolegol sy’n digwydd mewn cleifion sy’n derbyn gofal dwys ar ôl llawdriniaeth ar y galon.

Bu’r cleifion yn rhoi disgrifiad o’u rhithwelediadau i Jan Sharp a ddefnyddiodd cyfosodiad lluniau i geisio cynrychioli’r rhithwelediadau yn gywir a galluogi gwylwyr i brofi’r hyn a welsant.

Mae’r Ganolfan Ymchwil ar Dreialon yn ceisio cydgysylltu treial i edrych ar y defnydd o wrthfiotigau mewn sepsis. Mae sepsis yn gymhlethdod haint sy’n gallu bygwth bywyd ac amcangyfrifir bod 52,000 o bobl yn y DU yn marw o ganlyniad iddo bob blwyddyn. Mae’r driniaeth orau’n cynnwys ei adnabod yn gynnar, rhoi gwrthfiotigau mewn da bryd a hylifau.

Bydd y treial yn edrych ar asesu sepsis mewn argyfwng ac a oes gormod o wrthfiotigau’n cael eu rhagnodi, rhywbeth y mae arbenigwyr yn dweud ei fod yn ffactor arwyddocaol sy’n arwain at fwy o ymwrthedd gwrthficrobaidd.

Meddai Emma Thomas-Jones, uwchgymrawd ymchwil yn y Ganolfan: “Nod y treial yw asesu a yw ychwanegu prawf gwaed yn y man gofal yn gallu cynorthwyo clinigwyr i wneud penderfyniad ynghylch a oes rhaid rhoi triniaeth wrthfiotig frys mewn cleifion sy’n dod i’r adran argyfwng gydag amheuaeth o sepsis. Y gobaith yw y bydd yn arwain at leihad yn y defnydd o wrthfiotigau heb gynyddu’r perygl o farwolaeth.”

Mae ymchwil yn dangos bod dros 50,000 o blant yn y DU yn mynd i’r ysbyty gyda llosgiadau bob blwyddyn, ac mai plant o dan bump oed oedd y rhan fwyaf ohonynt. Diodydd poeth yw achos 60% o’r rhesymau pam y bydd plant o dan tair oed yn mynd i ysbytai.

Mae ymgyrch SafeTea yn seiliedig ar dystiolaeth a gasglwyd gan ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Bryste a Phrifysgol Gorllewin Lloegr. Mae wedi’i brofi mewn cydweithrediad â staff addysgu blynyddoedd cynnar a rhieni plant ifanc.

Dywedodd yr Athro Alison Kemp, a arweiniodd ar yr ymchwil: “I osgoi risg, dylai rhieni gadw diodydd poeth allan o gyrraedd plant, ni ddylent fyth basio diod boeth dros blentyn, neu ddal diod a babi ar yr un pryd. Rydym hefyd yn eu cynghori i ddysgu’r cymorth cyntaf cywir ar gyfer llosgiadau i’w helpu os bydd ddamwain: Oerwch yr ardal dan ddŵr sy’n rhedeg am 20 munud; Galwch am gyngor meddygol, Galwch Iechyd Cymru neu 999; Gorchuddiwch yr ardal gyda clingfilm. Yr eiliadau cyntaf ar ôl llosgi yw’r cyfnod mwyaf tyngedfennol ar gyfer atal niwed tymor hir.”

Darllenwch yr erthygl lawn

ReMEDy Rhifyn 33

Cymerwch gip i weld beth rydym wedi bod yn ei wneud.