Ewch i’r prif gynnwys

10 ffordd mae Medic yn cael effaith

Mae gan yr Ysgol Meddygaeth hanes llwyddiannus o gyfrannu at y gymdeithas drwy ei gweithgarwch Ymchwil, Dysgu ac Addysgu, Arloesi ac Ymgysylltu.

Mae ymdrechion llawer o staff a myfyrwyr yn amlygu’r amrywiaeth eang o ffyrdd y mae’r Ysgol yn ymgysylltu â’r gymdeithas ac yn cynnig manteision iddi. Dyma ddeng enghraifft ddiweddar:

Ers 1995, mae’r Ysgol Meddygaeth wedi croesawu disgyblion chweched dosbarth ar draws Cymru, gyda’r nod o danio eu diddordeb a’u hysbrydoli â gwyddoniaeth gyffrous sy’n sail i reolaeth glinigol o glefydau, ac ymchwil feddygol.

Eleni, roedd y digwyddiad yn 25 oed a chafodd disgyblion gyfle eto i fod yn rhan o deithiau tywys o amgylch labordai, i gael ymdeimlad o’r cyffro a’r heriau sy’n gysylltiedig ag ymchwil fiofeddygol; ymweld ag ystod eang o arddangosfeydd rhyngweithiol, gwrando ar gyfres o sgyrsiau am bynciau llosg amrywiol ym maes gwyddoniaeth fiofeddygol yn ogystal â chwrdd â gwyddonwyr a chlinigwyr ar draws sbectrwm cyfan gyrfaoedd ym meysydd gwyddoniaeth a gofal iechyd a gofyn cwestiynau iddynt.

Meddai Nicholas Alford, Dirprwy Gyfarwyddwr y Gyfadran Wyddoniaeth, Ysgol Sant Cyres: “Mae ein disgyblion yn cael gweld yr amrywiaeth eang o gyfleoedd ar gyfer gyrfaoedd yn y proffesiynau meddygaeth. Mae’r teithiau tywys o amgylch y labordai yn uchafbwynt i’r diwrnod; maent yn dangos pa mor amrywiol yw’r technegau a ddefnyddir o ran diagnosis a thriniaeth fodern. Mae’r gweithgareddau ymarferol yn gymaint o hwyl ac yn gyfle delfrydol i fyfyrwyr ac athrawon rwydweithio…. Mae’r tîm Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd yn ysbrydoli pawb; mae eu hangerdd dros eu gwaith yn amlwg yn eu brwdfrydedd ynghylch y digwyddiad. Rwy’n argymell Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd YN FYW i unrhyw athro neu athrawes Wyddoniaeth. Dyma’r daith Safon Uwch orau y byddwn yn mynd â’n disgyblion arni.”

Canfu astudiaeth, a gyhoeddwyd yn y Palliative Medicine Journal a gynhaliwyd gan ymchwilwyr yng Ngrŵp Ymchwil PISA, o blith 1072 o achosion gofal lliniarol a adolygwyd, fod pryderon wedi codi yn sgil pedair prif broblem yr oedd angen eu gwella: gwallau wrth ddarparu meddyginiaeth; sicrhau mynediad i ofal amserol; dull aneffeithlon o drosglwyddo gwybodaeth rhwng y timau gofal iechyd; a phroblemau ynghylch triniaethau nad ydynt yn seiliedig ar feddyginiaeth fel cathetrau wrinol a thiwbiau bwydo.

Teimla Dr Williams, Cymrawd Ymchwil er Anrhydedd, fod angen ystyried diogelwch ynghylch y grŵp hwn o gleifion yn llawer mwy rheolaidd. “Dim ond un cyfle sydd gennych i roi’r gofal cywir i bobl ar ddiwedd eu hoes. Dyma gyfle i wneud y profiad hwnnw yn well i bobl,” meddai.

Mae ymchwil, a gyllidwyd gan yr elusen ymchwil i gancr y gwaed, Bloodwise, wedi datblygu prawf i ragweld, yn gywir ac yn gyflym, sut y bydd pobl yn ymateb i driniaeth safonol ar gyfer y math mwyaf cyffredin o lewcemia, sef lewcemia lymffosytig cronig.

Cafodd y prawf ei ddisgrifio gan ymchwilwyr Caerdydd fel ’trobwynt’. Hefyd, gallai newid y ffordd y caiff canserau eraill, gan gynnwys myeloma a chanser y fron, eu trin. Tra bo fersiynau blaenorol o’r prawf wedi cymryd wythnos i’w prosesu, gall y canlyniadau nawr fod yn barod ymhen diwrnod.

Dywedodd yr Athro Duncan Baird, a ddatblygodd y prawf yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd gyda’r Athro Chris Fegan a’r Athro Chris Pepper: “Nid yw pob claf yn cael yr un budd o gemotherapi a’r prawf hwn yw’r unig un sydd ar gael a all ragfynegi’n gywir sut mae cleifion yn debygol o ymateb. Mae ein hymchwil yn cynnig tystiolaeth gref y dylai nifer sylweddol o gleifion fod yn derbyn triniaethau mwy priodol.”

Mae cydweithrediad rhyngwladol o ymchwilwyr wedi dod o hyd i wybodaeth arwyddocaol newydd am achosion sylfaenol clefyd Alzheimer, gan gynnwys pum genyn newydd sy’n cynyddu risg y clefyd.

Bu’r Prosiect Genomig Alzheimer Rhyngwladol (IGAP), sy’n gyfuniad o bedwar consortia, gan gynnwys y consortia Risg Genetig ac Amgylcheddol Clefyd Alzheimer (GERAD) dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, yn dadansoddi data gan dros 94,000 o unigolion sydd â chlefyd Alzheimer.

Gwnaeth y prosiect hwn, nas gwelwyd ei debyg erioed o’r blaen, a ariennir yn rhannol gan y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) ac Ymddiriedolaeth Wellcome, graffu ar fwy o ddata genetig nag unrhyw astudiaeth arall o glefyd Alzheimer hyd heddiw. Roedd rhannu’r data yn galluogi gwyddonwyr i ddod o hyd i bum newid neu amrywiad genynnol newydd sy’n dylanwadu ar y risg o glefyd Alzheimer.

Mae astudiaeth dan arweiniad ymchwilwyr yng Nghanolfan MRC ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig yn golygu y gallai mwy o bobl o dras Affricanaidd sydd â sgitsoffrenia sy’n gwrthsefyll triniaeth gymryd y cyffur (clozapine) sydd fwyaf tebygol, yn ôl y dystiolaeth, o reoli eu symptomau.

Yn wyneb canfyddiadau’r astudiaeth, mae’r tîm yn awgrymu cynnig prawf genetig fel strategaeth syml a sensitif ar gyfer rhoi diagnosis o niwtropenia ethnig diniwed cyn rhoi clozapine ar bresgripsiwn.

Gallai unigolion â’r cyflwr nad ydynt yn dangos unrhyw arwyddion o swyddogaeth imiwnedd sydd o dan fygythiad gael terfynau niwtroffil wedi’u hadolygu, yn unol â’r gweithdrefnau presennol ar gyfer monitro niwtropenia ethnig diniwed.

Byddai hyn yn caniatáu i ragor o bobl fyddai’n elwa o clozapine i ddechrau cymryd y feddyginiaeth, gan osgoi’r angen i lawer mwy i roi’r gorau i driniaeth. Yn hanfodol, mae hyn yn dibynnu ar ganlyniadau’r astudiaethau diogelwch ychwanegol, ond mae gan y prawf fferylliaeth-geneteg hwn y potensial i helpu â rheoli’r driniaeth clozapine.

Gweler y papur yma: www.nature.com/articles/s41380-018-0335-7

Gweler hefyd cyfweliad podlediad gyda Dr Sophie Legge a Dr Antonio Pardinas ynglŷn â’r astudiaeth hon yma www.ncmh.info/videos-andpodcasts/podcast/clozapine-neutropenia

Cafodd grŵp ‘Celfwaith i’r Ysbyty Plant’ ei sefydlu yn 2016 gan Charlotte Maden (a oedd yn fyfyrwraig meddygaeth 3edd flwyddyn yr adeg honno). Y weledigaeth oedd creu grŵp artistig amlddisgyblaethol ar gyfer staff a myfyrwyr gofal iechyd a fyddai’n annog creadigrwydd a dwyn budd i gleifion ac i’r gymuned ehangach.

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae tîm craidd y myfyrwyr wedi tyfu i 50 a mwy o gyfranogwyr. Wedi oriau o ddylunio, braslunio, sandio, preimio, paentio, farneisio a sychu, mae’r artistiaid wedi paentio 20 a mwy o furluniau a llawer o argraffiadau bach ar gyfer llefydd gan gynnwys ystafelloedd adfer y theatr i blant a’r ystafelloedd aros.

Yn ogystal â hynny, codwyd tua £100 gan y grŵp i gefnogi Elusen Arch Noa a gwaith artistig y dyfodol ymhellach.

Mae Llywodraeth Namibia wedi cydnabod Prosiect Phoenix y Brifysgol ar ôl iddo greu mwy na 38 o brosiectau cydweithredol yn y wlad.

Mae’r gweithgareddau pwysig newydd yn cynnwys:

  • Mur Gwyrdd Mawr Namibia: mynd i’r afael â diffeithdiro yn Namibia drwy ailgoedwigo brodorol.
  • Defnyddio ymchwil gwyddorau cymdeithasol i reoli tarddiant o Hepatitis E yn Namibia.
  • System cofnodi cleifion electronig i Namibia.
  • Cyflwyno Datblygiad Proffesiynol Parhaus i feddygon a nyrsys sy’n ymarfer yng ngogledd Namibia.
  • Pecyn Trawma Caerdydd, a gynhyrchir yn Namibia: achub bywydau ar y ffyrdd.
  • Hyfforddiant mewn ysgrifennu grantiau: addysgu academyddion sut i gael grantiau ymchwil rhyngwladol.

“Effaith y prosiect sy’n adlewyrchu ei werth go iawn,” dywedodd arweinydd Prosiect Phoenix yr Athro Judith Hall.

Cynhaliwyd digwyddiad blynyddol Gemau’r Ymennydd ddydd Sul 10 Mawrth a daeth 3,670 o bobl, y nifer uchaf erioed, drwy ddrysau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i gymryd rhan yn yr hwyl.

Roedd detholiad mawr o gemau (castell sboncio siâp ymennydd, rasys mat Stroop, gêm ddyfalu ymenyddiau anifeiliaid, rhith optegol cadair sy’n lleihau) a sioeau rhyngweithiol ar gael i’r cyhoedd drwy gydol y diwrnod. Roedd y rhain yn egluro amrywiaeth o gysyniadau gwyddonol sy’n ymwneud â’r ymennydd ac yn rhoi’r cyfle i blant ryngweithio a gofyn cwestiynau i rai o aelodau blaenllaw cymuned wyddonol Caerdydd. Yn ogystal â chael y cyfle i ymarfer Llawfeddygaeth ar yr Ymennydd gyda llawfeddygon cymwys, gallai ymwelwyr ddysgu am fôn-gelloedd archarwyr a herio eu chwilfrydedd.

Cafwyd adborth gwych ar y diwrnod: “Da iawn am gynnal digwyddiad hynod ddiddorol ac addysgiadol. Mae mor braf gweld y plantos yn dysgu heb iddyn nhw sylweddoli!”

Mae Partneriaeth Arloesedd Clinigol Caerdydd yn ceisio mynd i’r afael â’r heriau iechyd mwyaf sy’n wynebu cymdeithas. Nodwyd dementia fel blaenoriaeth arloesedd gan fod 5,000 a mwy o bobl yn ardal Caerdydd a’r Fro yn byw gyda’r cyflwr.

Gwnaeth Madeline Phillips, sy’n byw gyda chlefyd Alzheimer, feddwl am ymateb arloesol i’r her hon gan ddweud: “Mae angen i ni ddatblygu dull newydd, radical i fynd i’r afael â’r diagnosis o ddementia a’r ddarpariaeth gofal ac mae modd cyfuno’r rhain i greu rhaglen unedig a chydlynol”.

Gyda chymorth a chyllid gan Bartneriaeth Gwyddoniaeth Iechyd Academaidd Deddwyrain Cymru a Thîm Gweithredu Dementia Llywodraeth Cymru, sefydlwyd Prosiect Madeline. Mae hyn wedi creu llwyfan arbrofi arloesedd, dan arweiniad Clwstwr Gofal Sylfaenol Gorllewin Bro Morgannwg a bydd yn ‘cynllunio ac yn cyflawni gwasanaethau gofal iechyd a fydd yn arwain yn fyd-eang o ran ateb anghenion pobl sy’n wynebu risg o ddementia neu’n byw gyda’r clefyd’.

Dyluniodd Dr Sarju Patel, Dr Jeff Allen a Dr Thanasi Hassoulas brosiect peilot mewn cydweithrediad â phrosiect Porth Cymunedol Prifysgol Caerdydd. Cafodd PACE (Hyrwyddo Rhagoriaeth Academaidd) ei sefydlu i weithio gydag ysgolion gan geisio ysbrydoli myfyrwyr i ystyried astudio gwyddoniaeth, meddygaeth neu raglenni eraill sy’n ymwneud â gofal iechyd yn y Brifysgol.

Ers mis Tachwedd 2018, mae 30 o fyfyrwyr meddygaeth wedi bod yn cynnal sesiynau wythnosol ar gyfer 20 a mwy o ddisgyblion Blwyddyn 9 i wella’r ffordd y caiff y cwricwlwm gwyddoniaeth ei ddysgu a’i addysgu.

Mae’r disgyblion yn dweud eu bod wedi mwynhau “dysgu gyda ffrindiau” a “chwrdd â myfyrwyr prifysgol a dysgu am fyd meddygaeth”. Mae’r myfyrwyr meddygaeth yn ei chael yr un mor werthfawr, gan ei fod yn gwella eu sgiliau addysgu a chyfathrebu.

Darllenwch yr erthygl lawn

ReMEDy Rhifyn 31

ReMEDy Rhifyn 31

30 Ebrill 2019

Cymerwch gip i weld beth rydym wedi bod yn ei wneud.

PDF