Ewch i’r prif gynnwys

Cefnogi person ifanc sy’n ymgeisio i ysgol feddygol

Os ydych chi'n rhiant neu'n gefnogwr person ifanc sy'n breuddwydio am ddod yn feddyg, efallai eich bod yn pendroni am y ffordd orau i gynnig cymorth.

Rydyn ni yma i'ch helpu chi i'w helpu i lywio drwy bob rhan o'r broses ymgeisio yn hyderus.

Gweithgareddau allgyrsiol

Anogwch amrywiaeth eang o weithgareddau allgyrsiol o Flwyddyn 10 ymlaen

Chwaraeon, clybiau ysgol neu weithgareddau artistig - mae cael amrywiaeth eang o ddiddordebau yn wych er mwyn sôn amdanyn nhw yn y datganiad personol. Mae hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer annog y person ifanc i ymlacio yn ystod cyfnod yr arholiadau a’r cyfweliadau sy'n gallu peri straen. Anogwch nhw i ddilyn eu diddordebau a’u hangerdd, ac i ddewis gweithgareddau a allai ddatblygu sgiliau arwain a gweithio mewn tîm i hybu eu cais. Mae angen i feddygon allu gweithio'n rhan o dîm, cyfathrebu'n dda a bod yn ddisgybledig, ac mae'n bosib dangos hyn i gyd drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau y tu allan i waith ysgol.

Dewis ysgol feddygol

Dechreuwch feddwl pa ysgolion meddygol yr hoffen nhw ymgeisio iddyn nhw ym Mlwyddyn 11 neu 12.

Efallai fod gan y person ifanc syniad da yn barod ble yr hoffai astudio – neu efallai mai angerdd am feddygaeth a dod yn feddyg sy’n eu hysgogi. Gallwch eu cefnogi drwy helpu i lunio rhestr fer o brifysgolion posibl i wneud cais iddyn nhw. Edrychwch ar wefannau a pholisïau Derbyn, ewch i Ddiwrnodau Agored, siaradwch â myfyrwyr presennol, ewch i unrhyw weminarau mae Prifysgolion eu cynnal. Edrychwch ar wefan y Cyngor Ysgolion Meddygaeth, sy'n ddefnyddiol iawn ar gyfer creu rhestr fer o ysgolion i edrych arnyn nhw'n fanylach.

Mewn Diwrnodau Agored, gall fod yn ddefnyddiol cael rhestr o gwestiynau'n barod cyn eich ymweliad, yn seiliedig ar beth rydych chi a'r person ifanc wedi'i weld ar wefan y Brifysgol. Yn dilyn yr ymweliad, gallech chi wneud nodiadau am farn y person ifanc am y cwrs, profiad y myfyriwr neu'r lleoliad, er mwyn gallu edrych yn ôl arnyn nhw'n ddiweddarach.

Profiad gwaith

Dechreuwch helpu i drefnu profiad gwaith cyn gynted â phosibl (cyn Blwyddyn 12 os gallwch chi), i helpu i gefnogi eu cais ym Mlwyddyn 13.

Ein cyngor i ymgeiswyr yw dod o hyd i brofiad mewn rôl gofalu neu wasanaeth, naill ai â thâl neu’n wirfoddol, yn y byd iechyd neu faes cysylltiedig. Yn ddelfrydol byddai'r person ifanc yn cael profiad gwaith gyda chyfle i arsylwi cleifion neu weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill. Gall amrywiaeth o brofiadau gwahanol fod o gymorth.

Efallai y bydd gan Bennaeth Chweched Dosbarth neu gynghorydd gyrfaoedd y person ifanc gysylltiadau a all helpu i sicrhau profiad gwaith. Fel arall, efallai fod gan y bwrdd iechyd neu’r ysbyty lleol Adran Addysg fyddai'n gallu helpu gyda’r math hwn o gais.

Gall fod yn anodd dod o hyd i brofiad gwaith mewn lleoliadau gofal iechyd, felly mae’n werth meddwl am unrhyw gysylltiadau sydd gennych chi sy’n gweithio mewn lleoedd yn gysylltiedig ag iechyd gan gynnwys cartrefi gofal, meddygfeydd neu ysbytai a gweld a fydden nhw'n fodlon i’ch plentyn eu cysgodi.

Meddyliwch yn greadigol – mae ysbytai yn aml yn orlawn gyda cheisiadau profiad gwaith, ond gallai gwirfoddoli mewn cartref gofal, hosbis neu fferyllfa leol gynnig llawn cymaint o gyfleoedd i gael tystiolaeth o empathi a phroffesiynoldeb. Os ydyn nhw'n awyddus i gael profiad mewn ysbyty, bydd angen trefnu hynny'n gynnar iawn, gan fod y lleoliadau poblogaidd hyn yn cael eu sicrhau ymhell ymlaen llaw.

Ar ôl pob cyfnod o brofiad gwaith, gall fod yn ddefnyddiol sgwrsio am yr hyn a ddysgodd y person ifanc a’u hannog i wneud nodiadau ar eu hargraffiadau. Bydd y rhain yn ddefnyddiol wrth ysgrifennu datganiad personol, ac mewn cyfweliadau yn yr ysgolion meddygaeth.

UCAT

Os yw'r person ifanc yn bwriadu mynd yn syth i'r Brifysgol ar ôl Safon Uwch, bydd angen sefyll yr UCAT yn ystod yr haf rhwng Blynyddoedd 12 a 13.

Mae'r prawf cymhwysedd meddygaeth hwn yn ofyniad derbyn ar gyfer bron pob ysgol feddygol yn y DU. Dim ond unwaith ym mhob cylch derbyn y gall person ifanc ei sefyll. Dyw hi ddim yn bosibl ei gario ymlaen o un flwyddyn i'r nesaf, felly os nad ydyn nhw'n llwyddo i fynd i ysgol  feddygol am unrhyw reswm ac yn dymuno ailymgeisio, bydd yn rhaid sefyll y prawf eto. Mae pob ysgol feddygol yn defnyddio'r UCAT mewn ffordd wahanol. Gallwch weld sut mae Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd yn defnyddio sgoriau UCAT yn y broses dderbyn ar y dudalen Cwestiynau Cyffredin Derbyn a'r Polisi Derbyn. Gallai ymchwilio i sut mae'r ysgolion meddygol a ddewiswyd yn defnyddio UCAT yn eu prosesau eu helpu i ymgeisio’n strategol, gan ddibynnu ar ba mor dda y perfformiodd y person ifanc yn y prawf. Atgoffwch y person ifanc y bydd angen trefnu'r prawf –fydd yr ysgol ddim yn gwneud hyn ar eu rhan!

Gallwch helpu eich person ifanc i baratoi ar gyfer y prawf drwy ei helpu i ymchwilio i gynnwys yr arholiad a phenderfynu ar drefn adolygu, a pha mor fuan cyn y prawf y dylen nhw ddechrau adolygu. Gall eu helpu i ddod o hyd i gwestiynau ymarfer ar-lein ac ymchwilio i'r hyn y mae'r prawf yn debygol o'i gynnwys gyda'ch gilydd fod yn ddefnyddiol iawn.

Byddwch chi'n gwybod sut maen nhw'n ymdopi â straen - mae sicrhau digon o gyfleoedd iddyn nhw ymlacio a gwneud y pethau maen nhw'n hoffi eu gwneud y tu hwnt i astudio’n bwysig iawn hefyd. Os ydyn nhw'n ei chael yn anodd ymlacio, atgoffwch nhw o bwysigrwydd cymryd seibiannau ar gyfer eu hiechyd meddwl. Ewch â nhw allan dros y penwythnos efallai, neu awgrymwch ffilm i'w wylio gyda'ch gilydd i dynnu eu meddwl oddi ar astudio.

MMIs

Dechreuwch ymarfer ar gyfer MMIs cyn gynted â phosibl – yn enwedig ar ôl cael gwahoddiad i gyfweliad

Mae'r Gyfres o Gyfweliadau Byr (MMI) yn rhan allweddol o'r broses ymgeisio i lawer o ysgolion meddygol y DU.

Gellir cynnal MMIs ar-lein neu wyneb yn wyneb, a byddan nhw'n cynnwys nifer o orsafoedd wedi’u hamseru lle bydd angen i’r person ifanc ddangos gwybodaeth a chymhwysedd mewn amrywiol rinweddau a phynciau gwahanol. Gall rhai gorsafoedd fod yn brofion ysgrifenedig.

Y ffordd orau i helpu'r person ifanc gyda MMIs yw ei helpu i wneud amser i baratoi - rhestrwch eu cyflawniadau a'r hyn y maen nhw wedi'i ddysgu drwy brofiad, yn ogystal ag ymchwilio i'r math o gwestiynau a allai gael eu gofyn. Gan fod yr MMIs yn golygu siarad, gallwch chi eu helpu hefyd trwy ymarfer ateb cwestiynau a'u hamseru er mwyn iddyn nhw deimlo'n gyfforddus wrth ateb cwestiynau o fewn terfyn amser. Mae'n normal iawn bod yn nerfus cyn y cyfweliadau, felly mae eu hannog i gymryd seibiannau rheolaidd ac amser iddyn nhw eu hunain i helpu i reoli straen yn bwysig iawn hefyd.

Daliwch ati i ymgeisio

Mae meddygaeth yn bwnc poblogaidd iawn ledled y DU, ac yn aml mae llawer mwy o geisiadau na lleoedd. Oherwydd hyn, bydd llawer o fyfyrwyr meddygol llwyddiannus wedi gorfod ymgeisio am le fwy nag unwaith, hyd yn oed gyda record academaidd berffaith. Sicrhewch eich bod yn cynllunio ar gyfer y posibilrwydd na fydd y person ifanc yn llwyddo i gyrraedd ysgol feddygol ar y cynnig cyntaf. Gall trafod Cynllun B fod yn ddefnyddiol iawn – boed hynny’n golygu edrych ar radd wahanol, dewis llwybr mynediad i raddedigion, neu gymryd blwyddyn i ffwrdd cyn ailymgeisio.